Adfer cyflenwad dŵr yr Eisteddfod Genedlaethol yn llwyr
- Cyhoeddwyd

Doedd dim modd ail-lenwi poteli dŵr ar y maes fore Sadwrn
Mae cyflenwad dŵr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ei adfer ar ôl cael ei droi i ffwrdd am gyfnod helaeth wrth i swyddogion gynnal profion ar safon y dŵr.
Am gyfnod helaeth rhwng dydd Iau a dydd Sadwrn bu'n rhaid darparu poteli dŵr i eisteddfodwyr fu'n cyrraedd y Maes a'r maes carafanau yn Nhregaron.
Cafodd y cyflenwad ar gyfer y maes carafanau ei ail-sefydlu ychydig cyn 18:00 nos Wener, cyn i gyflenwad y maes gael ei adfer fore Sadwrn.
Roedd yr Eisteddfod wedi dweud nos Wener y byddai profion pellach yn cael eu gwneud ar gyflenwad y Maes ei hun am 08:00 fore Sadwrn.

Roedd poteli dŵr yn cael eu cludo i'r safle tra i'r prif gyflenwad gael ei ddifodd
Ond wrth i eisteddfodwyr gyrraedd nid oedd y dŵr wedi'i droi ymlaen ar y Maes, ac nid oedd y tapiau i ail-lenwi poteli ar gael i'w defnyddio.
Yna, toc wedi 11:00, daeth cadarnhad fod y "dŵr yn ddiogel i'w ddefnyddio ar y Maes".
'Maint a chymhlethdod isadeiledd dŵr dros dro'
Dywedodd yr Eisteddfod mewn datganiad am 11:15 ddydd Sadwrn: "Mae'r systemau dŵr cyhoeddus ar Faes yr Eisteddfod yn weithredol eto yn dilyn canlyniadau'r profion a ddaeth drwodd y bore 'ma.
"Rydyn ni'n parhau i weithio gyda Chyngor Ceredigion a Dŵr Cymru ar rai materion, oherwydd maint a chymhlethdod isadeiledd dŵr dros dro, ond mae'r dŵr yn ddiogel i'w ddefnyddio ar y Maes."

Roedd Bet Jones a Violed Jones yn gwneud defnydd o'r poteli oedd wedi eu dosbarthu
Ar y maes carafanau brynhawn Gwener dywedodd Bet Jones o Gaerfyrddin ei bod yn deall bod her wrth baratoi'r maes, ond nad oedd yn ddelfrydol 'chwaith.
"Ddes i lan ddoe [dydd Iau] a ges i lythyr yn y fynedfa yn dweud wrthon ni doedd o [y dŵr] ddim yn ffit i'w yfed o bellffordd, nac i wneud dim ag e i ddweud y gwir - hyd yn oed ar gyfer cawodydd.
"Yr unig beth i wneud wedyn oedd cael poteli dŵr, a da' chi'n gorfod defnyddio'r rheiny i bopeth.
"Ni'n deall fod e'n sefyllfa anodd. Mae cymaint o bibelli yn y maes a fan hyn - dyw e ddim yn jôc i seto fe lan."


Ychwanegodd Violed Jones o Bencader: "Mae gofid mawr yma fod ddim dŵr i bobl hyd yn oed i'w ferwi a'i ddefnyddio wedyn, hyd yn oed i gael cawod."
Dywedodd eisteddfodwr arall, Ieuan Arfon Jones o Langollen: "'Da ni bach yn siomedig ond yn gorfod bod yn ofalus gyda dŵr ar y fferm adre am fod ni ddim ar y dŵr mains, felly 'da ni wedi arfer.
"Oeddwn wedi cymryd fydda dŵr Tregaron yn berffaith!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022