Angen 'ateb brys' i drafferthion parcio Eryri

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cafodd cannoedd o yrwyr eu dirwyo am barcio ar ochr y ffordd ger Pen-y-Pass flwyddyn union yn ôl

Wrth i'r galw gynyddu am fynd i'r afael â thrafferthion traffig yn ardal Eryri, mae cynrychiolwyr gwleidyddol yng Ngwynedd yn pwyso am symud ymlaen ar frys gydag ymgynghoriad ar gynllun parcio a theithio posib.

Cafodd cannoedd o ddirwyon eu rhoi ddydd Sul i yrwyr cannoedd o gerbydau oedd wedi'u parcio'n anghyfreithlon ar ochr y ffordd rhwng Pen-y-Pass - y maes parcio agosaf at gopa'r Wyddfa - a Gwesty Pen-y-Gwryd.

Mae pryder cyffredinol y gallai'r fath barcio wneud hi'n amhosib i gerbydau eraill basio, ac y gallai roi bywydau yn y fantol petai'r gwasanaeth brys methu â mynd yno.

Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eu bod yn cynnal "trafodaethau brys i gynllunio a chytuno ar ffordd ymlaen" wedi anhrefn y penwythnos.

Yn ôl Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, mae'n bryd ystyried cyflwyno treth ymwelwyr neu godi tâl yn debyg i'r un am yrru yng nghanol Llundain.

'Syfrdanol'

Yn ôl ASau Arfon a Dwyfor Meirionydd, Hywel Williams a Liz Saville Roberts, ac Aelod Arfon o Senedd Cymru, Siân Gwenllian, roedd y golygfeydd ym Mhen-y-Pass dros y penwythnos "yn wirioneddol syfrdanol".

Dywed datganiad ar ran y tri gwleidydd Plaid Cymru'n bod angen dybryd i gael "datrysiad tymor hir a chynaliadwy i broblemau parcio mewn mannau sy'n boblogaidd gan ymwelwyr", ac na fyddai mesurau dros dro "yn ddigonol mwyach".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dros 500 o ddirwyon ei rhoi am barcio'n anghyfreithlon yn Eryri ddydd Sul

"Ni all unrhyw beth esgusodi ymddygiad y rhai adawodd eu cerbydau ar ddarn eithriadol o brysur o'r A4086 heb fawr ystyriaeth i ddiogelwch cyd-ddefnyddwyr ein ffyrdd a'n gwasanaethau brys," maen nhw'n dweud.

"Er y gallai cyfyngiadau parcio a mesurau gorfodi fod o fudd cyfyngedig, mesurau dros dro, tymor byr yn unig ydynt, a nid ydynt yn mynd yn ddigon pell i ddelio â'r pwysau tymor hir sy'n gysylltiedig â nifer cynyddol o ymwelwyr i'r ardal.

"Mae arnom angen ateb parhaol sydd â chynaliadwyedd yn ganolog iddo, ac mae hynny'n cynnwys cyflwyno'r ymgynghoriad cyfredol ar gynllun Parcio a Theithio ar fyrder, a gweithio gyda'r gymuned leol i gyflwyno mesurau dichonadwy i reoli'r galwadau cynyddol ar wasanaethau lleol.

"Rydym yn croesawu arwyddion fod trafodaethau yn mynd rhagddynt dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i edrych ar gamau i fynd i'r afael â'r broblem a byddem yn annog y trafodaethau hynny i ddigwydd cyn gynted â phosibl."

Disgrifiad,

Ymwelwyr Eryri: "Dim synnwyr cyffredin na pharch"

'Fysa rhywun wedi marw ddoe'

Mae'r Cynghorydd Kevin Morris Jones, sy'n cynrychioli Llanberis ar Gyngor Gwynedd, o blaid cynllun parcio a theithio, gan ddadlau fod y broblem parcio yn gwaethygu.

"Os 'di car yn ca'l ticad, a 'di parcio mewn lle peryg, ma' hwnna'n barod am rest o'r diwrnod," meddai wrth Post Cyntaf. "Bysa'r car yna'm yn cael ei symud.

"Os fysan ni'n ca'l injan dân neu ambiwlans yn pasio ffor' 'na ddoe, fysa rhywun wedi marw yn diwadd achos mae'n amhosib i basio."

Mae Mr Jones yn dadlau y byddai modd gosod maes parcio a theithio yn ardal hen chwarel Glyn Rhonwy ond fod peryg "colli'r cyfle" petai dim yn cael ei wneud cyn gweithredu cynlluniau eraill yno.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder fod problem parcio ar ochr y ffordd rhwng Pen-y-Pass a Gwesty Pen-y-Gwryd yn gwaethygu

Ar raglen Dros Ginio, dywedodd pennaeth amgylchedd Cyngor Gwynedd, Dafydd Williams: "Dydan ni heb weld dim byd fel hyn o'r blaen, lle mae gymaint o bobol wedi dewis parcio ar Pen-y-Pass ei hun, [tra bod] meysydd parcio Llanberis a Nant Peris efo digon o capasiti ynddyn nhw."

"Mae yna nifer o opsiyna'. Yn sicr ma' cyfathrebu'n bwysig iawn. Efallai bod pobol yn dewis parcio ar Pen-y-Pass oherwydd bod nhw'n teimlo dipyn yn nerfus o ddefnyddio'r bws o Lanberis neu o Nant Peris. Dwi'n meddwl bod ginnon ni ddipyn o waith argyhoeddi ymwelwyr bod y darpariaethau sy' ginnon ni yn eu lle yn ddiogel o ran lledaenu haint."

Pwysau ar wasanaethau lleol

Dywedodd Arfon Jones ar ei gyfrif Twitter ei fod wedi dod i'r casgliad "fod angen i Gymru godi treth dwristaidd neu ryw fath o congestion charge" i dalu am y pwysau ar awdurdodau a gwasanaethau brys lleol.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Arfon Jones 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Arfon Jones 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Roedd yna apêl hefyd gan yr RNLI i bobl beidio â pharcio tu allan i un o'u gorsafoedd yng Ngwynedd.

Dywed yr elusen fod rhywrai wedi parcio mewn llefydd ar gyfer gwirfoddolwyr bad achub Y Bermo.

Pwysleisiodd ar Twitter fod angen i'r gwirfoddolwyr allu parcio yno a chael y bad achub o'r orsaf petai argyfwng, gan rybuddio: "Rydych o bosib yn peryglu bywydau trwy barcio yma."

Ffynhonnell y llun, Geograph/ Jeremy Bolwell
Disgrifiad o’r llun,

Er yn brysur, doedd dim problemau tebyg i rai Eryri yn ardal Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Roedd meysydd parcio ar nifer o draethau Penfro'n llawn dop hefyd dros y Sul ac mae'r cyngor sir yno wedi galw ar ymwelwyr i gadw draw am y tro.

Cafodd ambell i gerbyd ddirwy am barcio'n anghyfreithlon dros nos, medd prif weithredwr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Tegryn Jones, ond mae'n credu fod sefyllfa'r ddau barc yn wahanol.

"Falle bod mwy o gyfleon gwasgar gyda ni i bobl ymweld," meddai.

Ychwanegodd fod awdurdodau'r ardal yn cydweithio er mwyn "anfon negeseuon i bobl pan fydd y sefyllfa mewn rhai ardaloedd yn hynod o brysur i'w hannog nhw i fynd i lefydd eraill"

Mae Mr Jones hefyd yn annog ymwelwyr i gynllunio'n drwyadl cyn teithio i ardaloedd poblogaidd, a chael cynllun wrth gefn hefyd i symud ymlaen o lefydd sydd eisoes yn orlawn.