Mam bachgen fu farw am i safle beic modur ailagor
- Cyhoeddwyd
Mae mam bachgen 13 oed fu farw ar ôl syrthio o feic modur ar drac ym Mlaenau Gwent wedi galw am ailagor y safle.
Fe wnaeth Cory David Keith Hewer ddisgyn oddi ar feic modur motocross ar dir fferm ger pentref Cwm ym mis Gorffennaf 2020.
Dyma oedd y tro cyntaf iddo ddychwelyd i'r safle ers y pandemig.
Clywodd y cwest i'w farwolaeth ei fod wedi dioddef anaf difrifol i'w ymennydd nad oedd modd ei oroesi.
Fe ddywedodd ei fam Vicky Walker wrth y cwest nad oedd hi am i'r trac ger Glyn Ebwy gael ei gau.
Daeth y crwner i'r casgliad y bu farw Cory yn sgil damwain wedi iddo ddisgyn o'i feic modur.
Mewn datganiad, fe ddywedodd Mrs Walker bod ei mab yn "fachgen go iawn" oedd yn caru "rygbi, reslo a beicio".
"Motocross oedd ei fywyd," meddai.
'Gormod o feiciau yno'
Fe ddywedodd un llygad dyst nad oedd llawer o drefn ar y safle ar 19 Gorffennaf, y diwrnod ddisgynnodd Cory o'i feic modur.
"Byswn i ddim yn synnu petai dros 1,000 o bobl yno'r diwrnod hwnnw," meddai Robert Hughes.
Clywodd y cwest fod y digwyddiad yn adnabyddus yn y gymuned motocross, ond fe ddywedodd swyddogion iechyd amgylcheddol nad oedd y cyngor yn ymwybodol ohono.
Aeth Cory i'r safle gyda'i lys-dad, Anthony West, a ddywedodd wrth y cwest: "Roedd yna ormod o feiciau yno'r diwrnod hwnnw... dywedais i wrtho [Cory] i fod yn ofalus."
Fe glywodd Mr West bod Cory wedi disgyn oddi ar ei feic tua 15:00.
"Ro'n i'n gallu gweld yr anaf a'r gwaed yn dod allan o gefn ei ben," meddai.
Cafodd ei gludo gyda swyddog heddlu i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ble bu farw ar ddydd Mawrth 21 Gorffennaf.
Fe wnaeth y cyngor osod hysbysiad gwahardd ar y safle, gan atal digwyddiadau motocross pellach am eu bod yn poeni am ddiffyg stiwardiaid.
Clywodd y cwest bod y cyngor wedi methu a siarad gyda pherchennog y tir er gwaethaf sawl ymgais i wneud hynny.
Ond fe ddywedodd Mrs Walker ei bod hi am weld y safle'n ailagor mewn modd diogel, er mwyn i feicwyr gael rhywle diogel i ymarfer.
Roedd gan Cory "pob math o feic" a byddai ond yn beicio ar drac, meddai.
Ychwanegodd: "Mae beicio yn gymuned ac roedd Cory'n ei garu."
Dywedodd Crwner Cynorthwyol Gwent, Sarah Le Fevre, y bu farw Cory o ganlyniad i ddamwain.
Fe wnaeth y bachgen ddisgyn o'i feic modur ar safle a oedd yn "cael ei ddefnyddio'n aml ac yn brin o oruchwyliaeth," meddai.
Ychwanegodd y byddai hi'n hoffi gweld y safle'n cael ei ailagor mewn modd diogel.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2020