Ceir wedi eu tynnu o Eryri am barcio'n 'beryglus'
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth yr heddlu drydar lluniau rhai o'r cerbydau
Fe gafodd saith o gerbydau eu tynnu o ochr y ffordd ddydd Sadwrn gyda'r heddlu'n dweud fod pobl yn dal i barcio'n "beryglus".
Roedd carafàn ymhlith y cerbydau a dynnwyd o'r A5 yn Nyffryn Ogwen.
Daeth hyn yn dilyn golygfeydd o gannoedd o gerbydau wedi eu parcio'n anghyfreithlon ym Mhen-y-Pass ger Yr Wyddfa fis diwethaf.
"Er gwaethaf ein rhybuddion mae rhai wedi parhau i barcio'n anystyriol a peryglus yn [Nyffryn] Ogwen heddiw.
"Cerddwyr wedi cwyno i swyddogion eu bod wedi gorfod cerdded yn y ffordd," meddai Heddlu Gogledd Cymru.
Bydd rhaid i berchnogion y cerbydau dan sylw dalu i'w cael nhw yn ôl.
Mae meysydd parcio Eryri wedi bod yn brysur ers i'r cyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio a chaniatàu i bobl deithio ymhellach.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn darparu gwybodaeth am lefydd yn eu meysydd parcio ar gyfer ymwelwyr.
Roedd eu swyddogion nhw, yr heddlu a swyddogion Cyngor Gwynedd ar ddyletswydd dros y penwythnos i "atgoffa gyrwyr o'u cyfrifoldebau".

Carafan yn cael ei thynnu o'r A5 ger Llyn Ogwen
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2020