Hyd triniaeth yn ysbytai Cymru y mwyaf yn y DU, medd ymchwil

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Claf mewn gwely
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd BBC Cymru fynediad i un o ysbytai bwrdd iechyd Cymru er mwyn gweld cymaint yw'r pwysau sy'n wynebu staff

Mae amser triniaeth cleifion yn yr ysbyty dros 60% yn hirach yng Nghymru nag yn Lloegr yn ôl gwaith ymchwil newydd.

Mae'r data yn dangos fod cleifion yn aros ar gyfartaledd am saith niwrnod yn ysbytai Cymru - y cyfnod hiraf mewn unrhyw wlad o fewn y Deyrnas Unedig.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Nuffield, mae hyn, ynghyd â'r cyfnodau hir o aros ar gyfer triniaeth wedi'i chynllunio ac unrhyw lawdriniaeth, yn golygu fod nifer o gleifion yn "colli allan ar y gofal y dylen nhw ei ddisgwyl."

Dywedodd pennaeth y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru (GIG) fod y gwasanaeth "dan bwysau enfawr".

"Bob dydd mae cannoedd os nad miloedd yn cael gofal da gan GIG. Dwi ddim yn derbyn ein bod ni mewn sefyllfa o argyfwng," meddai Prif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget.

Yn ystod y deng mlynedd diwethaf mae'r amser mae cleifion wedi aros yn yr ysbyty wedi gostwng i ychydig dros bedwar diwrnod yn Lloegr yn ôl gwaith ymchwil gan elusen Ymddiriedolaeth Nuffield.

Mae'r ffigwr yn saith niwrnod ar gyfartaledd yng Nghymru gyda'r gwaith ymchwil yn dangos fod y bwlch cyfartalog yn cynyddu.

'Dim gwelliant ers degawd yng Nghymru'

Dywedodd Mark Dayan o Ymddiriedolaeth Nuffield wrth raglen Wales Investigates y BBC fod amser aros claf yn yr ysbyty yn allweddol o safbwynt effeithiolrwydd rhedeg y GIG oherwydd ei fod yn "mesur faint o gleifion allwch chi gael drwy'r system".

"Mae hynny'n golygu er gwaetha' bod â rhagor o nyrsys ac er gwaetha' bod â rhagor o welyau - dydyn nhw ddim yn gweld yr un cynnydd yn eu gallu i drin rhagor o gleifion," meddai.

"Does 'na fawr o welliant wedi bod yng Nghymru dros y ddegawd diwethaf chwaith.

"Felly dwi'n teimlo ein bod ni angen edrych o ddifrif ar y posibilrwydd fod Cymru ddim yn llwyddo i drin cleifion yn saff yn yr amser gallen nhw gael eu trin yn Lloegr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed staff yn Ysbyty Maelor Wrecsam eu bod o hyd yn gorfod dod o hyd i welyau a gofal addas i gleifion

Dydi Mr Dayan ddim wedi'i argyhoeddi mai'r ateb yw fod Cymru yn wlad o bobl hŷn a salach.

"Pan chi'n cymharu Cymru â, nid yn unig Lloegr ond yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd ill dwy ag angen uchel am ofal iechyd - efallai uwch na Chymru, mae gan y ddwy wlad yna arosiadau byrrach yn yr ysbyty ar gyfartaledd na Chymru," ychwanegodd.

Yn ogystal â'r amser sydd ei angen ar gyfer triniaeth ysbyty, mae'r bwlch rhwng amseroedd aros ar gyfartaledd cyn cyfeirio claf am driniaeth yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr wedi cynyddu hefyd.

Cyn Covid roedd rhaid aros 11 wythnos yng Nghymru o'i gymharu ag wyth wythnos yn Lloegr. Bellach mae'n 24 wythnos yng Nghymru ac 13 wythnos yn Lloegr ar gyfartaledd.

"Os ydych chi angen gofal wedi'i gynllunio, chi'n debygol o aros ddwywaith mor hir ag y byddech chi yn Lloegr," dywedodd Mr Dayan.

"Ac mae hynny ddwywaith mor hir ag amser aros yn Lloegr - dyw'r gwasanaeth yno ddim yn cwrdd â'u targedau.

"Mae cleifion yng Nghymru wir yn colli allan ar y gofal y dylen nhw ddisgwyl ei dderbyn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwil yn dangos bod gan Gymru 270 wely cyffredinol ar gyfer 100,000 o bobl - hynny i gymharu â 170 yn Lloegr

Dyw'r targed Cymreig o weld a thrin 95% o gleifion mewn Unedau Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru o fewn pedair awr erioed wedi'i gyrraedd - ac mae'r sefyllfa'n gwaethygu.

Fis diwethaf daeth i'r amlwg fod amseroedd aros y Gwasanaeth Ambiwlans ac Unedau Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru yn agos i'r lefel gwaetha' erioed.

Daw rhybudd Ymddiriedolaeth Nuffield wrth i raglen Wales Investigates ddilyn staff rheng flaen bwrdd iechyd mwyaf Cymru yn ystod tymor gaeaf diwethaf a hynny er mwyn canfod y pwysau a'r heriau mae staff yn eu hwynebu.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ambiwlans ei alw at Catherine Magliocco wedi iddi gael poenau yn ei brest

Fe wnaeth y tîm gwrdd â Catherine Magliocco wnaeth aros 12 awr mewn ambiwlans tu allan i Uned Damweiniau a Gofal Brys yng ngogledd Cymru ar ôl cael ei chludo i'r ysbyty yn cwyno o boenau yn ei brest.

Oherwydd diffyg lle a heriau staffio yn Ysbyty Maelor Wrecsam doedd dim modd ei throsglwyddo i ofal staff yr ysbyty a bu'n rhaid iddi aros mewn ambiwlans.

Yn y pen draw, cafodd Catherine ei chludo i ystafell driniaeth ar gyfer asesiad cychwynnol.

Ond wrth iddyn nhw aros am feddyg i roi archwiliad iddi, cafodd Catherine a chleifion eraill eu hystyried yn ddigon sefydlog i fynd yn ôl i'r ambiwlans eto gan bod yr uned yn llawn.

"Mae'n amlwg bod llawer o waith i'w wneud gyda phobl eraill," meddai Catherine.

Mae amseroedd aros Uned Ddamweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Wrecsam Maelor wedi bod ymhlith y gwaetha' yng Nghymru gyda'r ffigyrau diweddara' ar gyfer Ebrill 2022 yn dangos fod llai na 40% o gleifion yn aros am bedair awr neu lai o'i gymharu â'r cyfartaledd o ychydig dros 65% ar draws Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lindsey Bloor, rheolwr uned damweiniau ac achosion brys Wrecsam ei bod yn flin ganddi bod ei hadran yn tangyflawni ond bod y "system yn ddiffygiol"

Mae Lindsey Bloor, rheolwr unedau damweiniau ac achosion brys yr ysbyty yn cydnabod fod ymddiheuro i gleifion am gyfnodau o aros annerbyniol yn rhywbeth mae'n rhaid iddi wneud yn rheolaidd ond dywedodd na allai staff wneud mwy i leihau'r pwysau a'u bod yn dioddef oherwydd y system.

"I mi mae cael rhywun allan ar ambiwlans am naw awr yn anghyfforddus iawn," meddai.

"Yn aml mae gennym gynllun i ddod â'r person hiraf i mewn ond yna bydd rhywun yn dod i mewn i'r ystafell aros gyda phoenau yn y frest, er enghraifft, ac mae'n fwy brys yn glinigol na chlaf sy'n sefydlog ar gefn ambiwlans."

Mae'r pwysau i ddod o hyd i ofal addas ar gyfer cleifion Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr (BIBC) yn bwysau cyffredin ar draws Cymru.

Mae prinder gweithwyr gofal cymdeithasol yn y gymuned wedi cael y bai am greu gwasgfa yn y system a does dim modd rhyddhau cleifion sy'n ddigon iach yn feddygol o wardiau ysbytai i'r gymuned.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Er bod gan Gymru fwy o welyau a nyrsys mae ymchwil gan Nuffield Trust yn dangos bod gan Gymru lai o ymgynghorwyr y pen na Lloegr

Yn ôl Mr Dayan dylai'r gwaith ymchwil fod yn rybudd o'r heriau sy'n wynebu'r GIG yng Nghymru a sut allan nhw ddysgu gwersi gan wasanaethau iechyd eraill ar draws y DU.

Mae 'na heriau mawr ar gyfer y rhai sy'n rhedeg byrddau iechyd Cymru ac yn ôl Cyfarwyddwr Meddygol BIBC, Nick Lyons, mae 'na "ddigwyddiadau annerbyniol" o bobl yn aros yn rhy hir i gael eu gweld.

"Mae'n bwnc enfawr," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed cyfarwyddwr meddygol Betsi Cadwaladr Nick Lyons ei fod yn "bryderus" am y pwysau sydd ar staff

"Mae'r niferoedd yn uchel ac yn uwch nag yr ydw i ac unrhyw un un arall yn gyfforddus ag o.

"Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus i beidio defnyddio Covid fel esgus. Mae Covid wedi cyfrannu at flinder ein staff ac at mwy o bwysau.

"Ond mae 'na adegau wedi bod pan 'da ni wedi bod mewn lle na ddylai ni fod ynddo."

Er bod gan Gymru fwy o nyrsys a gwlâu y pen o'r boblogaeth na Lloegr, mae ymchwil Ymddiriedolaeth Nuffield yn tynnu sylw at y ffaith bod gan Gymru lai o ymgynghorwyr.

Yn gynharach yr wythnos hon fe wnaeth y Coleg Nyrsio Brenhinol ddweud bod mwy na hanner nyrsys Cymru wedi digalonni oherwydd argyfwng staffio. Daw wrth i'r GIG yng Nghymru amcangyfrif fod 1,700 o swyddi nyrsio yn wag.

Dywedodd staff wrth raglen Wales Investigates fod cydweithwyr wedi bod "yn eu dagrau oherwydd y pwysau a'r llwyth gwaith" a bod cadw a denu staff yn bryder i benaethiaid byrddau iechyd.

"Dwi yn poeni. Fe fydd 'na bobl sy'n flinedig," ychwanegodd Mr Lyons.

"Mae staff fyddai efallai nawr yn edrych ar eu pensiwn i weld os yw'n caniatáu iddyn nhw ymddeol yn gynnar - a bydd hynny o bosibl yn heriol i ni oherwydd bod 'na lwyth o waith yn aros i'w wneud."

Dywedodd prif weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, fod mater amseroedd aros am driniaeth yn "hynod gymhleth" a bod Cymru a Lloegr yn "wahanol iawn".

"Dwi'n cydnabod ein bod ni angen cyflwyno rhai o'r newidiadau sydd mewn lle," meddai.

"Mae adnoddau ar gael gan Lywodraeth Cymru i wneud hynny ac fe fyddai i a phawb sy'n gweithio i'r GIG yng Nghymru yn ceisio dwysáu'r ymatebion hynny wrth i ni symud ymlaen."

"Mae'n system hynod gymhleth… dydi o ddim yn rhywbeth all y GIG wneud ar ei ben ei hun."

Am ragor ar y stori yma, gwyliwch BBC Wales Investigates ar BBC 1 Cymru ddydd Iau 9 Mehefin am 20:00 neu gwyliwch yn ôl ar BBC iplayer.