Miloedd yn cael cynnig pigiad Covid ar gam
- Cyhoeddwyd

Mae tua 9,500 o bobl wedi derbyn, neu wedi cael cynnig brechiad atgyfnerthu, er nad oeddynt yn gymwys
Mae 9,500 o bobl wedi cael cynnig brechiad Covid atgyfnerthol er nad nad oeddynt yn gymwys i'w gael.
Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd y gweinidog iechyd, Eluned Morgan, bod y camgymeriad wedi digwydd am bod y meini prawf yn ehangach ar gyfer ymgyrch pigiadau atgyfnerthu y gwanwyn o'u cymharu ag ymgyrchoedd blaenorol y brechiad atgyfnerthu.
Roedd y rhai a nodwyd eu bod yn gymwys i'w dderbyn i gyd yn bobl oedd yn cael eu hystyried yn fregus iawn.
Cadarnhaodd Ms Morgan y bydd y rhai sydd wedi cael y cynnig - er ei fod yn anghywir - yn derbyn y brechiad.
Anghysondeb posibl
Ar 16 Mai, roedd y byrddau iechyd wedi sylwi ar anghysondeb posibl rhwng y meini prawf cymhwysedd a bennwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), a'r bobl a oedd yn dod i gael eu brechu.
Mae JCVI bob amser wedi argymell blaenoriaethu brechiadau i unigolion sy'n imiwnoataliedig (immunosuppressed).
Roedd meini prawf cymhwysedd y pigiad atgyfnerthu ar gyfer y grŵp hwn yn ehangach, o'u cymharu ag ymgyrchoedd blaenorol, meddai'r gweinidog.
"I sicrhau bod pawb sy'n bodloni'r meini prawf ehangach yn cael cynnig pigiad atgyfnerthu yn y gwanwyn, roedd angen creu carfan newydd yn System Imiwneiddio Cymru (WIS) - dyma'r system a ddefnyddir gan y GIG i reoli a chofnodi'r brechiadau a gynigir ac a weinyddir i'r unigolion hyn," meddai.
"Yn sgil creu'r garfan newydd hon mae ein hymchwiliad wedi canfod bod tua 9,500 o bobl wedi cael eu cynnwys yn anghywir.
"Mae pawb sydd wedi'u nodi yn anghywir wedi'i gynnwys yn y grŵp o bobl eithriadol o agored i niwed yn glinigol - pobl sy'n gymwys i gael cyffur gwrthfeirol neu driniaeth â gwrthgyrff os byddant yn cael Covid-19.
"Gellir priodoli'r gwall hwn i wahaniaethau yn y meini prawf ar gyfer brechiadau a thriniaeth.
"Mae'n bwysig nodi bod pob un o'r unigolion hyn yn wynebu risg uchel o ddatblygu salwch difrifol os byddant yn cael Covid-19 a byddai rhai ohonynt eisoes wedi bod yn gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn y gwanwyn gan eu bod yn bodloni meini prawf cymhwysedd eraill, er enghraifft maent dros 75 oed neu'n byw mewn cartref gofal ar gyfer pobl hŷn."

Byddai tynnu'r cynnig o frechiad yn ôl yn creu pryder a dryswch medd Eluned Morgan
Dywedodd ei bod wedi penderfynu anrhydeddu'r cynnig, "ar ôl ystyried yn ofalus yr opsiynau a'r cyngor clinigol a moesegol", ac oherwydd y "dryswch a'r pryder" y gallai tynnu'r cynnig yn ôl ei achosi.
"O wneud hynny, rwy'n nodi'n glir nad yw'r penderfyniad hwn yn golygu ein bod yn estyn ein rhaglen y tu hwnt i'r meini prawf cymhwysedd a gynghorwyd gan y JCVI."
Dywedodd bod cyflenwad digonol o'r brechlyn yng Nghymru i ddarparu apwyntiadau a brechiadau atgyfnerthu ychwanegol.
"Byddwn yn gwneud yn siŵr bod pob unigolyn yr effeithir arno yn ymwybodol o'r sefyllfa a byddwn yn ymddiheuro am y gwall," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2021