Teulu Michael O'Leary: Anodd bob dydd wedi llofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
"Does dim un dydd nad yw marwolaeth fy mrawd yn mynd trwy'n meddwl ni."
I chwaer y diweddar Michael O'Leary o Nantgaredig ger Caerfyrddin, "mae'n anodd bob dydd, ni just yn gorfod cymryd un dydd ar y tro a cario mlaen fel bydde'n brawd ni ishe ni neud".
Yn Hydref 2020 carcharwyd Andrew Jones am oes am lofruddio Mr O'Leary wedi iddo ddod i wybod am berthynas rhyngddo a'i wraig.
Daw sylwadau Lesley Rees ar drothwy digwyddiad yn Aberystwyth i nodi effaith llofruddiaethau ar deuluoedd, ac wrth i'r Angel Cyllyll adael y dre - mae'r cerflun wedi bod ynghanol y dref ers ddechrau'r mis.
Iddi hi mae'n hanfodol bwysig nodi effaith llofruddiaeth neu ddynladdiad ar deuluoedd, ac mae hi a'r teulu wedi elwa o gymorth ac yn cynorthwyo elusen SAMM, dolen allanol (Support after Murder and Manslaughter).
Mae Ms Rees wedi cymhwyso i weithio gyda SAMM ac mae'n gallu cynnig cymorth yn Gymraeg.
'Doedd neb yn deall'
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth dywedodd Ms Rees: "Mae'r ymgyrch yma'n bwysig dwi'n meddwl, i egluro i bobl yr effaith mae'n gael ar deuluoedd...
"Mae'r sefydliad i fi'n helpu wedi helpu ni llawer, achos mae pawb sy'n gwirfoddoli gyda nhw wedi dioddef o golli rhywun trwy lofruddiaeth neu ddynladdiad.
"Mae'n bwysig dwi'n credu rhoi'r neges allan ei fod e'n effeithio arnon ni am weddill ein hoes.
"Ar ôl y digwyddiad, gawson ni gymorth gyda victim support a tra bo' nhw'n bobl hyfryd doedd neb yn deall fel o'n ni'n teimlo."
"Ffeindion ni SAMM, ac ro'n ni'n cael cefnogaeth un-i-un ar y ffôn ac roedd gyda nhw hefyd pop-up cafes bob nos Fawrth i fenywod a bob nos Fercher i ddynion.
"O'dd e'n neis gallu siarad â pobl oedd wedi bod drwyddo'r profiad ac yn gwybod yn gwmws sut o'n ni'n teimlo. O'n i'n teimlo wedyn bod beth o'n i'n deimlo yn normal yn ein sefyllfa ni - bo' ni ddim yn colli'n pen.
"Maen nhw hefyd yn gwneud penwythnosau i bobl... yn Crewe. Roedd hwnna'n anhygoel. O'n ni ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl - es i a'n chwaer-yng-nghyfraith lan bythefnos yn ôl.
"O'n ni'n nerfus iawn, ond 'aethon nhw ni i deimlo mor gartrefol.
"Erbyn diwedd y penwythnos, 'nethon ni ffrindiau gyda teulu bach arall, a pawb yn deall yn gwmws fel o'n ni'n teimlo - o'ch chi'n gallu chwerthin gyda nhw a llefen gyda nhw, a just bod yn chi'ch hunan."
'Anodd bob dydd'
Ychwanegodd bod cymorth o'r fath yn hanfodol gan bod modd rhannu'r baich gyda rhywun sy'n deall.
"Mae'r cymunedau wedi bod yn arbennig o dda - yn enwedig teulu Nant [Nangaredig] fel maen nhw'n galw'u hunain, a'r clwb rygbi'n anhygoel, chi'n gwybod," meddai.
"Ond mae pawb yn meddwl bo' ni'n cario mlaen gyda bywyd a bod popeth yn normal. Ond mae hwn yn cefn ein meddylie ni bob dydd.
"Does dim un dydd dyw e ddim yn mynd trwy'n meddwl ni, beth ddigwyddodd, ac atebion dy'n ni ddim yn gwybod hyd yn hyn, a sai'n credu fyddwn ni byth yn gwybod.
"Mae'n anodd bob dydd, ni just yn gorfod cymryd un dydd ar y tro a cario mlaen fel bydde'n brawd ni ishe i ni neud.
"Tra bod y gymuned yn hyfryd, mae'n anodd, ac mae'n haws siarad gyda rhywun sy'n gwybod shwd y'n ni'n teimlo."
Wrth i'r Angel Cyllyll ffarwelio ag Aberystwyth dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys: "Mae 'di bod yn ffocws, yn gyfle i godi ymwybyddiaeth am drais o bob math.
"Mae Lesley yn sôn am ei phrofiadau hi, sy'n rhai unigryw iawn pan y'n ni'n sôn am lofruddiaeth.
"Mae'n werth i ni ddatgan ein diolch ni i Lesley a'r gwaith mae hi wedi ei wneud gyda'r elusen.
"Mae hi nawr wedi cymhwyso ar lefel personol fel mentor, a nawr yn medru rhoi'r cymorth hwnnw yn yr iaith Gymraeg sy'n rhywbeth unigryw."
"Dwi wedi bod yn cydweithio gyda'r teulu er mwyn codi ymwybyddiaeth a gwella'r gwasanaeth sydd i unigolion ar ôl y digwyddiadau erchyll hyn sy'n digwydd.
"Achos, dim ond hyn a hyn fydd y swyddogion heddlu'n gallu gwneud, felly bydd rhaid cydweithio gydag elusennau fel SAMM ac eraill i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth cyson hwnnw i ddioddefwyr.
"Mae dioddefwyr yn derm eang iawn - mae'n cynnwys y teulu, a hefyd yr ymateb yn y gymuned, sydd wedi bod yn weladwy iawn yn Nantgaredig yn benodol," ychwanegodd Mr Llywelyn.
Yn ystod y digwyddiad yn Aberystwyth bydd yr actor Julian Lewis Jones yn darllen cerdd.
Ychwanegodd Lesley Rees: "Fi'n ddiolchgar iawn i Julian, oedd yn ffrind mawr i'm mrawd, ac mae e wedi cytuno i ddod i ddarllen darn o farddoniaeth mae un o'r gwirfoddolwyr wedi ei ysgrifennu, a ni wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg, so bydd Julian yn ei ddarllen e yn Gymraeg a Saesneg."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2020