Dyn Gwyrdd: Cais i ymchwilio i gynllun Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae corff gwarchod gwariant cyhoeddus Cymru wedi cael cais i ymchwilio i gynllun Llywodraeth Cymru i brynu fferm ar gyfer gŵyl gerddoriaeth y Dyn Gwyrdd.
Mae gweinidogion wedi cael eu beirniadu am brynu'r fferm heb gynllun busnes gan yr ŵyl, sy'n dweud nad yw'n bwriadu symud yno.
Daw wrth i arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd ddweud bod yr amgylchiadau o amgylch y pryniant yn "niwlog".
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ymateb.
Mae'n dilyn trafodaeth mewn pwyllgor yn Nhŷ'r Cyffredin lle gwrthododd rheolwr gyfarwyddwr yr ŵyl, Fiona Stewart, ddweud a oedd y llywodraeth wedi gofyn iddi ddarparu cynllun busnes.
Adroddodd BBC Cymru yn flaenorol fod y cwmni'n bwriadu rhedeg y safle fel fferm, ac ehangu ei waith iechyd a chynaliadwyedd gyda Phrifysgol Caerdydd yno.
Am y tro mae'r tir yn Nhal-y-bont ar Wysg yn eiddo i Lywodraeth Cymru, sydd mewn trafodaethau dros brydlesu neu o bosib werthu'r tir i'r Dyn Gwyrdd, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel "partner dibynadwy" gan y Prif Weinidog Mark Drakeford.
Dywedodd ef: "Rydym yn gweithio gyda chwmni y mae Llywodraeth Cymru wedi ei adnabod ac wedi gweithio ochr yn ochr ag ef dros gyfnod estynedig o amser gan ei fod wedi tyfu i fod ymhlith y pump mwyaf llwyddiannus o'i fath yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig."
Yr wythnos ddiwethaf dywedodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething fod trafodaethau'n parhau gyda'r ŵyl flynyddol, a bod swyddogion yn aros am gynllun busnes gan y cwmni.
Fe ysgogodd hynny alwadau ar i bwyllgor cyfrifon a gweinyddiaeth gyhoeddus Senedd Cymru gael golwg ar y cynlluniau, sydd bellach wedi cyfeirio'r mater at yr archwilydd cyffredinol Adrian Crompton i ymchwilio iddo.
Mr Crompton sy'n gyfrifol am archwilio sut mae cyrff cyhoeddus Cymru yn gwario arian trethdalwyr.
Wrth gael ei holi am y mater gan ASau yr wythnos hon, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr yr ŵyl, Fiona Stewart, nad oedd Dyn Gwyrdd "yn symud" i fferm Gilestone.
Ond dywedodd wrth Bwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin, nad oedd hi'n gallu "siarad am y peth i fod yn onest" a gofynnodd i ASau "symud ymlaen o'r pwnc hwnnw".
Wrth gael ei holi ymhellach gan AS Ceidwadol Aberconwy, Robin Millar, dywedodd: "Mae'r Dyn Gwyrdd fel brand yn amryw o bethau - hyfforddiant, bwyd a diod, digwyddiadau, newid hinsawdd, gwyddoniaeth.
"Rwy'n meddwl mai'r syniad wrth symud ymlaen yw y byddem yn datblygu'r pethau hynny ar y gofod newydd hwnnw."
Yn ddiweddarach, gofynnodd Ruth Jones, AS Llafur dros Orllewin Casnewydd, i Ms Stewart a oedd gofyn i'w chwmni ddarparu cynllun busnes i Lywodraeth Cymru, gan ysgogi'r rheolwr gyfarwyddwr i gwestiynu pam yr oedd yn cael ei holi.
"Deallais fy mod yma i siarad am effaith ryngwladol Cymru dramor. Doeddwn i ddim yn deall fy mod wedi dod yma i siarad am fy materion busnes fy hun i chi."
Dywedodd Ms Jones fod y mater o ddiddordeb i'r pwyllgor.
Wnaeth Ms Stewart ddim ateb cwestiwn Ms Jones yn uniongyrchol, ond dywedodd fod y buddsoddiad - sydd ddim wedi mynd yn uniongyrchol i'r Dyn Gwyrdd - yn "anhygoel" a dywedodd fod gweinidogion yn "cefnogi llwyddiant a diwylliant mewn ffordd fawr".
'Nid dyma sut y dylid gwario arian cyhoeddus'
Mewn datganiad dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Er fy mod yn hynod falch o ôl troed diwylliannol ac economaidd y Dyn Gwyrdd, mae'r amgylchiadau ynghylch pryniant Fferm Gilestone gan Lywodraeth Cymru yn parhau'n niwlog.
"Mae'n amlwg bod gweinidogion Llafur wedi prynu'r fferm hon, gan ddefnyddio tua £4.25m o arian y trethdalwr, mewn trefniant unigryw gyda'r Dyn Gwyrdd, heb unrhyw achos busnes i siarad amdano.
"Nid dyma sut y dylid gwario arian cyhoeddus."
Ddydd Iau dywedodd cadeirydd pwyllgor cyfrifon cyhoeddus Senedd Cymru, Mark Isherwood fod pryderon wedi eu codi gydag ef sy'n "codi cwestiynau am agwedd Llywodraeth Cymru at reoli eiddo gan gynnwys pwrpas, gwerth am arian a gwneud penderfyniadau".
Dywedodd y bydd yr archwilydd cyffredinol "yn rhoi crynodeb i ni o'i ganfyddiadau cychwynnol. Yna byddwn yn cytuno sut i fynd ati i graffu ar Lywodraeth Cymru ar y materion hyn ar ôl toriad y Sulgwyn."
Gwrthododd gŵyl y Dyn Gwyrdd wneud sylw. Gofynnwyd i sefydliad yr archwilydd cyffredinol Archwilio Cymru roi sylwadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2022
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022
- Cyhoeddwyd23 Awst 2021
- Cyhoeddwyd19 Awst 2021