Argyfwng tai… yn Colorado

  • Cyhoeddwyd
Hawl i Fyw Adra a ColoradoFfynhonnell y llun, BBC/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r un problemau tai yn codi yng Nghymru a Colorado am resymau tebyg

Er bod dros 4,500 milltir yn gwahanu Cymru a thalaith Colorado yn yr Unol Daleithiau mae'r ddau le yn wynebu'r un argyfwng ar hyn o bryd - prinder tai a phrinder tai fforddiadwy.

Yr un math o ffactorau sy'n effeithio ar yr argyfwng yno hefyd - rhenti uchel, ail gartrefi a thai haf.

Mae Siân Murphy yn gweithio fel Realtor yn ninas Boulder, prifddinas Denver, ac o amgylch ardaloedd gwledig y dalaith a'i swydd ydi helpu pobl i ddod o hyd i dai i'w prynu - o brynwyr tro cyntaf i deuluoedd a phobl sydd eisiau dringo'r farchnad dai.

Mae hi'n adnabod y farchnad yno yn dda ac wrth siarad gyda hi mae posib gweld tebygrwydd amlwg rhwng yr argyfwng mewn talaith yn yr Unol Daleithiau a'r sefyllfa yng Nghymru.

Ond er hynny, mi fydd yn syndod i rai bod posib dysgu ambell wers gan dalaith mewn gwlad sydd mor adnabyddus am ei farchnad rydd.

Ffynhonnell y llun, CNE
Disgrifiad o’r llun,

Siân Murphy o WK Real Estate

Colorado a Chymru

"Pan nes i ddechrau yn y swydd tua 10 mlynedd yn ôl doedd ffrindiau methu fforddio prynu yn Boulder. Ond roedden nhw yn dal eisiau prynu ac roeddwn i eisiau eu helpu nhw, felly nes i ddechrau gweithio mewn ardaloedd sydd yn fwy fforddiadwy," meddai Siân Murphy, sydd â gwreiddiau teuluol ym Mhenygroes yng Ngwynedd.

"Ond erbyn hyn mae'n broblem ar draws y dalaith. Nid yn unig yn Boulder a Denver - ar draws Colorado mae'r pris cyfartaledd ar $600,000."

Mae hyn yn golygu fod cost cyfartalog tŷ un teulu wedi codi 23.4% yno mewn blwyddyn o 2021 i 2022.

Pris tŷ ar gyfartaledd yng Nghymru yw £240,635, sef yr uchaf erioed, ac mae'r cynnydd o 11.5% (yr uchaf ar Ynysoedd Prydain) yn golygu bod y pris wedi codi tua £25,000 o'i gymharu â blwyddyn yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Boulder, Colorado

Yn Boulder, lle gafodd Siân ei geni a'i magu, mae'r pris cyfartalog ar dŷ wedi codi i $1.6 miliwn.

Er ei fod ar raddfa dipyn mwy - Colorado â phoblogaeth o 5.7 miliwn a Chymru ag ychydig dros hanner hynny ar 3.1 miliwn, mae modd gweld tebygrwydd yn yr hyn sydd gan y ddau le i'w gynnig.

Mae Colorado yn enwog am fyd natur - o fynyddoedd y Rockies, tirwedd trawiadol ac ardaloedd sy'n cynnig anturiaethau awyr agored.

Mae ganddi hefyd ddinasoedd bychain o ystyried poblogaeth y dalaith a'i maint (270,000km sgwâr) - Denver y mwyaf gyda 617,000 o ddinasyddion, Colorado Springs ar 472,000 a Boulder ar 109,000.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Colorado Springs, ail ddinas fwyaf y dalaith, gyda mynyddoedd y Rockies yn y cefndir

Y ddinas

"Yn y ddinas, mae rhan o'r broblem yn deillio o fuddsoddwyr lletai myfyrwyr", meddai Siân.

"Mae hyn yn creu rhan o'r argyfwng tai achos mae cymaint o fuddsoddwyr yn dod mewn ac yn prynu tai ac yn creu llai o dai i bobl allu prynu. Mae'n gwthio fforddiadwyedd yn bellach ac yn bellach.

"Mae'r buddsoddwyr yn creu marchnad rhentu gryf iawn iawn. A gyda chyrhaeddiad Google, Meta a Microsoft sydd wedi creu'r Silicon Mountain newydd i Boulder, mae prisiau yn cynyddu yn aruthrol."

Mae hyn wedi gwthio ffrindiau Siân allan o ddinas eu magwraeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Datblygiad tai yn Colorado

"Mae'n gwthio pobl, gan gynnwys fy ffrindiau, allan o ardal Boulder. Daeth y lle yn hot spot gan ei fod yn rhatach.

"Ond wrth i brisiau gynyddu aeth pobl i drefi tu allan i Boulder ar gyrion Lewisville yn Lafayette ac yn sydyn aeth y rheiny yn ddrud iawn a rŵan mae pobl yn gorfod symud i ardal arall o'r New Longmont."

Mae pris tŷ yn Boulder wedi cynyddu o $1.2 miliwn i $1.6 miliwn rhwng 2021 a 2022, felly 28.3%.

Mae cynnydd enfawr mewn digartrefedd wedi bod ar draws Colorado hefyd - 266% rhwng 2007 a 2021, sy'n fwy nag unrhyw dalaith arall yn y wlad yn ôl Adran Dai a Datblygu Trefol yr Unol Daleithiau.

Meddai Siân: "Mae'n sicr yn broblem. Mae gwersylloedd i'r digartref wedi cael eu creu. Mae pobl yn trio eu cael nhw mewn i gartrefi ond mae'r farchnad dai mor ddrud, mae'n anodd."

Y wlad

Ardaloedd gwledig ac arfordirol Cymru - fel Pen Llŷn, Ynys Môn, a Sir Benfro sydd wedi bod yn ganolbwynt i'r sgwrs ynghylch tai yng Nghymru.

Dydi hynny ddim yn syndod pan mae 10% o holl dai'r ardaloedd hyn yn ail dai.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth ymgyrch Hawl i Fyw Adra ymgasglu mewn gwahanol bentrefi ym Mhen Llŷn yn 2021 er mwyn tynnu sylw at y broblem

Mae ardaloedd gwledig Colorado yn gweld yr union broblem hefyd gyda'r cynnydd mewn ail dai drud a llai o dai fforddiadwy yn ei gwneud hi'n amhosib i bobl leol ar gyflogau llai i fforddio to uwch eu pennau.

Cynyddodd y broblem yn gyflym wrth i Covid-19 wneud gweithio o adref yn bosib.

Mae un pentref o'r enw Crested Butte ym mynyddoedd y Rockies, sydd â phoblogaeth o 1,600, bellach yn cael ei adnabod fel Zoom Town.

Ar ôl i'r pandemig daro yn 2020 mi gododd cyfartaledd pris tŷ 38% mewn blwyddyn ac mae 30% yn llai o dai ar werth erbyn hyn.

"Mae'n eithaf ofnadwy mewn rhai ardaloedd fel Crested Butte, Vail, Frisco a Telluride," meddai Siân.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Telluride ym mynyddoedd y Rockies, Colorado

"Maen nhw wedi adeiladu tai i'r gweithwyr, ond mae niferoedd y gweithwyr a phobl leol sydd angen tai yn fwy na'r nifer o letai sydd yno.

"Yn amlwg wedyn mae pris aruthrol yn cael ei roi ar rent yno hefyd. Mae'r bobl sydd yn rhentu eisiau gwneud elw wedyn mae prisiau rhent yn codi ac yn mynd allan o reolaeth."

Cyfyngiadau

Mae poblogrwydd opsiynau rhentu tymor byr fel Airbnb wedi cyflwyno heriau mawr i'r pentrefi a threfi gwledig yma hefyd. Fel yng Nghymru maen nhw yn arwain at farchnad anghyfartal wrth i brisiau godi.

Mae'r sefyllfa wedi arwain at ymgyrchu a galw am reoleiddio i greu marchnad dai decach a fforddiadwy.

Yma yng Nghymru, cyhoeddodd y Llywodraeth yn ddiweddar y bydd angen yswiriant er mwyn rhedeg lletai haf a bydd cynghorau a'r hawl i godi treth ail dai i hyd at 300%.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Abersoch. Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, roedd yna 4,720 o ail gartrefi yng Ngwynedd, o'i gymharu â 5,098 y llynedd oherwydd codiad trethi

Mae rheolau tebyg yn bodoli mewn ardaloedd yn Colorado yn barod.

"Mae gan ddinas Boulder gyfyngiadau. Os wyt ti yn rhentu tymor byr gan ddefnyddio Airbnb mae'n rhaid iddo fod yn brif gartref," meddai Siân.

"Mae pobl wedi cael mewn i drwbl am eu bod wedi labelu tŷ fel eu prif gartref pan dydi o ddim ac yna ei ddefnyddio fel Airbnb. Maen nhw wedi dweud celwydd am eu trethi ac wedi cael mewn i drwbl difrifol."

Gyda'r cynnydd anferthol mewn prisiau tai mae'r ddinas hefyd wedi creu rhaglen tai fforddiadwy sy'n rhoi gobaith i nifer o brynwyr tro cyntaf.

Mae'n deillio o hawl bwrdreisdrefi Colorado i reoli cyfreithiau tai yn lleol - yn debyg i'r hawl sydd newydd gael ei gyflwyno yng Nghymru, ble bydd cynghorau yn cael dewis sut i fynd i'r afael â'r broblem yn eu hardaloedd nhw.

O dan eu cyfraith nhw, does gan berchennog tŷ ddim hawl i ddewis be ydi'r pris gwerthu ymlaen ac mae cyngor y ddinas yn creu swm sydd yn deg.

"Mae'n cadw pethau yn fforddiadwy, ydi, ond y peth ydi bod llawer o brynwyr tro cyntaf dwi'n gweithio gyda nhw eisiau mynd ar y farchnad dai er mwyn adeiladu ecwiti."

Problem fyd-eang

Mae'r farchnad dai yn rhywle saff i bobl fuddsoddi eu harian a dyma un o'r rhesymau mwyaf, yn ogystal â bod eisiau'r opsiwn o gael ail dŷ i fynd iddo, mae pobl yn buddsoddi ynddyn nhw.

Ac nid yn unig yng Nghymru a Colorado mae'r broblem yn bodoli, ond ar draws y byd.

Gydag anghydraddoldeb cyfoeth yn uchel, poblogaeth yn uwch, a gweithio hyblyg yn bosib, mae ail dai bellach yn bwnc gwleidyddol gweledol mewn gwledydd fel Canada, Awstralia, Seland Newydd, a de Ewrop a Sgandinafia.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wellington, Seland Newydd. Cynyddodd cyfartaledd pris tŷ i deulu 23% i $780,000 y llynedd

"Dwi'n meddwl ei fod yn gymysgedd o lot o arian a lot o bobl a pobl yn gwybod fod y farchnad dai yn le cadarn i fuddsoddi ynddo," meddai Siân.

"Dyma un o'r prif ffactorau dwi'n meddwl, oherwydd mae o yn amlwg yn effeithio arnoch chi - pobl yn mynd i Gymru ac yn prynu tai gan wthio prisiau i fyny ac arwain at lai o dai fforddiadwy.

"Mae'r un peth yn fan hyn - pobl yn dod yma i brynu tai i'w plant sydd yn fyfyrwyr yn y dinasoedd coleg dros dro neu yn nhrefi'r mynyddoedd fel ail dai mewn byd sydd yn barod â nifer fach iawn iawn o dai. Mae gennym ni bobl sydd yn berchen ar nid yn unig un tŷ ond 250 o dai.

"Mae wedi adeiladu dros amser a does neb wedi gwneud unrhyw beth amdano, a rŵan rydan ni'n gweld argyfwng tai ofnadwy."

Pynciau cysylltiedig