Carcharu rheolwr cwmni am ddynladdiad gweithiwr ailgylchu
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr cwmni ailgylchu wedi cael dedfryd o naw mlynedd o garchar wedi i lys ei gael yn euog o ddynladdiad gweithiwr a fu farw ar ôl mynd yn sownd mewn peiriant.
Roedd Stephen Jones wedi gwadu achosi marwolaeth Norman Butler trwy esgeulustod dybryd ar safle Recycle Cymru ym Mae Cinmel fis Tachwedd 2017.
Roedd Mr Butler, oedd yn 60 oed ac o Brestatyn, ond wedi gweithio i'r cwmni fel gyrrwr fan am fis pan fu farw ar safle'r cwmni ar Stad Ddiwydiannol Tir Llwyd.
Dywedodd y barnwr fod Jones, o Landrillo-yn-Rhos, wedi "torri corneli" am resymau ariannol a bod damwain "yn siŵr o ddigwydd".
Clywodd y llys ei fod wedi cerdded at felt cludo peiriant sy'n cywasgu cardfwrdd yn giwbiau mawr yn barod i'w hailgylchu er mwyn clirio rhwystr, pan syrthiodd i'r peiriant.
Roedd ar ben ei hun yn y warws ar y pryd ac fe gymrodd dair awr i gydweithiwr ddod o hyd i'w gorff.
Fe wnaeth animeiddiad cyfrifiadurol gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch ddangos rhaff o'r nenfwd uwchben y peiriant yr oedd gweithwyr yn cydio ynddi wrth symud unrhyw rwystrau ar dop y belt cludo.
Clywodd gwrandawiad cwest yn 2017 fod Mr Butler wedi marw o ganlyniad i golli maint mawr o waed.
'Roedd ganddo galon aur'
Mewn datganiad personol a gafodd ei ddarllen yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug, fe ddisgrifiodd ei ferch, Jessica Williams y sioc o'i golli mewn ffordd mor annisgwyl.
"Mae gwybod na fydd yn gweld ei wyrion yn tyfu a na wela'i mohono'n gwenu na chwerthin eto, na gallu ei gofleidio, yn achosi'r fath boen i mi," meddai.
"Dwi'n crio bob tro dwi'n meddwl amdano ac yn darllen hen negeseuon testun ganddo a meddwl 'ydy hyn wir wedi digwydd?' Gollais i nid yn unig tad ond ffrind gorau, roedd ganddo galon aur."
Yn ei ddatganiad yntau, dywedodd ei frawd, Joseph Butler: "Er i hyn ddigwydd bum mlynedd yn ôl, mae'n dal yn teimlo fel ddoe.
"Ni wna'i byth ddod drosto. Dwi'n teimlo gwir ddicter wrth feddwl y gellid fod wedi atal marwolaeth fy mrawd."
Marwolaeth 'gynamserol a diangen'
Clywodd y llys fod Stephen Jones wedi anwybyddu rhybuddion ynghylch methiannau iechyd a diogelwch a dulliau gweithredu peryglus ar y safle.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr, Mr Ustus Griffiths ei fod wedi amlygu "difaterwch troseddol" at ddiogelwch a bywyd Mr Butler.
"Ar eich ysgwyddau chi y mae'r holl gyfrifoldeb dros ei farwolaeth gynamserol a diangen," meddai.
"Fe wnaethoch chi dorri corneli oherwydd i chi gael eich cymell gan elw ariannol. Roedd yn ddamwain oedd yn siŵr o ddigwydd."
Cafodd Recycle Cymru Ltd ddirwy hefyd o £120,000 ac mae Jones wedi ei wahardd rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni am naw mlynedd. Clywodd y llys bod y cwmni wedi dod i ben yr wythnos hon.
"Roedd hwn yn achos cymhleth a gofidus a welodd, yn anffodus, ddyn yn colli ei fywyd dan amgylchiadau hollol bosib i'w hosgoi," meddai'r Ditectif Prif-arolygydd Simon Kneale o Heddlu'r Gogledd:
"Mae gan gyflogwyr gyfrifoldebau cyfreithiol i sicrhau diogelwch eu gweithwyr ac yn yr achos yma fe glywodd y rheithgor fod prosesau diogelwch Recycle Cymru yn frawychus o ddrwg ac yn ffactor sylweddol ym marwolaeth Mr Butler."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2017