A fydd codi estyniad yn golygu trethi uwch i berchnogion?
- Cyhoeddwyd
Nid oes penderfyniad wedi ei wneud ynghylch cynyddu biliau treth i bobl sy'n rhoi estyniad ar eu cartrefi, meddai gweinidog llywodraeth.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar yr ailbrisiad treth cyngor cyntaf ers 20 mlynedd y flwyddyn nesaf.
Ddydd Mawrth, fe wnaeth swyddogion drafod a ddylai eiddo sy'n cynyddu mewn gwerth ar ôl iddyn nhw gael eu haddasu symud i fand treth uwch.
Ond, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ei fod yn "gwestiwn agored" ac yn "gwestiwn bwriadol".
Fe awgrymodd y byddai'r newid yn gwneud y "system yn fwy teg".
Mae'r rhai sy'n feirniadol o'r drefn bresennol yn dweud eu bod wedi dyddio oherwydd ei fod yn seiliedig ar hen werthoedd eiddo, ac nad yw'n trethu pobl ar incwm is yn deg.
O dan y cynlluniau bydd y bandiau treth cyngor a neilltuwyd i 1.5m eiddo preswyl Cymru yn cael eu hailasesu gan ddefnyddio gwerth eiddo o 1 Ebrill y flwyddyn nesaf.
Gallai gostio tua £10m dros dair blynedd, gyda chyfraddau treth newydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2025.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, nad yw'r cynigion diwygio "fel petaent yn dod â ni'n agosach at y newidiadau systemig sydd eu hangen".
Fel rhan o'r ymgynghoriad, mae swyddogion yn ystyried a ddylai cartrefi gael eu gosod mewn band gwahanol os bydd gwelliannau sylweddol, fel estyniad, yn newid eu gwerth.
Fe wnaethon nhw drafod y mater mewn cyfarfod ddydd Mawrth, ond ni ddaethant i benderfyniad.
Ar hyn o bryd yng Nghymru, dim ond ar ôl iddyn nhw gael eu gwerthu y mae eiddo sydd wedi cael gwelliannau yn symud band.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae pobl yno yn cael eu hannog i roi gwybod am unrhyw newidiadau i'w heiddo - a gallai hynny olygu fod gwerth yr eiddo yn cael ei ailasesu.
Yn ôl rhai fe allai'r drefn bresennol yng Nghymru achosi annhegwch rhwng eiddo sydd wedi cael ei werthu a'r rhai sydd heb.
Ond mae eraill yn dadlau y byddai system debyg i un Gogledd Iwerddon yn gwneud i bobl ailfeddwl cyn gwneud gwelliannau.
Pwy sy'n gosod y dreth?
Mae lefel y dreth gyngor yn dibynnu ar werth y tŷ, sydd wedi ei seilio ar amcangyfrif gafodd ei wneud yn 2003.
Mae tai yn cael eu rhoi mewn bandiau o A i I.
Y cartrefi yn Band A - sydd â gwerth wedi ei amcangyfrif o lai na £44,0000 - sy'n talu'r lleiaf o dreth.
Band I - sy'n cynnwys tai a gwerth o dros £424,000 - sy'n talu fwyaf.
Mae yna fwy o dai yn Band C yng Nghymru (65,001 - £91,000) nac unrhyw fand arall.
Dywed Llywodraeth Cymru nad yw'r bandiau presennol yn cynrychioli gwir werth y tai yng Nghymru.
Mae'r dreth gyngor yn cyfrannu dros £2bn i goffrau'r awdurdodau lleol yng Nghymru - gyda'r rhan helaeth o'r arian yn mynd tuag at addysg a gwasanaethau cymdeithasol.
'Talu am wasanaethau hanfodol'
Tan bod yr ailbrisiad wedi ei wneud yn 2023, bydd dim modd gwybod faint o bobl fydd yn elwa neu fydd ar eu colled oherwydd y newidiadau.
Yn ôl adroddiad yn 2019 gan Sefydliad Astudiaethau Ariannol yr IFS - fe allai ailbrisiad o'r system bresennol weld 26% o dai yn mynd lawr band, 26% yn codi band, gyda 49% yn aros yn eu hunfan.
Y tro diwethaf i ailbrisiad o'r system gael ei wneud, fe wnaeth un o bob tair aelwyd orfod talu mwy. Ond dywed Rebecca Evans, gweinidog cyllid a llywodraeth leol, nad bwriad y newidiadau yw codi mwy o arian.
"Tra ei bod yn bosib y byddai rhai yn talu mwy, byddai nifer o bobl eraill yn talu llai.
"Mae'r dreth gyngor yn talu am wasanaethau lleol hanfodol, ond mae'r modd mae'n cael ei godi yn cael effaith anghyfartal ar y llai cyfoethog," meddai.
'Mynd yn ddigon pell?'
Bydd gweinidogion yn cynnal ymgynghoriad 12 wythnos gan ddechrau ddydd Mawrth.
Mae'r cynlluniau yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Wrth ymateb i honiadau nad yw'r cynigion yn "mynd yn ddigon pell", dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ddydd Mawrth bod y llywodraeth yn "gwneud popeth o fewn ei gallu".
"Byddwn ni'n edrych ar fandiau sy'n ymateb yn well i realiti lefelau incwm, ynghyd â gwerth tai yn ddiweddar er mwyn ceisio cadw'r system dreth cyngor wedi ei ddiweddaru ar gyfer y dyfodol," dywedodd
Ond fe ychwanegodd bod angen cefnogaeth Llywodraeth y DU arnynt er mwyn "cymryd camau lawer mwy".
Dywedodd Cefin Campbell, Plaid Cymru: "Y cynigon hyn yw'r cam cyntaf i newid system y dreth gyngor a gall hynny wneud gwahaniaeth mawr, drwy wneud y system yn decach a mwy blaengar - tra'n parhau i gefnogi gwasanaethau lleol."
Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr ar Lywodraeth Leol, Sam Rowlands, mae angen i unrhyw newidiadau fod yn deg i drethdalwyr a "pheidio gwthio unrhyw un dros ddibyn ariannol".
"Rhaid ystyried y rhai hynny ar incwm sefydlog, fel pensiynwyr a bod yn ystyriol o unigolion o bosib nad sydd ag incwm sylweddol o gymharu â gwerth eu tai."
'Ymchwilio i systemau gwahanol'
Dyw'r ymgynghoriad ddim yn edrych ar systemau arall i ddisodli 'r dreth bresennol.
Dywed swyddogion y byddant, er hynny, yn parhau i ymchwilio i systemau gwahanol.
Mae Mark Drakeford wedi dweud ei fod o'n cefnogi system o godi treth ar werth y tir fel "system fwy teg o dalu am wasanaethau lleol".
Ond ychwanegodd y gallai gymryd degawd i gyflwyno trefn o'r fath.
Mae Plaid Cymru hefyd wedi addo cyflwyno cynigion yn y dyfodol am dreth ar dir i ddisodli'r dreth fusnes yn gyntaf, a'r dreth gyngor yn ddiweddarach.
Dywedodd Jane Dodds arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: "Er i Blaid Cymru a Llafur addo yn y gorffennol i weithio tuag at sefydlu treth ar dir i ddisodli'r dreth gyngor, dyw'r cynigion hyn ddim yn dod a ni fymryn agosach i'r newidiadau sydd eu hangen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd19 Medi 2021