Achos Nantgaredig: Carchar am oes i Andrew Jones

  • Cyhoeddwyd
Andrew JonesFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i Andrew Jones dreulio o leiaf 30 mlynedd dan glo cyn y gellir ystyried ei ryddhau

Mae dyn wedi ei ddedfrydu i oes o garchar ar ôl i lys ei gael yn euog o lofruddio cariad ei wraig yn Sir Gaerfyrddin ar ôl dod i wybod am y berthynas.

Fe wnaeth Andrew Jones, 53, ddenu Michael O'Leary, 55, i'w fferm anghysbell ym mis Ionawr eleni a'i saethu, cyn cludo'i gorff i'w iard adeiladu yng nghar ei wraig a'i losgi.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod darn o goluddyn dynol mewn drwm olew ar eiddo'r diffynnydd, Fferm Cincoed, yn perthyn i Mr O'Leary.

Cafwyd Jones yn euog gan reithgor yn gynharach ym mis Hydref, a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 30 mlynedd dan glo cyn y gellir ystyried ei ryddhau.

Roedd yr amddiffyniad wedi ceisio dadlau mai "damwain erchyll" oedd y farwolaeth, yn hytrach nag achos o lofruddiaeth.

Dywedodd Jones iddo fynd â dryll i'w gyfarfod gyda Mr O'Leary "i godi ofn arno" ond i'r dryll danio ar ddamwain pan wnaeth ei gyfaill neidio amdano.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Nid ddaeth yr heddlu o hyd i gorff Michael O'Leary o Nantgaredig

Yn ystod yr achos dywedodd Jones ei fod wedi adnabod Michael O'Leary am tua 25 mlynedd ac roedd yn ei ystyried fel ei "bumed neu chweched" ffrind gorau.

Clywodd y llys fod y negeseuon rhwng y diffynnydd a'i wraig yn awgrymu fod eu priodas dan straen wedi i Jones ddarganfod fod ei wraig yn cael perthynas â Mr O'Leary.

Roedd Jones wedi anfon negeseuon at Mr O'Leary o ffôn cudd ei wraig, Rhiannon Jones, er mwyn ei ddenu i'r fferm - ac yna ei ladd.

Ar ôl diflaniad Mr O'Leary, fe wnaeth Jones anfon nifer o negeseuon ar ei ffôn at ei ffrindiau yng Nghlwb Rygbi Nantgaredig yn gofyn a oedd yna "unrhyw newyddion" am Mr O'Leary.

Dywedodd un o'r negeseuon "gallai ddim dod dros Mike," ac yna ychwanegodd, "gobeithio ei fod yn Sbaen yn partïo neu rywbeth".

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr heddlu o hyd i ddarn o berfedd Mr O'Leary mewn hen gasgen olew

Ond mewn gwirionedd roedd Jones wedi ceisio cuddio'r hyn a wnaeth drwy barcio car Mr O'Leary ger Afon Tywi a cherdded tua'r afon yn gwisgo ei esgidiau rhedeg.

Yna fe feiciodd yn ôl i'r fferm cyn cludo'r corff i'w gartref a'i losgi.

Ar ôl i Jones gael ei arestio ddiwedd Ionawr, daeth yr heddlu o hyd i waed ar beiriant codi nwyddau yn Fferm Cincoed.

Clywodd y llys bod profion DNA yn dangos ei fod yn cyfateb gyda phroffil DNA Mr O'Leary.

Roedd profion DNA hefyd yn dangos olion gwaed Mr O'Leary ar eitemau eraill yn cynnwys pâr o jîns yng nghartref Jones, esgidiau ymarfer a chist car roedd Jones yn gyrru ar y noson y diflannodd Mr O'Leary.

Roedd olion gwaed hefyd ar grys rygbi roedd Jones yn gwisgo.

'Bwystfil' a 'chachgi'

Cafodd teulu Mr O'Leary gyfle i annerch y llys a disgrifio effaith y llofruddiaeth arnynt, gyda'i feibion yn cyfeirio eu datganiadau at Jones yn uniongyrchol.

Dywedodd mab hynaf Mr O'Leary, Wayne wrth Jones ei fod yn "fwystfil" ac yn "gachgi".

"Oherwydd gweithredoedd trist, hunanol Andrew Jones dy'n ni'n dal ddim yn gwybod beth ddigwyddodd i gorff ein tad, na'r hyn ddigwyddodd iddo'r noson honno," meddai.

"Fe fyddan ni wedi hoffi cael angladd ond does dim modd i ni wneud hynny.

"Dyw e ddim yn gallu cyfaddef ac ymddiheuro hyd yn oed."

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd fferm Jones ei archwilio gan yr heddlu

Wrth iddi ei ddedfrydu dywedodd y Barnwr Nerys Jefford bod y ffaith fod Jones wedi dinistrio corff Mr O'Leary wedi ymestyn ei gyfnod dan glo, gan "achosi rhagor o drawma" i'r teulu wrth iddyn nhw chwilio amdano am ddyddiau.

"Eich dadl yn yr achos oedd eich bod wedi ymddwyn mewn panig yn dilyn marwolaeth Michael O'Leary, wedi i chi fynnu ei fod yn ddamwain," meddai.

"Doedd eich gweithredoedd ddim yn cyd-fynd â rhai rhywun mewn panig - roedden nhw'n bwyllog, wedi'u cynllunio ac yn effeithiol.

"Roedden nhw hefyd yn llwfr, ac fe wnaethon nhw atal y teulu rhag gallu cynnal angladd.

"Fe wnaeth Mike O'Leary rhywbeth o'i le, ond doedd e ddim yn haeddu talu am hynny gyda'i fywyd."