3 Llun: Lluniau pwysicaf bywyd Meilyr Emrys
- Cyhoeddwyd
Os fyddai rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?
Y cerddor, sylwebydd a hanesydd o Fethel ger Caernarfon, Meilyr Emrys sydd yn rhannu rhai o luniau pwysicaf ei fywyd.
Dwi wrth fy modd efo chwaraeon o bob math a dwi wedi bod yn ddigon lwcus i gael dilyn tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru ledled cyfandir Ewrop a thu hwnt (gan fynd a'r faner 'Jacs y Gogledd' efo fi, fel arfer).
Er mwyn gwylio'r crysau cochion yn chwarae yn erbyn Mecsico yn stadiwm eiconig y Rose Bowl oeddwn i yn LA, mewn gwirionedd, a hynny ar ddechrau trip oedd hefyd am gynnwys ymweliadau ag Indianapolis i wylio Owain Fôn Williams, y golwr rhyngwladol o Benygroes, yn chwarae i'r Indy Eleven ac Washington DC i wylio tîm rygbi cenedlaethol Cymru yn trechu De Affrica.
Ond gan fy mod i wedi cyrraedd Califfornia gwpwl o ddyddiau cyn y gêm fawr, fe benderfynais i ychwanegu un gêm arall at fy nheithlen!
Andrew, o Wrecsam, sy'n sefyll drws nesaf i mi yn y llun: 'roeddem ni newydd gyfarfod am y tro cyntaf, tua dau funud ynghynt.
Dros 5000 o filltiroedd o adref - ac mewn stadiwm sy'n dal 27,000 o bobl - 'roedd yr unigolyn oedd digwydd bod yn eistedd yn y sedd drws nesaf ond un i mi yn siaradwr Cymraeg ac felly fe gefais i'r pleser o dreulio bron i ddwy awr yn trafod a dadansoddi'r gêm yn ei gwmni, a hynny yn fy mamiaith.
Y daith honno - drwy'r 'Midwest', o Milwaukee i Indianapolis - oedd y tro cyntaf i mi erioed fynd ar wyliau ar fy mhen fy hun a dwi bellach yn edrych yn ôl ar y profiad hwnnw fel un gwerthfawr a gwirioneddol fythgofiadwy.
Er gymaint 'roeddwn i'n edrych ymlaen am y daith, ar yr un pryd, 'roeddwn i hefyd yn eithaf nerfus am fynd mor bell heb unrhyw fath o gwmni.
Ond yn y pen draw, fe wnaeth hynny fy ysgogi i fynd ati i gyfarfod a gwneud ffrindiau efo amryw o bobl glên a diddorol yn ystod fy nhaith o Wisconsin, drwy Illinois, i Indiana, a dwi dal i fod mewn cysylltiad efo'r mwyafrif ohonyn nhw hyd heddiw.
Fe wnes i ddysgu gymaint am fy hun yn ystod y daith a - gan i mi gael profiad mor gadarnhaol - fyswn i bellach yn annog pawb i fynd ar wyliau ar eu pennau eu hunain, o leiaf unwaith.
Cân am yr amser wnes i dreulio yn Chicago yn 2014 ydi 'Olwyn Uwchben y Dŵr', sef fy sengl ddiweddaraf.
Flynyddoedd yn ôl bellach - cyn i mi ddechrau rhyddhau cerddoriaeth fel artist unigol - 'roeddwn i'n aelod o fand roc Cymraeg o'r enw Vanta.
Wedi i ni ffurfio'r band tra 'roeddem yn dal yn ddisgyblion yn Ysgol Brynrefail, fe wnaeth Martin, Gerallt, Steve a fi ryddhau tair cryno ddisg ar is-label RASP, sy'n rhan o gwmni recordio Fflach, a'r ffotograffydd a'r cyfarwyddwr teledu Phil Merchant dynnodd y llun gwych hwn ohonom ni, tra 'roeddem ni'n ffilmio fideo ar gyfer un o'n caneuon yn Lerpwl, ym mis Hydref 2001.
A ninnau newydd ryddhau ein cryno ddisg gyntaf, Pedair Stori Fer, roedd hi'n teimlo fel fod y byd wrth ein traed: 'roeddem ni'n ifanc, hyderus ac efo gymaint o brofiadau cofiadwy o'n blaenau fel aelodau o Vanta.
Yn fwy na dim, mae'r llun yn fy atgoffa i o'r diwrnod hwnnw yn Lerpwl, pan gafodd tri aelod arall Vanta fwynhau ymlacio a sefyll o gwmpas, tra 'roedd yn rhaid i mi, y prif leisydd, dreulio oriau'n smalio ymladd efo dau gic-focsiwr lleol: 'roedd un yn Bencampwr Prydain a'r llall yn Bencampwr Ewrop!
Yn anhygoel, mae dal yn bosibl gwylio'r fideo - gafodd ei ffilmio ar gyfer rhaglen deledu 4Trac - ar YouTube.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.