'Llai o dai haf yng Ngwynedd yn sgil treth uwch'

  • Cyhoeddwyd
Aberdyfi
Disgrifiad o’r llun,

Gwynedd sydd â'r nifer uchaf o ail gartrefi yng Nghymru

Mae nifer yr ail gartrefi yng Ngwynedd wedi gostwng, yn rhannol oherwydd treth newydd sydd ceisio mynd i'r afael â'r broblem ail gartrefi, medd y cyngor sir.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, roedd yna 4,720 o ail gartrefi yn y sir, o'i gymharu â 5,098 y llynedd.

Y llynedd fe benderfynodd y cyngor i godi'r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi o 50% i 100%, yn sgil ofnau bod pobl leol methu fforddio i brynu tai yn eu cymunedau.

Dywedodd llefarydd bod y polisi'n "gweithredu fel gwrthanogaeth i fod yn berchen ar, neu brynu ail gartref yn yr ardal".

Mae'r cyngor hefyd yn dweud bod y gostyngiad o 7.4% yn sgil ceisiadau gan berchnogion i ailddosbarthu eu heiddo'n unedau gwyliau hunan-arlwyo.

Mae Gwynedd ar hyn o bryd yn codi premiwm 100% yn achos 3,746 o gartrefi. Mae yna bremiwm 100% hefyd yn siroedd Abertawe (ar 1,284 o gartrefi), a Phenfro (3,794).

Mae cynghorau Ynys Môn, Dinbych a Sir Y Fflint yn codi premiwm o 50% ar hyn o bryd, a 25% yw'r premiwm yn Sir Conwy.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae poblogaeth Abersoch yn codi o 600 i 30,000 yn yr haf

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Llafur, Mark Drakeford, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price bolisi newydd fel rhan o cytundeb cydweithredu'r ddwy blaid, sy'n rhoi'r hawl i awdurdodau lleol reoli niferoedd ail gartrefi a chartrefi gwyliau.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod "yn cydweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu mesurau newydd i reoli nifer y cartrefi gwyliau yn yr ardal".

Darlun cymysg

Dywedodd y cyngor mai'r bwriad yw "atal perchnogion ail gartrefi rhag newid statws eu heiddo i osgoi talu'r premiwm treth cyngor a chynyddu nifer y tai sydd ar gael i bobl leol am bris fforddiadwy".

Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru, dolen allanol hefyd yn amlygu darlun cymysg ymhlith cynghorau eraill sy'n codi premiwm treth cyngor o 100% ar ail dai yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid talu premiwm 100% ar ail gartref mewn llefydd fel Dinbych-y-Pysgod, yn Sir Benfro

Yn Sir Benfro, fe gododd nifer yr ail gartrefi o 4,068 yn 2021/22 i 4,216 eleni.

Ond roedd yna ostyngiad yn Sir Abertawe yn yr un cyfnod - o 2,104 i 1,585.

Dywed Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mai "megis rhan o'r broblem dai" yw ail gartrefi.

Mae'r mudiad ymgyrchu'n galw am ddeddfwriaeth i sicrhau bod pobl leol "â'r hawl i gartref ac yn cael eu blaenoriaethu".

Dywedodd cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy'r Gymdeithas, Jeff Smith: "Mae yna gefnogaeth ymhlith y cyhoedd i fesurau o'r fath."

Pynciau cysylltiedig