Eisteddfod Genedlaethol Tregaron: 15,000 o docynnau am ddim
- Cyhoeddwyd
Bydd 15,000 o docynnau am ddim yn cael eu cynnig ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Tregaron.
Dywed Llywodraeth Cymru y byddai'r tocynnau ar gael i "deuluoedd lleol sydd ddim fel arfer yn mynychu'r Eisteddfod".
Cafodd 6,000 o docynnau eu cynnig am ddim i bobl Sir Conwy ar gyfer y Brifwyl yn Llanrwst yn 2019.
Bryd hynny, roedd y tocynnau am ddim wedi mynd o fewn diwrnod.
Dywedodd Llywodraeth Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol wrth y BBC y byddan nhw'n gwneud datganiad ar y cyd tua dechrau'r Eisteddfod.
£100,000 ychwanegol
Bydd y tocynnau am ddim ar gael drwy gydweithio â phartneriaid fel y cyngor sir ac elusennau fel y Groes Goch a noddwyr fel y gymdeithas dai, Barcud.
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: "Mae hyn yn bosibl gyda £100,000 ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth Cymru drwy grant Haf o Hwyl.
"Yn benodol, anogir teuluoedd i ymweld â'r Pentref Plant lle bydd yr holl weithgareddau yn groesawgar a chynhwysol, gan annog pobl i ddefnyddio'r Gymraeg sydd ganddynt a dangos bod y Gymraeg yn iaith chwarae, hwyl a chymdeithasu, yn ogystal ag iaith ysgol ac addysg."
Dywedodd y dirprwy weinidog bod y cyllid yn ychwanegol i'r hyn a roddwyd i gefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol drwy'r pandemig.
"Dyrannodd Llywodraeth Cymru £800,000 ychwanegol yn 2021 i'r Eisteddfod, ac mae eu cyllid grant craidd blynyddol wedi'i gynyddu £300,000 yn 2022 i gefnogi dyfodol yr ŵyl mewn cyfnod sy'n parhau i fod yn ansicr," meddai.
Roedd mynediad i Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 am ddim wedi buddsoddiad ariannol gwerth £527,000 gan Lywodraeth Cymru i nodi canmlwyddiant yr Urdd.
Ddydd Mercher, pasiodd y Senedd yn unfrydol gynnig eu bod "yn croesawu'r ffaith bod yr Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, ynghyd â sioeau a digwyddiadau haf ledled Cymru, wedi dychwelyd, ac yn cydnabod manteision tymor digwyddiadau'r haf o ran hyrwyddo'r Gymraeg, diwylliant Cymru, cynnyrch o Gymru a'n ffordd o fyw".
Roedd y cynnig hefyd "yn diolch i bawb sy'n ymwneud â sicrhau bod y digwyddiadau'n llwyddiant."
Dywedodd y Ceidwadwr Samuel Kurtz: "Mae ein heisteddfodau yn hollol bwysig i gryfhau ac amddiffyn ein hiaith a'n diwylliant.
"Fel crwt ifanc, roedd wythnosau'r haf yn llawn trafaelio ar draws orllewin Cymru yn cymryd rhan mewn eisteddfodau lleol yn llefaru cerddi ar y llwyfan, ac ambell waith, fe wnes i ennill gwpan neu ddau."
Dywedodd Heledd Fychan o Blaid Cymru: "Un o'r pethau dwi'n meddwl 'dyn ni'n ei anghofio yn aml, yn enwedig efo'r Eisteddfod Genedlaethol, ydy'r ffaith ei bod hi yn cael ei gweld fel gŵyl o ran y Gymraeg a'r Cymry Cymraeg, ond mae hi yn eisteddfod ac yn wŷl ryngwladol o bwys.
"Dwi yn meddwl weithiau nad ydym ni'n manteisio ddigon ar hynny, oherwydd pan ydym ni'n gweld pobl o dramor yn dod i'r Eisteddfod Genedlaethol, maen nhw'n gwirioni yn llwyr; maen nhw wrth eu bodd."
Dywedodd Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol: "Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol, a dwi'n hynod o falch y bydd miloedd o blant a phobl ifanc yn cael siawns i brofi'r sioe - y tro cyntaf i'r Eisteddfod ymweld â Cheredigion mewn 30 mlynedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2022