Cyn-gymar yn cyhuddo Gareth Thomas o roi HIV iddo
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gapten rygbi Cymru a'r Llewod, Gareth Thomas, wedi cael ei gyhuddo o drosglwyddo HIV "trwy dwyll" i gyn-gymar, yn ôl dogfennau cyfreithiol yr Uchel Lys.
Yn ôl Ian Baum fe guddiodd Mr Thomas y ffaith ei fod yn byw gyda'r feirws, ac mae'n honni ei fod wedi "methu â chymryd gofal rhesymol" i sicrhau nad oedd yn ei drosglwyddo.
Mae cynrychiolwyr cyfreithiol Mr Thomas, Addleshaw Goddard, wedi cael cais i roi ymateb. Mae yna adroddiadau bod Gareth Thomas yn bendant yn gwadu'r honiad.
Mae Mr Baum yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cyn-chwaraewr a'r personoliaeth teledu, sy'n cael ei adnabod fel Alfie, ac yn ceisio hawlio iawndal gwerth o leiaf £150,000.
Dod ar draws meddyginiaeth wrthfirol
Bu'r ddau ddyn mewn perthynas rhwng 2013 a 2016. Dywed Mr Baum yn nogfennau'r llys ei fod yn HIV negatif ar ddechrau'r berthynas, a'i fod wedi darganfod bod Mr Thomas â'r cyflwr pan ddaeth ar draws tabled GSK1.
"O edrych ar Google... fe ddarganfuodd bod y diffynnydd yn cymryd meddyginiaeth wrthfirol HIV," noda'r dogfennau.
Aeth Mr Baum ati'n "syth" i drefnu apwyntiad am brawf HIV.
Dywed y dogfennau iddo gael "ei ddryllio" pan gafodd wybod bod y prawf yn bositif.
'Edifar yn ofnadwy'
Fe wnaeth Mr Baum gysylltu â Mr Thomas ar y ffôn i ofyn am eglurhad.
Yn ôl y dogfennau, roedd y cyn seren rygbi yn "edifar ofnadwy".
Maen nhw'n nodi bod y diffynnydd wedi "erfyn arno i gadw ei statws HIV yn gyfrinachol", bod Mr Baum wedi cytuno, a bod y berthynas wedi parhau.
Mae Mr Baum yn honni bod Mr Thomas wedi ymddwyn mewn modd sy'n rheoli neu'n gorfodi, er mwyn sicrhau nad oedd ei statws HIV yn cael ei ddatgelu yn gyhoeddus.
Mae Mr Baum yn dweud yn y papurau bod Mr Thomas wedi achosi "niwed corfforol a seicolegol difrifol" iddo.
Mae hefyd yn honni bod Mr Thomas wedi dweud celwydd wrtho ynghylch ei statws HIV.
Datgelodd Mr Thomas yn gyhoeddus ei fod yn byw gyda HIV yn 2019.
Honnir bod Mr Thomas wedi "portreadu ei hun fel llefarydd ar ran [y gymuned] HIV gan beidio datgelu erioed ei fod 'trwy dwyll' wedi trosglwyddo HIV i'r hawlydd yn 2014".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd15 Medi 2019
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2018