Angen arbenigwr menopos i bob ardal i daclo 'diffyg gwybodaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am glinigau penodol ac arbenigwyr menopos yn lleol i ferched yng Nghymru, yn ogystal â thrwyddedu mwy o driniaethau.
Yn ôl elusen Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW), mae angen sicrhau bod gan bob bwrdd iechyd ddarpariaeth arbenigol.
Dywedodd un ddynes o ogledd Cymru sydd wedi gorfod teithio i Loegr a thalu am driniaeth breifat "nad oes digon o wybodaeth yn lleol" yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn cymryd iechyd menywod yn "hynod ddifrifol" a'u bod yn "disgwyl i'r GIG ddarparu ystod llawn o wasanaethau i gefnogi merched sy'n mynd drwy'r menopos".
Mae un grŵp o ferched sy'n nofio gyda'i gilydd bob wythnos i helpu gyda symptomau'r menopos i gyd o'r farn bod angen mwy o gefnogaeth yn lleol.
"O fewn ychydig wythnosau nes i ffeindio'n hun ddim yn medru gwneud y gwaith. O'n i 'di colli'n hyder, o'n i'n teimlo 'mod i'm digon da."
Mae'n bosib bod profiad Angharad Job, o Ynys Môn, yn canu cloch gyda nifer o ferched canol oed.
Fe aeth y weithwraig gymdeithasol o Lanfairpwll drwy gyfnod caled iawn gyda'r menopos ar ôl cael hysterectomi.
"O'n i 'di diodde' am flynyddoedd lawer 'efo poenau difrifol, mislif trwm ac o'n i'n edrych ymlaen d'eud gwir am y menopos i gael gwared o hynny i gyd," meddai.
"Ond ges i'r hysterectomi ac ar ôl y cyfnod yna es i drwy gyfnod anodd iawn lle ges i orbryder ac iselder, hollol groes i 'nghymeriad i."
Mae Angharad yn dweud bod nofio yn y môr yn rheolaidd gyda grŵp Titws Môn wedi gwneud byd o wahaniaeth.
"Fyddan ni'n dod i nofio yn aml iawn, rhyw dair neu bedair gwaith yr wythnos a mae bod yn aelod o'r Titws wedi bod o fudd mawr i mi, yn enwedig cyfnod y menopos," dywedodd.
Mae'n dweud bod gallu siarad hefo grŵp o ferched sy'n mynd drwy'r un peth yn gymorth mawr, ond bod yr un thema'n codi'n rheolaidd, sef y diffyg gwasanaethau menopos yn lleol.
Ychwanegodd: "Be' 'swn i'n licio gweld ydy clinig arbennig yn lleol, lle bod 'na nyrs yn arbenigo ac addysgu pobl.
"Y diffyg gwybodaeth bersonol oedd gen i a do'n i ddim yn gallu paratoi ar ei gyfer.
"Mae nifer o rai yn y grŵp wedi gorfod talu'n breifat eu hunain am wasanaeth a chael profion tu allan i Gymru."
Talu am driniaeth yn Lloegr
Un sydd wedi teithio i Loegr ydy Caren Hughes, o Rosmeirch, a dalodd i fynd i glinig menopos yn Stratford-upon-Avon.
"Es i yno fis Mawrth y flwyddyn yma ac ers hynny dwi 'di cael yr holl brofion, y meddyginiaeth o'n i angen, y gel HRT, ac maen nhw 'di bod yn gefnogol iawn ond bod chi'n gorfod talu £270 i fynd i'r clinig a wedyn efo'r Zoom £230," eglurodd Caren.
"Mae o'n lot o arian i orfod talu ac mae 'na lawer un sydd ddim 'efo'r arian yna, yn enwedig 'efo'r costau byw ar y funud.
"Mae 'na lot o ferched, awr weithiau maen nhw'n gael o gwsg. Rhai eraill wedyn, iselder.
"Yr hot flushes a'r night sweats, mae rheiny'n reit boblogaidd 'efo merched yn yr oed menopos. Lot hefyd 'efo poen esgyrn - mwy o boen yn eu hysgwyddau, breichiau a pen-gliniau.
"O'n i'm yn teimlo bod 'na ddigon o wybodaeth yn lleol. O'dd y meddyg yn trio ond fel dd'udon nhw, dim ond cyffwrdd ar y menopos maen nhw yn eu astudiaeth, 'sgynnon nhw ddim y profiad."
Beth yw'r menopos?
Mae'r menopos yn rhan o'r broses naturiol o heneiddio i fenywod, gan gychwyn pan mae'r mislif yn dod i ben a does dim modd beichiogi yn naturiol dim mwy.
Mae fel arfer yn digwydd yn ystod y cyfnod rhwng 45 a 55 oed, ond gall hefyd gychwyn oherwydd llawdriniaeth hysterectomi.
Yn y DU, y cyfartaledd oedran ar gyfer y menopos yw 51, ond gall ddigwydd yn gynharach o lawer.
Mae profi symptomau'r peri-menopos yn gyffredin hefyd.
Y peri-menopos yw'r cyfnod pan mae hormonau yn cychwyn newid cyn y menopos ei hun a phatrwm y mislif yn dechrau amrywio.
Bydd rhai merched yn dechrau cael symptomau peri-menopos yn eu 30au, ond fel arfer, mae'n cychwyn rhwng 40 a 44 oed.
Yn ôl y meddyg teulu Dr Llinos Roberts, sydd hefyd yn dysgu yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, mae'r hyfforddiant menopos wedi dod yn ei flaen.
"Os dwi'n cymharu faint o hyfforddiant mae myfyrwyr a darpar feddygon teulu yn ei gael ar hyn o bryd yn ymwneud â'r menopos a HRT, mae'n sicr wedi gwella ac wedi cynyddu ers i fi hyfforddi," meddai.
"Mae'n anodd dweud os ydy rhywun yn cael digon ond yn sicr, mae wedi gwella."
Mae hi'n cytuno y byddai clinigau penodol yn syniad da.
"Mae'n broses eitha' cymhleth dechrau rhywun ar HRT ac os ydy menyw yn gallu mynd i glinig penodol, lle maen nhw'n gallu trafod yr holl risgiau a'r buddiannau gyda nhw, yna byddai hynny'n lleihau'r pwysau arna ni fel meddygon teulu," ychwanegodd Dr Roberts.
Mae elusen Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW) wedi bod yn ymgyrchu am well gwasanaethau menopos ers blynyddoedd.
Dywedodd eu llefarydd Llinos Blackwell, o'r Rhyl, sydd ei hun wedi cael problemau menopos difrifol, bod "angen arbenigwr ym mhob bwrdd iechyd".
"Does 'na ddim clinigau ym mhob un bwrdd iechyd, a mewn rhai byrddau iechyd 'does 'na ddim hyd yn oed staff sydd wedi cael hyfforddiant gan y menopause society.
"Mae angen hefyd gweithio 'efo'i gilydd rhwng gwahanol adrannau - gynaecolegwyr, iechyd meddwl, ffordd o fyw, ffisiotherapi ac yn y blaen. Mae angen i bawb gydweithio i gael y driniaeth orau."
Mae elusen TFWW hefyd yn galw am drwyddedu testosteron at ddefnydd merched yng Nghymru, gan ei fod yn gallu bod yn ffordd arall o ddelio a symptomau menopos.
A hithau angen ei gymryd ei hun oherwydd ei chyflwr endometriosis, dywedodd Ms Blackwell y byddai'n gam hanfodol ymlaen.
"Mae testosteron wedi newid fy mywyd i," meddai. "'Taswn i ddim wedi cael testosteron, dwi ddim yn gwybod faswn i'n dal yn gweithio, 'dwi ddim yn gwybod sut fasa' fy mherthynas i efo 'ngŵr ac efo'n ffrindiau. Mae o'n anhygoel o beth i mi."
Cynllun iechyd menywod
Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am drwyddedu meddyginiaethau ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y menopos yn "rhan o hyfforddiant meddygon teulu ac o'u datblygiad proffesiynol parhaol".
Ychwanegodd: "Bydd ein grŵp menopos arbenigol newydd, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o ofal sylfaenol ac eilaidd, yn ogystal â chleifion, yn rhannu arfer da ac yn sefydlu llwybr gofal menopos ar draws Cymru.
"Byddwn yn cyflwyno datganiad ansawdd ar gyfer iechyd menywod yn fuan a bydd y GIG yn cyhoeddi cynllun iechyd menywod yn yr hydref, a'r ddau yn helpu i wella gwasanaethau.
"Mae'r Gweinidog Iechyd hefyd yn rhan o Dasglu Menopos y DU, sy'n edrych ar ffyrdd o wella'r gefnogaeth i ferched drwy'r menopos."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2019