Llofruddiaeth Clydach: Trosglwyddo dyn i ofal iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Wendy BuckneyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

"Mae ein teulu ni wedi torri, ac fe fyddwn ni'n ei cholli hi am byth," meddai teulu Wendy Buckney

Mae dyn 55 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio menyw yn Abertawe wedi cael ei drosglwyddo i ofal gwasanaethau iechyd meddwl.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Wendy Buckney, 71, mewn tŷ ar Heol Tanycoed yng Nghlydach toc ar ôl 08:20 fore Mawrth.

Cafodd y dyn 55 oed ei arestio wedi'r digwyddiad ar amheuaeth o lofruddio.

Cadarnhaodd Heddlu'r De ddydd Iau ei fod wedi cael ei drosglwyddo i ofal gwasanaethau iechyd dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Mae'n parhau ar fechnïaeth yr heddlu tra bo'u hymchwiliad yn parhau.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Ms Buckney mewn tŷ ar Heol Tanycoed yng Nghlydach toc wedi 08:20 fore Mawrth

Wrth roi teyrnged ddydd Mercher, dywedodd teulu Ms Buckney bod eu "calonnau wedi'u torri gan fod ein chwaer, modryb a'n ffrind cariadus wedi ei chymryd oddi arnom gan amgylchiadau mor drasig".

"Mae ein teulu ni wedi torri, ac fe fyddwn ni'n ei cholli hi am byth."

Mae Heddlu De Cymru hefyd yn apelio ar bobl i beidio â dyfalu a rhannu sibrydion am yr achos ar gyfryngau cymdeithasol.

Pynciau cysylltiedig