Achos Mwangi yn 'hunllef' ond 'does dim cefnogaeth i reithwyr'
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o reithgor mewn achos llofruddiaeth plentyn yn dweud ei bod wedi dioddef trawma difrifol a hunllefau, a'i bod wedi methu dychwelyd i'w gwaith.
Cafwyd mam Logan Mwangi, Angharad Williamson, ei lystad, John Cole, a Craig Mulligan, 14, yn euog o lofruddio'r bachgen pum mlwydd oed, ac fe gafodd y tri ddedfrydau oes ddydd Iau.
Bu'n rhaid atal yr achos droeon am fod y dystiolaeth yn achosi cymaint o loes i Dr Joselyn Sellen ac aelodau eraill o'r rheithgor.
Mae'n galw am fwy o gefnogaeth, gan gynnwys therapi, i reithgorau mewn achosion trawmatig.
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlys Ei Mawrhydi yn dweud eu bod yn ymwybodol o bwysigrwydd lles aelodau rheithgor.
'Aros gyda fi am byth'
Cafodd corff Logan ei ddarganfod yn Afon Ogwr ger Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Gorffennaf 2021.
Yn ôl yr erlyniad roedd wedi cael ei daflu fel sbwriel anghyfreithlon.
Roedd wedi dioddef ymosodiad creulon yn ei gartref, ac roedd ei anafiadau'n debyg i'r rhai sy'n cael eu gweld mewn damweiniau car.
Seicolegydd yw Dr Sellen, ac mae'n dweud mai'r dystiolaeth anoddaf iddi hi a gweddill y rheithgor wrando arno oedd gan bediatrydd fu'n disgrifio'r hyn fyddai Logan wedi ei ddioddef yn ystod ei oriau olaf.
"Roedd hyn yn anghredadwy o anodd," meddai.
"Oherwydd mae eich dychymyg yn mynd â chi i lefydd tywyll iawn pan y'ch chi'n gwrando ar y math yna o dystiolaeth. Mae'n achosi gymaint o loes."
Dywedodd hefyd na fydd hi fyth yn gallu anghofio rhai o'r delweddau a welodd hi yn y llys, yn enwedig fideo o gamera y plismon ddaeth o hyd i Logan.
"Fe fydd hwnnw'n aros gyda fi am byth."
Yn ôl Dr Sellen roedd hi'n ddiolchgar mai lluniau cyfrifiadurol welodd y rheithgor o anafiadau Logan.
Byddai gweld yr union luniau o'r 56 anaf wedi bod yn dorcalonnus, meddai.
Cyfaddefodd Dr Sellen bod y dystiolaeth, a'r cyfrifoldeb o ddod i ddyfarniadau yn achos y tri diffynnydd - un dal yn blentyn - wedi cael effaith ddinistriol ar ei bywyd y tu allan i'r llys.
"Gwnaeth yr achos gymryd drosodd fy mywyd. Fe wnes i ddioddef trawma llwyr."
Byddai clywed rhywbeth mor syml â phlentyn yn chwerthin yn mynd â hi 'nôl i'r achos, meddai.
"Byddwn ni'n meddwl - sut oedd e i Logan? Oedd e byth yn chwerthin? Beth ddigwyddodd os oedd e'n llefain?"
Mae'n dweud iddi ddioddef hunllefau cyson, gan fethu cysgu, a gor-ymateb i'r pethau lleiaf.
Er bod ffrindiau'n gefnogol, dywedodd bod dim modd iddi drafod yr achos gyda nhw.
Yn unol â'r drefn dyw aelodau rheithgor ddim i fod i drafod achos gydag unrhyw un arall oni bai am ei gilydd - hyd nes iddo ddod i ben.
Dydyn nhw chwaith ddim i fod i rannu'r hyn gafodd ei drafod gan y rheithgor yn ystod yr achos.
'Dim cymorth proffesiynol ar gael'
Dywedodd Dr Sellen bod ei merch 15 oed yn ceisio ei chysuro heb wybod yn iawn pam ei bod hi'n crio gymaint, a'i bod yn llefain bron yn ddyddiol.
"Ar ôl gollwng fy merch yn yr ysgol fe fyddai ton o emosiwn yn fy nharo. Fe fyddwn ni'n llefain hyd nes i fi gyrraedd y llys," meddai.
"Fe fyddwn ni'n eistedd yn y car yn meddwl gyda fy holl enaid nad oeddwn i am fynd i mewn, ond roeddwn i'n gwybod bod gen i ddyletswydd."
Cefnogaeth ei chyd-aelodau o'r rheithgor wnaeth hi'n bosib iddi barhau, meddai.
Anaml iawn y mae aelodau rheithgor yn siarad yn gyhoeddus, ond mae Dr Sellen am rannu ei phrofiad am ei bod hi'n dymuno gweld newid.
"Doedd yna ddim cymorth proffesiynol ar gael drwy'r llys," meddai, gan ddadlau bod gan y llysoedd ddyletswydd i ofalu am reithgorau.
"Roedd y tywyswyr, staff diogelwch, y barnwr - pawb yn y llys - yn ffantastig ond doedden nhw ddim wedi'u hyfforddi yn nhermau therapi trawma."
Cysylltu â'r Samariaid neu feddyg teulu oedd cyngor y llys, a dywedodd iddi gael sgyrsiau "byr iawn" gyda'r ddau.
Galw am fwy o gymorth
Mae Dr Sellen yn galw am therapydd trawma i fod ar gael mewn achosion lle mae 'na dystiolaeth dorcalonnus.
"Rhywun all barchu cyfanrwydd a gonestrwydd y broses ond a all hefyd gynorthwyo'r rheithgor i bweru ei hunain i fwrw 'mlaen a'u bywydau."
Mae hi hefyd yn galw am sgrinio pobl am broblemau iechyd meddwl a thrawma cyn cael eu dewis i fod ar reithgor.
Er i'r barnwr Mrs Ustus Jefford roi cyfle iddyn nhw wrthod cymryd rhan, mae Dr Sellen o'r farn bod y broses yn frawychus ac na chafodd ddigon o gyfle i ystyried.
"Mae'n anodd codi eich llaw ar y pryd gerbron y barnwr i ddweud 'dwi ddim yn credu y galla' i ymdopi â hyn'."
Mae pennaeth adran y Gyfraith ym Mhrifysgol Glyndŵr yn cefnogi galwadau Dr Sellen am fwy o gefnogaeth i reithgorau.
Yn ystod 20 mlynedd fel cyfreithiwr fe wnaeth Dylan Rhys Jones gynrychioli'r llofrudd cyfresol Peter Moore, ac mae'n cydnabod i'r achos hwnnw adael ei ôl arno'n bersonol.
Dywedodd: "Dylse fod yna strwythur mewn lle, yn fy marn i, lle mae 'na gyngor a chefnogaeth yn cael ei gynnig i unigolion sy' wedi bod drwy brofiadau erchyll fel hyn a bod yna gyfle i siarad am yr hyn ma' nhw'n teimlo.
"Bod yna gyfle i fynd trwy'r profiad a dod allan ohono fo yn deall beth sydd wedi digwydd ac ymgyfarwyddo hwyrach â'r hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw."
Mae hefyd am weld yr un gefnogaeth i bawb sy'n gweithio yn y system droseddol - gan gynnwys bargyfreithwyr a chyfreithwyr hunangyflogedig.
Mae'r cyn-gwnsler cyffredinol, y bargyfreithiwr Winston Roddick QC, yn eilio hynny.
Mae natur tystiolaeth fodern - y defnydd o luniau camerâu er enghraifft - yn gallu ychwanegu at y straen, meddai.
"Mae'r sŵn yn gliriach, y lluniau yn gliriach ac felly mae'r digwyddiad yn fwy byw o flaen y rheithgor nag oedd o.
"Dim cyfweliad, dim trosglwyddiad gan rywun yn egluro ac yn dehongli'r dystiolaeth - maen nhw'n gallu gweld y dystiolaeth bron llaw gyntaf ac mae hynny'n tueddu i greu loes."
Ond mae Mr Roddick yn pwysleisio pwysigrwydd annibyniaeth y rheithgor, ac yn mynnu mai ar ôl yr achos ddylai'r cymorth fod ar gael i'r rhai sydd ei angen.
"Dim pawb sy'n gallu gwrthsefyll y profiad, ac i rai sydd ddim yn gallu gwrthsefyll y profiad dwi'n credu dylen nhw gael rhywfaint o gymorth wedi'r achos," meddai.
"A dwi'n credu mai'r llysoedd ddylai roi y gefnogaeth yna iddyn nhw yn hytrach na iddyn nhw fynd at eu meddygon."
'Hwn oedd fy hunlle' gwaethaf'
Dwedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlys Ei Mawrhydi bod "gwasanaethu ar reithgor yn un o'r dyletswyddau dinesig mwyaf pwysig y gall unrhyw un ei wneud ac ry'n ni'n cydnabod pwysigrwydd lles drwy gydol y broses".
"Ymhob achos mae'r barnwr yn ceisio sicrhau cyfiawnder heb achosi pryder gormodol i unrhyw aelod o'r rheithgor.
"Mae hyn yn gallu cynnwys rhybudd am dystiolaeth all beri loes ynghyd â chynnig ystod o gefnogaeth, er enghraifft gan feddygon teulu neu'r Samariaid."
Ar ddiwedd achos Logan Mwangi fe ddiolchodd y barnwr i'r rheithgor am wasanaeth cyhoeddus eithriadol, gan eu hesgusodi o'r ddyletswydd eto.
Dyw Dr Sellen ddim am ail-fyw'r profiad: "Hwn oedd fy hunlle' gwaetha' - i fod ynghlwm ag achos oedd mor drawmatig.
"Fydden i ddim am wasanaethu ar reithgor eto, yn enwedig gan nad oes cefnogaeth i reithwyr."
Bydd rhaglen arbennig BBC Wales Today: Logan Mwangi, A Boy Betrayed, ar BBC One Wales am 20:30 nos Iau, ac ar iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2022