Pryder yn Rhydaman ar drothwy cyhoeddiad cap prisiau ynni

  • Cyhoeddwyd
Mesurydd nwy a thrydanFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae disgwyl i'r cap ar brisiau ynni godi eto ddydd Gwener, ond yn Rhydaman mae biliau uchel y misoedd diwethaf yn creu pryderon yn barod.

Erbyn hyn mae'r gost am drydan a nwy adref wedi codi i nifer o bobl, tra bod busnesau yn gweld cynnydd sydyn wrth i gytundebau hir dymor ddod i ben.

Dydy'r cap ar brisiau ddim yn effeithio ar fusnesau, ac mae rhai yn Rhydaman yn ceisio arbed costau a chadw eu cwsmeriaid.

Dwedodd perchennog un siop yn y dref fod y cyfnod presennol yn fwy heriol na'r pandemig.

Mae siop trin gwallt cŵn, Dog House, wedi gorfod codi prisiau o £3 yn ddiweddar.

"Mae hwn yn sicr yn waeth na'r pandemig," meddai'r perchennog Donna Jones.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Donna Jones ei bod wedi colli ambell gwsmer ers gorfod codi prisiau am ei gwasanaeth

Oherwydd biliau trydan yn cynyddu tua £300 y mis, mae'r goleuadau yn cael eu diffodd yn ystod oriau dydd.

Ac wrth i brisiau yn y siop godi i helpu talu'r costau newydd, mae rhai cwsmeriaid wedi troi eu cefnau.

Dywedodd Donna Jones: "Gyda'r pandemig, pan o'n ni ar gau, roedd pobl yn aros i ni ailagor. Ac roedd pobl yn hapus i aros.

"Ond ar hyn o bryd, pan rwyt ti'n sôn faint ydy'r gost ar gyfer y ci, mae nhw'n dweud 'Na, wnâi drio rhywle arall'.

"Dwi wedi cael cwsmeriaid am flynyddoedd, ac ar ôl gorfod codi £3 ar bris popeth mae nhw wedi diflannu. Mae hwn yn sicr yn waeth na'r pandemig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa'n effeithio ar bawb, medd Ffion Lewis

Mae un o'i gweithwyr, Ffion Lewis, yn poeni am y dyfodol.

"Mae'n rhaid i ni yn y siop gael ein talu am ein gwaith, ac os nad yw'r arian yn dod mewn, mae rili yn effeithio ar bawb."

Yn ystod y tywydd poeth ddiweddar, fe wnaeth y siop brynu uned oeri'r aer. Ond fe orfododd hyn i'r staff geisio arbed arian ar ynni mewn ffyrdd eraill.

"Roedd rhaid i ni neud pethau fel diffodd y golau mas fan hyn, drwy'r dydd, jyst i neud lan am y gost."

Mae costau dŵr a thanwydd hefyd wedi cael effaith ar y busnes.

"Mae rhaid i ni ddefnyddio llawer o ddŵr yn y bath, mae heaters yn y bath hefyd. Ac mae rhaid i ni deithio o Frynaman i gyrraedd gwaith. Felly mae costau tanwydd wedi'n heffeithio ni hefyd."

'Rhaid byw gyda beth oedd gyda ni'

Yn y siop mae costau prynu siampŵ a deunydd trin gwallt i lanhau'r cŵn hefyd wedi codi.

Maen nhw dal yn weddol brysur, gyda thua'r un nifer o gwsmeriaid â'r cyfnod cyn i'r prisiau godi. Ond mae'r elw yn llai, a chostau byw'r staff wedi cynyddu yn y cyfamser.

"Mae'n rhaid i ni fyw gyda beth oedd gyda ni o'r blaen, ac ymdopi gyda'r prisiau yn mynd lan am bopeth," meddai Ffion.

I fyny'r ffordd yn nghanol Rhydaman mae siop crempog Vive le Crepe yn croesawu cwsmeriaid ffyddlon.

Yn eu plith mae Nicola Edwards, sy'n disgwyl i'w biliau godi pan mae ei chytundeb ynni adref yn dod i ben haf nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nicola Edwards eisoes wedi dechrau cymryd camau i leihau biliau rhedeg ei chartref

"Bydd angen trio ffeindio contract rhywle arall," meddai.

"Ac erbyn Gorffennaf nesaf, galle fe fod dwbl, galle fe fod tair gwaith y pris.

"Chi'n siarad am fynd o £100 i £300 y mis. Ac mae tri o ni yna [yn y tŷ] y rhan fwyaf o'r amser.

"Ni wedi dechrau troi'r teledu bant wrth y mains, ni wedi dechrau troi'r pressure lawr ar y cawod. Jyst i feddwl am y pethau bach allwn ni neud, fel bod e ddim yn codi gymaint ac y gallai fe godi."

Ansicrwydd ydy'r teimlad cyffredin wrth drafod costau byw yn Rhydaman. Ac mae perchennog Vive le Crepe, Helen Davies, yn pryderu ar ôl i fusnes dawelu'n ddiweddar.

"Galle fe fod yn waeth, ond galle fe fod lot yn well hefyd," meddai Mrs Davies.

"Mae cymaint o bethau yn y newyddion, mae pobl yn ofnus i wario arian. Ac rydyn ni wedi gweld hynny yn y mis diwethaf."

Mae'r costau cynyddol ynghlwm â rhedeg busnes yn anodd iawn i bobl sy'n gyfrifol am fusnesau bach.

Dywedodd Helen Davies: "Ges i'r bil diwethaf, a nes i feddwl, 'Sa i'n cael fy nhalu mis yma!'"

Paneli solar i dalu am eu hunain 'mewn dwy flynedd'

Tra bod rhai'n poeni am yr hyn sydd i ddod, mae un busnes ar gyrion Rhydaman wedi buddsoddi mewn cyflenwad ynni adnewyddol i geisio amddiffyn eu hunain rhag newidiadau mawr mewn prisiau.

Mae cwmni Corgi wedi bod yn cynhyrchu sanau yn y dref ers diwedd y 19eg ganrif, ac mae'r cyd-rheolwr gyfarwyddwr Chris Jones wedi buddsoddi mewn paneli solar i sicrhau cyflenwad ynni fforddiadwy i'r dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd paneli solar yn helpu'r busnes i arbed arian yn y tymor hir, medd Chris Jones o gwmni Corgi

"Flwyddyn yn ôl fe sylweddolon ni fod costau trydan yn cynyddu yn sylweddol," meddai Mr Jones.

Roedd y cwmni'n talu £26,000 y flwyddyn am ynni, ond wrth i un cytundeb ddod i ben, y pris newydd oedd £54,000.

Fe edrychodd y cwmni am ffyrdd o arbed ynni o fewn y ffatri, ond y cam sylweddol oedd prynu system o baneli solar ar gost o £75,000.

"Mae'n gost sylweddol i ddechrau, ond mae'n system fawr iawn," dywedodd Chris Jones.

"Cawsom gefnogaeth o'r cyngor lleol hefyd. Ond wrth edrych ar y ffordd mae costau yn cynyddu, fyddwn ni wedi talu'r gost yn ôl o fewn dwy flynedd. Ac wedyn fe fyddwn ni'n talu tua 60% yn llai ar gyfer ynni yn y dyfodol."

Nid yw pob busnes yn gallu manteisio ar gyfleoedd fel hyn i leihau costau ynni, ac mi fydd aelwydydd hefyd yn disgwyl biliau mawr yn y dyfodol er gwaethaf unrhyw ymdrechion i leihau defnydd ynni yn y cyfamser.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl ar draws y wlad yn rhannu pryderon tebyg i'r rhai a gafodd eu gwyntyllu yn Rhydaman

Beth yw'r cap ar brisiau ynni?

Y rheoleiddiwr ynni Ofgem sy'n gyfrifol am benderfynu lefel y cap ar brisiau ynni, bob tri mis.

Dydy'r cap ddim yn rhwystro eich bil rhag fod yn uwch na'r ffigwr hynny, ond mae'n creu pris uchafswm y gall cwmnïau ynni godi ar gwsmeriaid sydd ar dariff safonol amrywiol.

Mae Ofgem yn seilio lefel y cap ar y gost mae'r cwmnïau ynni yn ei wynebu wrth brynu trydan a nwy gan gynhyrchwyr.

Wrth i'r costau hynny gynyddu'n ddiweddar, mae Ofgem wedi codi'r cap.

Mi fydd Ofgem yn cyhoeddi ddydd Gwener 26 Awst beth fydd y cap ar gyfer prisiau ynni o 1 Hydref.

Pynciau cysylltiedig