David Morris: Llofrudd Clydach wedi marw o achosion naturiol

  • Cyhoeddwyd
Cafodd David Morris ei garcharu am oes am lofruddiaethau ClydachFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Morris ei garcharu am oes am lofruddiaethau Clydach

Dywed crwner fod y dyn a lofruddiodd pedwar o'r un teulu yng Nghwm Tawe yn 1999 wedi marw o achosion naturiol.

Cafodd David Morris o Glydach ei garcharu am leiafswm o 32 o flynyddoedd yn 2006 am lofruddiaethau Mandy Power, 34, ei merched Katie, 10, ac Emily, 8, a'i mam 80 oed, Doris Dawson.

Bu farw Morris yng ngharchar Long Martin, Sir Gaerwrangon yn Awst 2021 yn 59 oed. Roedd wedi treulio 22 o flynyddoedd dan glo.

Mae manylion y cwest, gafodd ei gynnal ym mis Mai eleni, bellach wedi eu rhyddhau gan Swyddfa Crwner Sir Gaerwrangon.

Achos meddygol ei farwolaeth yn ôl y crwner oedd clefyd y galon a diabetes.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mandy Power a'i merched Emily a Katie eu llofruddio yn eu cartref

Fe gafwyd Morris yn euog o'r llofruddiaethau am yr ail dro yn 2006 ar ôl i'r dyfarniad cyntaf yn 2002 gael ei ddileu gan y Llys Apêl.

Roedd y dyn o Glydach wedi mynnu drwy'r amser ei fod yn ddieuog o'r cyhuddiadau.

Ar ôl rhaglen ddogfen gan BBC Cymru yn 2020, ac ymddangosiad dau dyst newydd posib, fe wnaeth yr heddlu gyhoeddi eu bod yn cynnal adolygiad o'r achos yn Ionawr 2021.

Ond yng Ngorffennaf 2021 cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedd unrhyw wybodaeth wedi ei gyflwyno a fyddai'n tanseilio'r achos yn erbyn Morris.

Pynciau cysylltiedig