Sut mae cydbwyso twristiaeth ac amaeth yng nghefn gwlad?
- Cyhoeddwyd
Mae dau o ffermwyr Eryri yn galw am "gydbwysedd" fel bod amaeth a thwristiaeth yn cyd-dynnu o fewn cymunedau gwledig.
Yn ôl Rhodri Jones, cadeirydd undeb yr NFU ym Meirionnydd, dydy'r polisi cynllunio lleol presennol "ddim yn gynaliadwy".
Dywedodd y byddai hi "bron yn amhosib" iddo droi adeilad ar ei dir yn dŷ i'r genhedlaeth nesaf allu byw ynddo, ond y buasai'n "cael caniatâd fory" i'w drosi'n llety gwyliau.
Yn ôl Parc Cenedlaethol Eryri, sef yr awdurdod cynllunio lleol, mae "opsiynau ar gael… i drosi adeiladau amaethyddol yn gartrefi" ond datblygu tai fforddiadwy yw eu "prif flaenoriaeth".
Yng Nghapel Curig, yn y cyfamser, mae Elwyn Jones yn wynebu brwydr ddyddiol gydag ymwelwyr o bell ac agos sy'n defnyddio ei dir preifat, gan adael cŵn yn rhydd a "llanast" ar eu hôl.
Mae'n dweud bod angen "parch" tuag at amaethwyr a "balans" rhwng y gwahanol sectorau.
Yn y bryniau uwchben Llyn Tegid mae fferm Rhodri Jones.
Mae'n cael problemau achlysurol gydag ymwelwyr sy'n gadael cŵn oddi ar eu tennyn tra'n defnyddio'r llwybrau cyhoeddus drwy ei dir.
Ond y cwestiwn ehangach - pa mor gynaliadwy ydy cymunedau gwledig - sydd bwysica' iddo fo, wrth weld rhan o'r "stoc tai wedi ei gymryd gan bobl o'r tu allan fel Airbnbs neu fel tai gwylie".
"'Dan ni yma ers pedair cenhedlaeth, pum cenhedlaeth, a gobaith pob ffermwr, mae'n debyg, ydy bod y genhedlaeth nesa' isio aros yma," meddai.
"Mae hi bron yn amhosib i fi drosi tŷ yn fama os oes gen i deulu lleol isio dod yma i fyw, ond eto, 'swn i isio gwneud tŷ gwylie, fyswn i'n cael caniatâd fory.
"Dwi ddim yn gweld hynny'n gynaliadwy yn symud mlaen… ond mae twristiaeth yn rhan fawr o'r economi wledig hefyd.
"Mae'n rhaid i amaeth fod yn gallu ffynnu a […] rhaid i dwristiaeth."
Ar ochr arall y llyn ym mhentref Llangywer, mae'r ffin rhwng amaeth a'r diwydiant ymwelwyr bron yn anweledig, gyda thraeth a gorsaf trên stêm ochr yn ochr â thir pori.
Mae David Prysor Jones a'i griw o wardeniaid o Barc Cenedlaethol Eryri yn goruchwylio'r hyn sy'n digwydd yma ar lan y dŵr.
"Mae hwn yn un o'r llefydd prysuraf sydd gennym ni yn y parc," meddai.
"'Dan ni isio denu pobl yma, mae pobl yn ddibynnol ar dwristiaid yn dod, ond ar y llaw arall mae 'na dir amaethyddol yn mynd law yn llaw gyda'r twristiaid.
"Yn amlwg maen nhw yn gwrthdaro rhai adegau."
Mae'r parc yn cymryd mesurau fel "newid camfeydd am giatiau sy'n cau eu hunain" a chynnig "gosod arwyddion ar ran perchnogion tir" i annog ymddygiad cyfrifol ar dir amaethyddol.
"Mae Covid 'di amlygu ambell i broblem," meddai David.
"'Dan ni wedi gweld cynnydd mewn pobl yn ymweld ag Eryri.
"Mae wedi bod yn her i'r parc i ddelio 'efo'r problemau 'ma, ond 'dan ni yn rhoi pethau yn eu lle i geisio delio gyda'r problemau 'ma."
'Angen parch at ffermwyr'
Rhyw 20 milltir i'r gogledd yng Nghapel Curig, daw'r tensiynau hynny i'r amlwg ar dir Elwyn Jones.
Er gwaethaf arwyddion clir yn dweud bod dim hawl tramwy yno - mae pobl yn tyrru i nofio mewn rhan o Afon Llugwy sy'n croesi ei fferm.
"Fydda' i'n gofyn yn iawn iddyn nhw gyntaf, gofyn iddyn nhw adael, ac wedyn mae'r iaith a'r cega 'ma yn dod," meddai.
"Maen nhw'n gadael gymaint o lanast yno hefyd… Fydda' i'n poeni rhag ofn bod 'na gŵn lawr yna, ac mae'n rhaid i fi checio yn aml [o] achos hynna, yn fwy 'na'm byd."
Mae Elwyn Jones, sydd hefyd yn gynghorydd cymuned, yn ffilmio'r bobl sy'n mynd ar ei dir preifat.
Yn ogystal ag effaith posib cŵn ar ei ddefaid sy'n pori gerllaw, mae'n poeni am ddiogelwch y rheiny sy'n nofio.
Dydy o ddim yn gwrthwynebu twristiaeth, ac mae'n rhedeg bythynnod gwyliau ei hun. Ond mae'n galw am "falans" mewn polisi cyhoeddus.
"Parch 'dan ni isio, [a'u bod nhw yn] cadw'r lle'n daclus ac yn lân," meddai.
Yn ôl Elwyn Jones, dylai ei bod hi'n haws cael gafael ar wardeiniaid y Parc Cenedlaethol i adael iddyn nhw wybod am broblemau sy'n codi.
Beth yw ymateb y Parc?
Dywedodd llefarydd fod "rhoi cyngor i'r cyhoedd ar sut i ymddwyn yn ddiogel a chyfrifol yng nghefn gwlad" yn rhan o swydd warden, "yn ogystal â chydweithio efo perchnogion tir".
O ran beirniadaeth Rhodri Jones o'r polisi cynllunio, dywedodd y llefarydd mai tai fforddiadwy "yw'r brif flaenoriaeth" i ateb gofynion lleol, a'u bod wedi gosod amcan "uchelgeisiol" drwy "anelu i gael hanner y tai newydd a ddatblygir yn y Parc Cenedlaethol yn dai fforddiadwy".
Ychwanegodd eu bod yn "cefnogi amaethwyr sydd eisiau arallgyfeirio trwy ganiatáu iddynt drosi adeiladau amaethyddol yn llety gwyliau" a bod "opsiynau ar gael hefyd i drosi adeiladau amaethyddol yn gartrefi".
Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru bod eu polisi newydd ar dai gwyliau yn "cynnwys newidiadau i reoliadau cynllunio… fydd yn cyflwyno tri dosbarth defnydd cynllunio newydd - cartref cynradd, ail gartref a llety gwyliau tymor byr."
"Bydd awdurdodau cynllunio lleol, lle mae ganddynt dystiolaeth, yn gallu gwneud diwygiadau i'r system gynllunio i ofyn am ganiatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd o un dosbarth i'r llall," meddai llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd20 Mai 2022
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021