'Rhoi'r byd yn ei le' wrth ddychwelyd i faes yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Beth oedd barn yr ymwelwyr wedi diwrnod cynta'r Eisteddfod?
"Croesawgar", "bendigedig", "gwasgaredig", "damp" - blas bach o'r farn yn Nhregaron ar ddiwrnod cyntaf y Brifwyl ers tair blynedd.
Roedd llawer o'r rheiny ar y maes yno i gefnogi'r Eisteddfod yn eu hardal nhw, ac eraill wedi teithio tipyn pellach.
"Mae'n ffantastig yma, mae'n groesawgar. Mae'n biti am y glaw ond 'dan ni'n 'neud y gorau ohono beth bynnag," meddai Eleri Lynn, un o Gymry Llundain.
"Mae'r setting mor lyfli - jyst sefyll yn llonydd ac edrych o gwmpas, mae Tregaron yn beautiful."

Daeth Eleri yr holl ffordd o Lundain gyda'i mab, Tal
Thema gyson ymhlith y rheiny oedd yno ar y dydd Sadwrn agoriadol oedd y gofod y maes - er bod trefnwyr yn dweud ei fod tua'r un maint â meysydd blaenorol, mae'n fwy sgwâr na rhai hirach y gorffennol ac felly'n teimlo'n fwy i rai.
"Mae hi bach yn damp 'de, ond 'Steddfod 'di Steddfod. Mae'n braf bod 'nôl," meddai Ifan Wyn o Ruthun.
"Mae o'n faes gwasgaredig iawn - digon o le yma i'r plant redeg. Mae'n braf cael lle fflat yn lle mynd fyny a lawr elltydd!"

Roedd Ifan yn diolch am y tir fflat wrth wrthio'r pram rownd y maes
Cytuno oedd Gerallt Davies o Aberaeron.
"Mae'r maes yn agored iawn, un o'r meysydd gorau dwi'n cofio i ddweud y gwir," meddai.

Mae Gerallt Davies yn cofio aros yn Y Barri ar gyfer ei Eisteddfod gyntaf yn 1978
Gyda'r maes ond dafliad carreg o'i stepen drws, roedd Alice o Flaen Caron hefyd yn gweld "digon o le i bawb".
"Mae pob math o stondinau, digon i'w wneud - bydd Eisteddfod Tregaron yn eisteddfod i'w chofio," meddai.

Roedd Ifan ac Alice yn canmol y maes i'r cymylau - er bod digon o rheiny yn yr awyr dros Dregaron ddydd Sadwrn
Roedd trigolion lleol eraill hefyd yno i fanteisio ar gael y brifwyl yn y cyffiniau.
"Mae Rhiannon 'mond 10 diwrnod oed, ond o'n i'n meddwl gan fod e mor lleol, mae'n well bod ni'n dod â hi i'r 'Steddfod," meddai Caryl Hughes, oedd yno gyda'i merch fach.

Dydy Caryl ddim yn eisteddfodwraig gyson, ond roedd hi'n teimlo ei bod hi'n bwysig dod i'r un yn ei hardal leol
Doedd Betty Lockyer a Beti James ddim am fethu cyfle i frolio'r lleoliad "perffaith" wrth i'r ffrindiau gael clonc ger y fynedfa.
"I gymharu â'r rhai blaenorol - dwi wastad yn mynd i'r 'Steddfod bod blwyddyn - mae hon yn sbesial, mae hi gartre'," meddai Beti James.
"Ni'm 'di gweld ein gilydd ers sbel achos Covid, a nawr ni'n rhoi'r byd yn ei le."

Betty Lockyer a Beti James - dwy hen ffrind yn rhoi'r byd yn ei le ar y maes
Mae gweld hen ffrindiau'n rhan annatod o'r Eisteddfod i nifer, ond yn arbennig o bwysig eleni yn ôl Maldwyn Pryse o Aberystwyth.
"S'neb wedi gweld ei gilydd ers tair blynedd, ac mae'n cymryd achau i fynd fyny a lawr," meddai.
"Ti'n gweld rhywun, cael sgwrs, mynd dau, dri cam, gweld rhywun, sy'n braf - ni 'di colli'r elfen gymdeithasol yna."

Maldwyn Pryse yn crwydro'r maes gyda'i ferch Meleri
Roedd eraill wedi teithio o tipyn pellach na Cheredigion.
"Rydyn ni ar wyliau yma ac roedd rhaid i ni fynd i'r milfeddyg yn Aberystwyth, ac 'naethon nhw ddweud wrthan ni bod rhaid i ni ddod, mae'n ŵyl fawr," meddai Maina a Hago o Köln yn Yr Almaen, oedd yno gyda'u meibion.
"Dydy hi ddim yn brysur iawn yma eto, 'dan ni'n gobeithio am fwy!"

Ar wyliau yng Nghymru mae Hago, Maina a'r teulu o'r Almaen
Mae Brooke Martin yn dod o Georgia, yr Unol Daleithiau yn wreiddiol, a bellach yn byw ym Mangor.
"Eisteddfod Caerdydd oedd yr un cyntaf i fi fynd iddo, felly mae hwn yn wahanol iawn - ond dwi'n mwynhau o."

Mae Tregaron yn wahanol iawn i unig Eisteddfod arall Brooke - yr un di-faes yng Nghaerdydd
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2022