Ateb y Galw: Y cerddor Meilyr Emrys

  • Cyhoeddwyd
Meilyr EmrysFfynhonnell y llun, Meilyr Emrys

Y cerddor Meilyr Emrys sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Richard 'Fflach' Jones yr wythnos diwethaf.

Mae Meilyr yn adnabyddus fel prif leisydd y band Vanta ac fel canwr unigol caneuon cofiadwy fel Tri Mis a Diwrnod. Mae hefyd yn sylwebu ar hanes chwaraeon yng Nghymru.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae gen' i nifer o frithgofion o fod yn hogyn bach yn fy nghartref cyntaf ym Methel, ger Caernarfon: chwarae yn yr ardd; diwrnod 'Dolig; Maradona a Chwpan y Byd 1986; Mam-gu a Dad-cu yn dod i fyny i aros.

Dwi hefyd yn cofio fy ymweliad cyntaf â'r Vetch yn Abertawe, pan o'n i'n bump oed (Abertawe 3, Stockport County 0).

Ond un o fy atgofion cyntaf ydi pi-pi ar iard Ysgol Gynradd Bethel! Roedd yr athrawon wedi dweud nad oeddem ni i fod i fynd i mewn yn ystod amser chwarae ac o'n i'n byrstio angen mynd i'r toiled… felly be' oeddwn i fod i wneud?!

Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?

Roedd gen i boster o Louise Wener, prif leisydd y band Sleeper, ar fy wal pan o'n i yn fy arddegau ac (fel llawer o hogia' eraill wnaeth dyfu fyny yn y nawdegau) roedd Geri Halliwell yn ffefryn arall.

Ges i gyfle i weld Sleeper yn chwarae'n fyw cwpwl o flynyddoedd yn ôl ac fel oedd hi'n canu 'And it's you…' yn Sale of the Century, fe wnaeth Louise bwyntio tuag at lle o'n i'n sefyll… Fysa'r Mei Emrys 16 oed wedi bod wrth ei fodd!

Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r Meilyr ifanc wedi bod wrth ei fodd i ddeall bod Meilyr heddiw wedi cael sylw gan Louise Wener

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

O'n i'n meddwl am hyn diwrnod o'r blaen, a fedra'i wir ddim cofio.

Oedd 'na lot o ddagrau o fy nghwmpas i ar ddiwedd rownd gynderfynol Euro 2016 yn Lyon, ond wnes i ddim crio fy hun chwaith.

O'n i'n arfer ystyried fy hun yn berson eithaf emosiynol - gorsensitif ar adegau, os rywbeth. Hwyrach fy mod i wedi dysgu i reoli fy emosiynau'n well wrth i mi fynd yn hŷn.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Os fyddai rhywun wedi gofyn hyn i mi ddeg mlynedd yn ôl, mae'n debyg fyswn i wedi dweud Stadiwm Liberty: ar ddiwedd fy nauddegau, roeddwn i yno'n ddeddfol ar gyfer y mwyafrif o gemau cartref yr Elyrch, ac efo Abertawe ar y ffordd i fyny i'r Uwchgynghrair,'roedd hi'n grêt cael dianc yno bob yn ail brynhawn Sadwrn.

Ond dwi ddim yn mynd i lawr hanner mor aml bellach: mae hi'n llawer haws i mi fynd i gemau oddi cartref yng ngogledd Lloegr erbyn hyn, gan fy mod i wedi symud yn ôl i fyw yng Nghaernarfon.

Gan i mi dreulio bron i ddegawd fel myfyriwr yn Aberystwyth, mae Neuadd Pantycelyn hefyd yn agos at fy nghalon i: wedi i mi fyw yno am ddwy flynedd pan oeddwn i'n fyfyriwr israddedig, fe wnes i weithio yn y neuadd am flwyddyn (fel Llywydd UMCA), cyn mynd ymlaen i fod yn is-warden yno tra roeddwn yn cwblhau fy noethuriaeth. Oherwydd hynny, mae Aberystwyth wedi cyfrannu'n fawr at bwy ydw i heddiw, ac roedd byw ym Mhantycelyn yn rhan enfawr o hynny.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Agorodd Neuadd Pantycelyn yn 1951 fel neuadd breswyl i fyfyrwyr gwrywaidd yn unig. Yn 2020, ail-agorodd y neuadd yn dilyn gwaith i foderneiddio'r adeilad

Ond dwi hefyd wedi cael blas ar fynd am dro yn ystod y misoedd diwethaf 'ma: trio dod o hyd i lefydd distaw, sy'n teimlo ymhell o bawb a phopeth, ac mae 'na ddigon o lefydd felly yng ngogledd Cymru. Mae Moelyci, uwchben Rhiwlas, yn un ohonyn nhw, a dwi'n mwynhau mynd i fanno o dro i dro i fwynhau'r distawrwydd a'r golygfeydd gwych o Arfon a Sir Fôn.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Chwarae efo fy nhrwyn!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi ddim yn un sy'n teimlo cywilydd yn hawdd iawn, felly y tu hwnt i ganu allan o diwn neu chwarae ambell nodyn/gord anghywir wrth berfformio, fedra'i ddim meddwl am unrhyw ddigwyddiad mawr.

Ond wrth edrych yn ôl, efallai ddylai fy atgof cyntaf fod yn eithaf agos i dop y rhestr!

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi wrth fy modd efo chwaraeon o bob math - mae pawb yn gwybod hynny - ond o'n i'n arfer bod yn eithaf obsesiynol am chwaraeon gaeaf.

Pan oeddwn i yn fy arddegau, roeddwn i'n treulio oriau yn gwylio sgïo ar deledu lloeren bob penwythnos ac fe wnes i ennill cystadleuaeth Sylwebydd y Flwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd ar ôl i mi recordio fy hun yn sylwebu ar bencampwriaeth sgïo slalom y byd. Er hynny, dwi'n fawr o sgïwr fy hun: dim ond unwaith erioed dwi wedi sgïo ar eira.

O archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi wedi cael lot o fwynhad wrth ddilyn pêl-droedwyr Abertawe a Chymru a ges i nifer o brofiadau da tra'n gigio efo Vanta hefyd: fe wnaethom ni chwarae cwpwl o gigs yn y Temple Bar Music Centre yn Nulyn, er enghraifft, ac roedd rheini yn nosweithiau gwych.

Ond ar ôl bod yn sownd yn y tŷ am y rhan fwyaf o 2020, dwi'n hoffi meddwl bod y 'noson orau erioed' yn dal i ddod: unwaith y bydd hi'n ddiogel i ni wneud hynny eto, fe fydd y noson allan gyntaf efo ffrindiau yn epig!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Call, hwyliog, breuddwydiwr.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Dwi'n ystyried nifer fawr o ganeuon yn 'ffefrynnau', felly mae'n anodd iawn dewis dim ond un.

Dwi'n tueddu i wrando ar un gân drosodd a drosodd am ychydig wythnosau (nes mae pawb o fy nghwmpas i wedi syrffedu ar ei chlywed hi): Walt Grace's Submarine Test gan John Mayer ydi'r gân honno ar y funud ac Ifanc a Ffôl gan MR oedd 'ffefryn y foment' fis diwethaf.

Fel nifer o ganeuon eraill Oasis, mae Don't Go Away yn agos iawn at dop fy rhestr. Ond dwi byth yn blino ar Waterloo Sunset gan y Kinks, achos mae hi'n fy atgoffa i o fod yn ifanc, rhydd a heb ofal yn y byd. Mae delweddau geiriol Ray Davies hefyd yn wych, yn enwedig yr un am y cariadon ifanc yn croesi'r afon er mwyn cyrraedd y lle mae nhw'n teimlo'n 'safe and sound'.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd The Kinks yn boblogaidd yn ystod yr 1960au

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Os fyswn i isio mynd am 'sesh wyllt', fyswn i'n ffonio Liam Gallagher… ond mae'n debyg na fyddai hynny'n beth call iawn i'w wneud!

I fod yn hollol onest, teulu a ffrindiau fyswn i'n hoffi gallu treulio amser efo nhw ar hyn o bryd: mae siarad dros Zoom a WhatsApp yn iawn o dan yr amgylchiadau, ond fedra'i wir ddim disgwyl i fynd am beint efo fy ffrindiau a dal i fyny'n iawn efo nhw, unwaith fydd hi'n ddiogel i ni allu gwneud hynny.

Fel arall, mae gen' i ddiddordeb mawr mewn hanes chwaraeon a dwi wrthi'n ymchwilio hanes nifer o athletwyr wnaeth ymfudo o Gymru i ogledd America ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Dwi eisoes wedi gallu olrhain eu gyrfaoedd nhw fel rhedwyr, ond fysa fo'n dda gallu eistedd lawr efo nhw dros beint a gofyn ambell gwestiwn iddyn nhw am eu bywydau personol, er mwyn i mi gael dod i wybod pethau na fedra'i eu dysgu o hen adroddiadau papur newydd.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gwylio tîm pêl-droed Cymru'n ennill Cwpan y Byd; cyhoeddi'r llyfr hanes dwi wedi bod yn bwriadu ei ysgrifennu ers blynyddoedd a ffonio Yws Gwynedd (Recordiau Côsh) a Richard Jones (Fflach) i ddweud wrthyn nhw wneud yn siŵr bod 'na ddigon o gopïau o Goreuon Mei Emrys a Vanta yn y siopau… mae'r rhan fwyaf o gantorion yn gwerthu'n well ar ôl iddyn nhw farw!

Wedyn, fyswn i'n cael anferth o barti efo fy nheulu a fy ffrindiau, gyda'r gobaith y bydda'i wedi hen ymadael â'r blaned 'ma cyn i'r hangover gicio i mewn!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Mae Unforgivable Blackness: The Rise and Fall of Jack Johnson, gan Geoffrey C. Ward, yn llyfr anhygoel. Jack Johnson oedd y bocsiwr croenddu cyntaf i ennill pencampwriaeth pwysau trwm y byd (yn 1908) ac mae llyfr Ward yn trafod ei hynt a'i helyntion o, ynghyd â'r rhagfarn a'r hiliaeth afiach y buodd yn rhaid iddo fo wynebu ar hyd y ffordd.

Yn anffodus, mae nifer o'r themâu dirdynnol sy'n cael eu trafod yn y llyfr hwnnw yn dal i fod yn berthnasol iawn heddiw: dagrau'r sefyllfa ydi cyn lleied sydd wedi newid yn America ers dyddiau'r cawr o Galveston. Fe wnaeth Ken Burns addasu'r llyfr i mewn i ffilm ddogfen ac mae honno yn werth ei gwylio hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Dioddefodd Jack Johnson lawer o hiliaeth yn ystod ei yrfa bocsio yn nechrau'r ganrif ddiwethaf

Y tu hwnt i hynny, mae'n debyg mai Kaiser: The Greatest Footballer Never to Play Football, gan Rob Smyth, oedd y llyfr diwethaf i mi ei fwynhau. 'Pêl-droediwr ffug' oedd Carlos Kaiser, wnaeth lwyddo i gael gyrfa hirdymor efo rhai o glybiau mwyaf Brasil… heb chwarae'r un gêm!

Mae'n anodd credu bod rhannau o'i hanes yn wir, ond dyna sy'n ei gwneud hi'n stori mor wych!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dwi ddim yn meddwl byswn i isio bod yn unrhyw un arall, i ddeud y gwir. Dwi wedi bod yn fi ers deugain mlynedd bellach… Does 'na ddim pwynt newid rŵan.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

Madarch garlleg; Stêc a tsips a Knickerbocker glory!

Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?

Alex Humphreys

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw