Dechrau achos dynladdiad gweithiwr safle ailgylchu
- Cyhoeddwyd
Mae'r achos wedi dechrau yn erbyn cyfarwyddwr cwmni ailgylchu sydd wedi ei gyhuddo o ddynladdiad gweithiwr a fu farw ar ôl mynd yn sownd mewn peiriant.
Mae Stephen Jones yn gwadu achosi marwolaeth Norman Butler trwy esgeulustod difrifol ar safle Recycle Cymru ym Mae Cinmel fis Tachwedd 2017.
Roedd Mr Butler, oedd yn 60 oed ac o Brestatyn, ond wedi gweithio i'r cwmni fel gyrrwr fan am fis pan aeth yn sownd mewn peiriant sy'n gwasgu cardbord gwastraff yn giwbiau mawr yn barod i'w hailgylchu.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod Mr Butler ar ben ei hun yn y warws pan gerddodd at felt cludo i glirio rhwystr, cyn iddo syrthio i'r peiriant.
Daeth cydweithiwr o hyd i'w gorff dair awr yn ddiweddarach ac fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw.
Dywedodd patholegydd wrth gwest mai'r casgliad cychwynnol oedd bod Mr Butler wedi marw yn sgil colli maint anferthol o waed.
Roedd yna ymchwiliad i'r achos gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch ac fe gafodd Mr Jones, 60, ei gyhuddo o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol.
Dyletswydd gofal
Mae'r erlyniad yr honni bod Mr Jones wedi torri'r ddyletswydd ofal i Mr Butler trwy fethu â sicrhau hyfforddiant priodol i drin y peiriant.
Clywodd y rheithgor bod Mr Jones a'r cwmni wedi pledio'n euog i gyhuddiadau llai difrifol, sef methu â sicrhau iechyd a diogelwch eu gweithwyr, ond mae'r erlyniad yn honni bod y methiannau'r fwy difrifol na'r hyn sy'n cael ei gyfaddef.
Yn ôl yr erlynydd Craig Hassall QC roedd Stephen Jones wedi cynnal ei fusnes "heb unrhyw sylw i ddiogelwch ei weithwyr".
Dywedodd: "Roedd ganddo bolisïau annigonol ar bapur, nad oedd yn adlewyrchu'r hyn oedd yn digwydd ddydd i ddydd yn y busnes."
Ychwanegodd bod Mr Jones "ddim yn darparu hyfforddiant, systemau gwaith na goruchwyliaeth ddigonol ac roedd ei arferion yn beryglus eithriadol. Rydym ni'n dweud bod yr esgeulustod yn ofnadwy o wael."
Mae'r achos yn parhau.
*Mewn fersiwn flaenorol o'r erthygl hon, defnyddiwyd llun anghywir ac rydym yn ymddiheuro am hynny.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2017