Mwy o droseddau cyllyll: Ofnau teuluoedd dioddefwyr
- Cyhoeddwyd
Mae brawd dyn a gafodd ei drywanu i farwolaeth yn dweud ei fod yn pryderu dros ei fab ifanc yn sgil cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu herlyn am fod â chyllyll yn eu meddiant.
Bu farw brawd Daniel Maddocks, Craig, ar ôl cael ei drywanu 52 o weithiau yn Wrecsam yn 2013.
Mae ffigyrau newydd yn dangos fod nifer y ceryddon neu ddedfrydau am droseddau'n cynnwys cyllyll neu arfau bygythiol y llynedd ar ei lefel uchaf yng Nghymru ers 2011.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn "benderfynol o droi'r fantol".
Mae ystadegau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos cynnydd o 30% ers 2014 yn nifer y bobl gafodd gerydd neu ddedfryd am gario cyllell yng Nghymru.
Yn y 12 mis hyd Medi 2019, fe ddeliodd heddluoedd Cymru â thros 1,000 o achosion.
Mae Mr Maddocks, 36, o Wrecsam, yn hyfforddwr gwirfoddol yng Nghlwb Bocsio Amatur Bwcle ac mae'n cydweithio â Heddlu'r Gogledd gan ymweld ag ysgolion a rhybuddio disgyblion ynghylch effaith cario cyllell.
"Rydach chi'n gweld bod y neges yn taro tant oherwydd mae'n dod gan rywun sydd wedi cael ei effeithio... nid dim ond colli fy mrawd, yr effaith ar y teulu cyfan."
Dywed Mr Maddocks ei fod wedi profi gorbryder ac iselder ers colli ei frawd, a'i fod yn "pryderu am fy mab ifanc".
"Dwi'n gwybod bod hynny'n swnio'n ddrwg, ond mae [oedran troseddwyr] yn mynd yn 'fengach ac yn 'fengach," meddai.
"Mae oedolion yn gwneud o hefyd. Roedd y dyn a laddodd fy mrawd yn ei 50au hwyr."
Pan gafodd Francisco John Prevete ei garcharu am oes am lofruddio Craig Maddocks yn nhoiledau tafarn y Cambrian Vaults, dywedodd y barnwr bod yr ymosodiad yn "filain a ffyrnig".
Roedd Craig Maddocks yn focsiwr proffesiynol ac roedd y brodyr yn arfer hyfforddi gyda'i gilydd.
Siaradodd y ddau ar y ffôn oriau cyn y llofruddiaeth.
"Ro'n i jest yn gofyn 'pam, pam, pam', achos byddai Craig byth yn chwilio am helynt," meddai Daniel, "ond pan gafodd ei drywanu hefo cyllell, mae'n stori wahanol."
Ystadegau heddluoedd Cymru
Heddlu De Cymru wnaeth gofnodi'r nifer fwyaf o achosion, sef 506, ond Heddlu Dyfed-Powys welodd y cynnydd mwyaf.
Roedd yna 166 o achosion yn 2019 yno, o'i gymharu â 121 yn 2018 - cynnydd o 37%.
225 o achosion oedd yna yn rhanbarth Heddlu Gogledd Cymru - y nifer uchaf ers 2015.
Roedd yna 170 cerydd neu ddedfryd yn ardal Heddlu Gwent - nifer uchaf y rhanbarth ers 2012.
Mae mam dyn 20 oed a gafodd ei drywanu yn Rhuddlan, Sir Ddinbych yn 2009 yn dweud bod yr ystadegau diweddaraf yn "frawychus".
Bu farw Anthony Burke yn yr ysbyty noswyl Nadolig 2009, ddiwrnod ar ôl cael ei drywanu ar y stryd gan gymydog 19 oed.
Honnodd Oliver Taylor, a gafodd ddedfryd carchar am oes yn 2010, ei fod yn ceisio "dychryn" criw o ddynion oedd yn taflu peli eira.
Dywedodd Cindy Burke: "Mae'n frawychus, dydych chi ddim yn gwybod beth sydd gan bobl arnyn nhw erbyn hyn.
"Mae angen eu cosbi, mae'r sefyllfa tu hwnt i reolaeth."
Mae bywyd, medd Mrs Burke, yn annioddefol ar brydiau ers colli ei mab.
"Dwi'n pryderu am fy wyres fach yn tyfu, gyda'r holl droseddau cyffuriau a chyllyll," meddai.
"Dim ond pan rydych chi'n y sefyllfa yma rydych chi'n gweld sut mae pethau go iawn. Mae'n agoriad llygad."
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder, Chris Philp AS fod Llywodraeth y DU "yn recriwtio 20,000 yn rhagor o swyddogion heddlu, yn ymestyn pwerau atal ac archwilio ac yn sicrhau bod y troseddwyr mwyaf treisgar yn treulio cyfnodau hirach dan glo".
"Dylai'r ffigyrau yma fod yn rhybudd clir i'r rhai sy'n cario cyllyll - rydych yn fwy tebygol o gael eich carcharu, ac am gyfnodau hirach, nag ar unrhyw gyfnod yn y degawd diwethaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd12 Awst 2019
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2014