Pier y Mwmbwls: Lluniau newydd yn dangos maint difrod tân
- Cyhoeddwyd

Mae'r llun yma o'r awyr yn dangos difrod sylweddol
Mae delweddau newydd yn dangos difrod sylweddol a achoswyd gan dân a rwygodd drwy gyn-glwb nos yn Abertawe.
Gwelwyd mwg yn codi o hen glwb nos Cinderella's wedi i'r tân gydio fore Mercher.
Ymdrechodd diffoddwyr tân i atal y fflamau rhag cydio ym Mhier y Mwmbwls, sy'n sefyll gerllaw.
Ond er cau y pier, mae delweddau drôn newydd yn dangos maint y dinistr.
Tân mewn bwyty ger pier Y Mwmbwls
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r adeilad wedi i'r tân gynnau am 11:10 fore Mercher, gyda saith injan dân yn ceisio rheoli'r fflamau a'r mwg trwchus.
Doedd dim adroddiadau o unrhyw anafiadau.
Ar ei anterth fe gyhoeddwyd rhybudd i drigolion gerllaw i gau ffenestri a drysau o ganlyniad i'r mwg.

Fe gydiodd y tân mewn adeilad gerllaw'r pier
Fe ddechreuodd y tân yn nhŷ bwyta Copperfish - tu ôl i adeilad yr arcêd sydd drws nesaf i'r pier.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin fod criwiau'n parhau yno ddydd Iau er mwyn archwilio'r safle.
Mae perchnogion y pier yn credu i'r tân ddechrau yng nghyn-glwb nos Cinderella.

Yr olygfa o'r awyr ddydd Iau
Dywedodd Fred a Bert Bollomeu eu bod nhw fel teulu wedi eu "dinistrio" a'u bod yn "hollol dorcalonnus".
Ychwanegon nhw mai'r gred oedd ei fod wedi dechrau yn yr hen glwb "ac wedi lledaenu ar draws y rhes o adeiladau yr ochr honno".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2022
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2018