Cau maes parcio Pen-y-Pass i osgoi mwy o drafferthion
- Cyhoeddwyd
Bydd y maes parcio agosaf at gopa'r Wyddfa yn aros ar gau ar benwythnosau tan ddiwedd gwyliau'r haf.
Daw hyn yn dilyn trafferthion wedi i ymwelwyr ddychwelyd i Eryri wrth i'r cyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio.
Cafodd perchnogion cannoedd o gerbydau ddirwyon ddydd Sul diwethaf am barcio'n anghyfreithlon ar ochr y ffordd rhwng maes parcio Pen-y-Pass a Gwesty Pen-y-Gwryd.
Dan newidiadau sy'n dod i rym o'r penwythnos hwn ymlaen, bydd gyrwyr ond yn cael defnyddio'r maes parcio i ollwng a chodi teithwyr.
Bydd gwasanaeth parcio a theithio rheolaidd yn gweithredu i Ben-y-Pass o Lanberis a Nant Peris.
Dywed Cyngor Gwynedd y byddai unrhyw un sy'n anwybyddu'r rheolau newydd yn wynebu dirwy neu "hyd yn oed cludo eu cerbydau oddi yno gan yr heddlu".
Beth yw'r trefniadau newydd?
O ddydd Sadwrn, bydd gwasanaeth bws Sherpa, sy'n cysylltu prif feysydd parcio'r ardal gyda gwahanol lwybrau copa'r Wyddfa, yn rhedeg bob 15 munud rhwng 06:45 a 18:40.
Mae gofyn i gerddwyr ddefnyddio'r gwasanaeth i gael mynediad i Ben-y-Pass.
Bydd staff o Gyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri a Heddlu Gogledd Cymru ar ddyletswydd yn yr ardal dros y penwythnos i atgoffa modurwyr.
"Mae arwyddion yn cael eu gosod i rybuddio modurwyr bod cerbydau y rhai sy'n torri'r rheolau yn debyg o gael eu cludo gan yr heddlu, a bydd conau hefyd yn cael eu gosod i atal parcio ar y briffordd," meddai datganiad gan y cyngor sir.
"Ar benwythnosau, bydd y maes parcio ym Mhen-y-Pass yn safle gollwng ar gyfer bysiau a thacsis yn unig i atgyfnerthu'r neges y dylai cerddwyr barcio yn Llanberis a Nant Peris a defnyddio'r gwasanaethau bysiau Sherpa rheolaidd.
"Mae'n dilyn golygfeydd y penwythnos diwethaf lle roedd modurwyr anystyriol wedi parcio'n anghyfreithlon, gan rwystro un o'r prif ffyrdd wrth odre'r Wyddfa."
'Peryglu bywydau'
Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn y byddai'r gwasanaeth bws yn "ein helpu i reoli'r traffig ar y ffyrdd mynyddig cul ac osgoi sefyllfaoedd peryglus a welsom y penwythnos diwethaf".
"Y ffaith ydi, mae modurwyr fel y rhai a oedd wedi parcio'n anghyfreithlon ym Mhen-y-Pass yn peryglu bywydau gyrwyr eraill, beicwyr a cherddwyr ac yn achosi problemau mynediad difrifol i gerbydau'r gwasanaethau brys, gan gynnwys gwirfoddolwyr achub mynydd.
"Bydd y rhai sy'n anwybyddu'r neges drwy parcio'n anghyfreithlon ar y briffordd ar ffyrdd mynyddig Eryri yn wynebu dirwy yn y fan a'r lle neu hyd yn oed cludo eu cerbydau oddi yno gan yr heddlu."
Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, y byddai'r "mesurau brys hyn yn help i daclo'r sialens tymor-byr".
Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Neil Thomas, Heddlu Gogledd Cymru: "Mae hwn yn ardal 60mya ac roedd y parcio anghyfrifol a pheryglus a welsom y penwythnos diwethaf nid yn unig yn peryglu bywydau ond a fyddai hefyd wedi atal mynediad i gerbydau brys.
"Bydd cerbyd unrhyw un sydd wedi parcio ar y clirffordd neu yn achosi rhwystr yn cael ei symud ar draul ei hunain. Cymrwch sylw o'r rhybudd os gwelwch yn dda."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2020