Ail gartrefi: Cymdeithas adeiladu i wrthod morgeisi i'w prynu

  • Cyhoeddwyd
Pistyll
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cymdeithas Adeiladu Leeds nad yw ail gartefi yn helpu cymunedau lleol

Mae cymdeithas adeiladu wedi dweud ei bod yn rhoi'r gorau i fenthyca arian i bobl sydd eisiau morgais i brynu ail gartref.

Dywed Cymdeithas Adeiladu Leeds fod yna gonsensws eang erbyn hyn fod ail gartrefi yn lleihau nifer y tai sydd ar gael i bobl fyw ynddynt yn barhaol.

Dywedodd Rhys Tudur o ymgyrch Hawl i Fyw Adra ei fod yn croesawu'r cyhoeddiad, ond mai bach fydd yr effaith, yn y bôn.

"Mae'n gam i'r cyfeiriad cywir, ond bach iawn o effaith 'sa ni'n dweud bydd o'n ei gael, gan fod y rhan fwyaf o'r bobl yma yn cash buyers."

Ni fydd penderfyniad y gymdeithas adeiladu'n effeithio ar dai sy'n cael eu gosod fel tai haf i'w rhentu.

Yn y dyfodol bydd y gymdeithas yn gosod telerau morgais ar gyfer ail gartref yn gofyn iddynt gael eu rhentu allan am o leiaf 24 wythnos y flwyddyn.

Dywedodd llefarydd: "Mae unrhyw dŷ heblaw am y prif gartref fel rheol yn wag am y rhan fwyaf o'r amser, sydd ddim yn helpu'r gymuned leol na chwaith yn cyfrannu i'r economi leol."

Disgrifiad,

Mae'r defnydd o enw Saesneg i farchnata fferm fel llety gwyliau yn codi gwrychyn yr actor John Pierce Jones

Dywedodd Mr Tudur, sy'n gynghorydd sir yng Ngwynedd, fod angen i awdurdodau lleol wneud mwy.

Mae am weld cynghorau sir yn cymryd mwy o ran yn y farchnad morgeisi, gan gynnig morgeisi i bobl sydd am fynd ar y farchnad dai am y tro cyntaf.

"Dwi wedi bod yn pwyso ar Gyngor Gwynedd a galw ar gynghorau eraill Cymru i symud i'r cyfeiriad yma."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio at y posibilrwydd o greu defnydd o forgeisi cynghorau lleol yn ddiweddar.

"Mae Adrannau Tai a Chyllid y Cyngor yn trafod sut y gellir gwneud y mwyaf o system o'r fath i helpu pobl gael mynediad i'r farchnad dai ac yn arbennig i gael mynediad at forgeisi gyda blaendaliadau llai.

"Mae disgwyl rhagor o fanylion gan Lywodraeth Cymru am y maes yma dros y misoedd nesaf."

Trethi 300%

Ym mis Gorffennaf fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi mesurau newydd i reoli nifer yr ail gartrefi a thai sy'n cael eu gosod ar rent.

Byddai hynny'n digwydd drwy ei gwneud yn ofynnol i gael caniatâd cynllunio cyn bod tŷ yn gallu cael ei ddefnyddio fel ail gartref.

Ac o fis Ebrill 2023, bydd gan gynghorau Cymru yr hawl i godi'r dreth gyngor ar ail dai i hyd at 300%.

Yn ôl corff data'r llywodraeth, Stats Cymru, roedd cyfanswm o 23,974 o ail gartrefi yng Nghymru oedd yn talu treth cyngor yn 2022, yn ogystal â 22,140 o gartrefi gwag.

Pynciau cysylltiedig