Gwrthod adolygiad o wasanaethau wedi marwolaeth Logan Mwangi

  • Cyhoeddwyd
LoganFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Logan Mwangi ei dynnu oddi ar y Gofrestr Diogelu Plant fis cyn ei farwolaeth

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gwrthod galwadau am adolygiad annibynnol i wasanaethau cymdeithasol plant yn dilyn marwolaeth Logan Mwangi.

Cafodd Logan Mwangi ei lofruddio gan ei fam, ei lystad a bachgen 14 oed ym mis Gorffennaf 2021.

Bu farw'r bachgen pump oed ar ôl dioddef ymosodiad "milain ac estynedig" yn ei gartref, gan achosi anafiadau "catastroffig".

Dywedodd arbenigwr fod gan y system "broblemau dwys" a'i bod mewn argyfwng.

Dywedodd Mr Drakeford bod "pwysau aruthrol" ond ychwanegodd: "Ni ddylem symud at ymateb cyffredinol ar gefn un digwyddiad".

Cafodd corff Logan ei roi yn Afon Ogwr ger ei gartref yn Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd y teulu'n adnabyddus i'r gwasanaethau cymdeithasol ond cafodd Logan ei dynnu oddi ar y Gofrestr Diogelu Plant fis cyn ei farwolaeth.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Disgrifiwyd Logan Mwangi fel plentyn annwyl a hapus gan un o'i gymdogion

Dywedodd Mr Drakeford wrth orsaf radio LBC: "Bydd adolygiad achos difrifol i'r digwyddiadau yn ymwneud â marwolaeth drasig y plentyn hwnnw.

"Byddwn yn aros i hwnnw gael ei gwblhau i weld a oes unrhyw bwyntiau mwy cyffredinol ynddo y bydd angen i ni eu tynnu allan ar sail ehangach."

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn meddwl nad oedd hi byth yn "gywir i ruthro i mewn i rywbeth cyffredinol iawn o'r hyn sy'n set benodol iawn o amgylchiadau".

System 'mewn argyfwng'

Roedd yn cydnabod bod gwaith cymdeithasol "dan bwysau aruthrol".

Roedd hyn, meddai, "yn rhannol oherwydd yn ystod y pandemig, nid oedd gweithwyr cymdeithasol yn gallu ymweld a chwrdd â phlant yn y ffordd y byddent fel arfer".

"Nawr maen nhw'n gorfod gwneud iawn am ôl-groniad o waith nad oedden nhw'n gallu ei gyflawni yn y ffordd arferol.

"Dydw i ddim yn meddwl bod angen ymchwiliad i ddweud hynny wrthon ni," ychwanegodd, gan ddweud bod ffigyrau ac archwiliadau wedi dangos hyn yn barod.

"Os ydych chi'n mynd i ddargyfeirio egni, amser, sylw ac arian i ymchwiliad, mae'n rhaid i chi fod yn hyderus iawn y byddai'n datgelu atebion nad oes gennym ni eisoes."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd prinder gweithwyr cymdeithasol cyn y pandemig, ac fe waethygodd y sefyllfa oherwydd Covid-19

Yn ôl un arbenigwr, dylid cynnal adolygiad annibynnol o wasanaethau cymdeithasol plant yng Nghymru yn dilyn llofruddiaeth Logan Mwangi.

Dywed yr Athro Donald Forrester - arbenigwr ar wasanaethau cymdeithasol plant a theuluoedd - bod "problemau dwys" o fewn y system a'i bod bellach "mewn argyfwng".

Mae cangen Cymru o Gymdeithas y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW Cymru) yn cytuno, gan ddweud na chafodd y sector ei gynnwys wrth baratoi'r ymateb i Covid-19 ar ddechrau'r pandemig.

Cymru 'ar ei hôl hi'

Dywed yr Athro Donald Forrester, bod "dipyn go lew" o farwolaethau plant wedi bod yng Nghymru a'r DU lle'r oedd angen adolygiadau gyda'r gwasanaethau cymdeithasol.

Galwodd am adolygiad annibynnol o holl waith gwasanaethau cymdeithasol plant yng Nghymru - fel y rhai sy'n cael eu cynnal yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae Cymru "ar ei hôl hi" trwy beidio cynnal un, meddai.

Ychwanegodd: "Nid yw'n ddigon da i gario 'mlaen fel yr ydyn ni, pan rydym yn gwybod nad yw hynny'n gweithio. Mae angen i ni feddwl am ffyrdd radical o wneud pethau, o bosib.

"Os ydych chi'n parhau i wneud yr un pethau, fedrwch chi ddim disgwyl cael canlyniadau gwahanol.

"Bydd gennym niferoedd uchel iawn o blant mewn gofal, a byddwn yn dal i deimlo nad ydym yn eu diogelu, ac mae'r ddau beth yn perthyn i'w gilydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi cyflwyno trefniadau diogelu newydd, cryfach.