Heddluoedd i gydweithio i ddiogelu trysorau o hanes Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae holl heddluoedd Cymru wedi ymuno â chyrff sy'n gwarchod treftadaeth am y tro cyntaf erioed er mwyn ceisio mynd i'r afael â throseddau sy'n niweidio trysorau hanesyddol y wlad.
Mae troseddau yn erbyn henebion yn faes eang ac yn cynnwys byrgleriaeth, cynnau tân yn anghyfreithlon, ac achosi niwed i leoliadau archeolegol.
Ond mae Newyddion S4C wedi clywed am broblemau bychain dyddiol gan bobl sydd ddim yn sylweddoli'r niwed sy'n cael ei achosi gan eu gweithredoedd.
Yn dilyn sawl digwyddiad diweddar yng Nghymru, mae ymgyrch newydd yn ceisio mynd i'r afael â'r broblem.
"Y broblem fwyaf ry'n ni'n ei wynebu ar hyn o bryd yw tanau," dywedodd Tomos Jones, sydd yn Archeolegydd Cymunedol gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
"Mae'n batrwm ry'n ni wedi sylwi arno ers dechrau'r cynllun yma."
Yn yr haf, mae pobl yn dod â barbeciw, ond yn sgil newid hinsawdd, mae'r tir yn sychach, ac mae'n hawdd iawn i dân ledu'r tu hwnt i reolaeth, gan effeithio ar leoliadau hanesyddol o bwys.
Cafodd Ymgyrch Treftadaeth Cymru ei chyhoeddi'n swyddogol ym mis Mehefin.
Ddeufis yn ddiweddarach, ac mae'r heddlu eisoes yn gweld y manteision, gyda gwybodaeth yn cael ei chasglu am y tro cyntaf er mwyn mynd i'r afael â throseddau o fewn y maes penodol hwn.
Mae timau o swyddogion bellach yn gweithio gyda CADW, Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Parciau Cenedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru er mwyn ceisio adeiladu mwy o ddealltwriaeth ynglŷn â throseddau yn erbyn henebion.
Dywedodd yr Uwch-Arolygydd Ifan Charles o Heddlu Dyfed-Powys mai'r bwriad yw cynnal cysylltiad gwell gyda phartneriaid a heddluoedd eraill er mwyn "deall yr heriau sy'n wynebau lleoliadau hanesyddol".
"Er enghraifft, os oes yna batrwm o ran lle mae'r troseddau'n digwydd," dywedodd.
"Hefyd, ry'n ni'n gallu gweithio'n agosach gyda'r gymuned er mwyn sicrhau ein bod yn gweld lle mae angen i ni ymyrryd er mwyn atal pethau rhag digwydd."
Y rhybudd, yn aml, gyda'r troseddau hyn yw bod niwed i safleoedd hanesyddol yn golygu bod yr hanes hwnnw yn cael ei ddileu am byth.
"Y nod yw cynyddu nifer yr adroddiadau ynglŷn â'r troseddau yma," ychwanegodd yr Uwch-Arolygydd Ifan Charles.
"Fel bod modd targedu swyddogion, targedu'r gymuned a'u dysgu sut mae delio â'r troseddau yma, ac hefyd, pan bod modd, mynd ati i wneud gwaith adfer."
Dros gyfnod y Nadolig y llynedd, cafodd Eglwys y Grog, Mwnt, ei difrodi mewn dau ddigwyddiad.
Roedd yna niwed i'r ffenestri, i glwyd y fynwent, ac o fewn yr eglwys hynafol.
O fewn dyddiau, cafodd degau o filoedd o bunnoedd eu codi wrth i bobl gyfrannu'n hael tuag at waith adfer sydd bellach yn mynd rhagddo.
"Mae pob un o'r ffenestri wedi eu hail wneud," dywedodd y cynghorydd tref Clive Davies.
"Ma' 'na gynlluniau nawr ar gyfer 'neud y tu fewn a'r tu allan gyda'r gwyngalchu a phethe' fel 'na. Felly ni'n gobeithio y bydd pethe' yn edrych yn fel newy' cyn diwedd yr haf."
Ond mae 'na drafodaethau pellach rhwng swyddogion lleol Mwnt a Heddlu Dyfed-Powys ynglŷn â strategaethau i atal fandaliaeth o'r math yma yn y dyfodol.
Ychwanegodd Clive Davies: "Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhoi cyngor i ni ac hefyd wedi cyflwyno'r syniad ac yn ein cefnogi ni i ddefnyddio'r rhyngrwyd, y pethe' sydd ar gael yma erbyn hyn gan fod yna wifren Ffibr Optig nawr yn mynd lawr i'r traeth.
"Gyda hynny, byddwn ni'n gallu defnyddio sensors o gwmpas yr eglwys."
Yn dilyn y fandaliaeth, roedd awgrym y gallai camerâu cylch cyfyng gael eu cyflwyno i ardaloedd fel Mwnt.
Ond gyda hynny, mae 'na broblemau ynglyn â chyfreithiau preifatrwydd wrth gasglu lluniau, heb sôn am yr heriau ymarferol o gyflenwi pŵer, a chynnal a chadw'r dechnoleg.
Mae defnyddio technoleg symlach fel synhwyrydd yn haws, ac yn anfon neges yn syth i ffôn gwirfoddolwyr lleol sydd mewn cyswllt cyson â thimau'r heddlu.
'Hollbwysig gwarchod ardaloedd hynafol'
Mae'n cynnig un datrysiad syml meddai Mr Davies: "Byddai ffordd i ni rhoi sensor wrth y drws, motion sensors tu fewn.
"Dyw'r rhain ddim yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol, maen nhw'n syml iawn ac yn synhwyro os yw rhywun yn yr ardal, neu os oes rhywun wedi agor drws, neu os oes mwg ac yn y blaen.
"Felly byddai modd eu defnyddio nhw, a chadw'r drws ar agor i bobl fwynhau'r eglwys."
I lawr yn Sain Ffraid ar arfordir Sir Benfro, mae'r Archeolegydd Cymunedol Tomos Jones yn tanlinellu pwysigrwydd hanesyddol yr ardal.
"Mae yna feddau hynafol yn y creigiau yma," meddai.
"Ac o bryd i'w gilydd, mae olion dynol yn cael eu darganfod, felly mae'n hollbwysig ein bod ni'n gwarchod ardaloedd fel hyn.
"Ac hefyd, mae gyda ni'r odyn galch yma sydd yn gofeb restredig o bwys cenedlaethol. Ac wrth gwrs, os oes yna danau, fel y'ch chi'n gweld wrth yr olion yma, mi allai fod yna ddifrod mawr."
'Rhaid deall y sefyllfa'n well'
Dyma'r ymgyrch gyntaf o'i bath drwy'r Deyrnas Unedig, gyda heddluoedd bellach yn cydnabod pwysigrwydd cyd-weithio fel nad yw gweithgaredd pobl yn dinistrio'r hyn a fu.
"Ry'n ni'n sylweddoli pa mor bwysig yw'r safleoedd hyn i hanes Cymru" meddai'r Uwch-Arolygydd Ifan Charles.
"Ac unwaith bod y safleoedd yma wedi eu difrodi neu eitemau wedi eu dwyn, mae'n anodd iawn eu hadfer. Ar draws Cymru, ry'n ni'n derbyn bod yn rhaid deall y sefyllfa'n well a dyna pam bod yr ymgyrch yma ar waith.
"Yn dod â holl luoedd Cymru at ei gilydd gyda phartneriaid, er mwyn cydweithio'n well a datrys y problemau yma i'r dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2019