Anhrefn Mayhill: Dyn, 25, yn ddieuog o derfysg
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei ganfod yn ddieuog o gymryd rhan yn yr anhrefn yn ardal Mayhill yn Abertawe fis Mai y llynedd.
Daeth rheithgor i'r penderfyniad yn dilyn achos Kye Dennis, 25 o Fforestfach, yn Llys y Goron Abertawe.
Aeth Mr Dennis â char Vauxhall Astra du gwerth £250 i Abertawe oriau cyn iddo gael ei ddefnyddio yn yr anhrefn.
Ond fe wadodd cyhuddiad o derfysg, gan alw'r anhrefn yn "afiach".
Cafodd y car ei roi ar dân a'i wthio lawr Ffordd Waun-wen.
Fe wnaeth Mr Dennis, a oedd yn rhedeg busnes casglu sgrap, gasglu'r car yng Nghaerfyrddin a'i gymryd i Abertawe, ond doedd dim syniad ganddo beth fyddai'n digwydd iddo.
Cafodd yr anhrefn ei sbarduno gan farwolaeth sydyn Ethan Powell, 19.
Dywedodd Mr Dennis ei fod ond yno i "dalu teyrnged" i Mr Powell mewn gwylnos wnaeth droi'n dreisgar.
Cafodd ei arestio fis yn ddiweddarach, gan ddweud wrth yr heddlu: "Roeddwn i yno ond gwnes i ddim byd. Pan aeth pethau'n wael fe wnes i adael. Roedd hi'n afiach."
Mae 27 o bobl rhwng 15-44 oed wedi eu cyhuddo o droseddau mewn cysylltiad â'r anhrefn, ac mae 26 wedi pledio'n euog.
Wrth amddiffyn Mr Dennis, fe ddywedodd Giles Hayes nad oedd fideos o'r anhrefn yn ei ddangos yn ymddwyn yn dreisgar.
Cafodd Mr Powell ei ganfod yn anymwybodol yng nghartref ei nain yn Abertawe ar 18 Mai 2021, a bu farw ychydig yn ddiweddarach yn yr ysbyty.
Fe wnaeth cwest i'w farwolaeth ddarganfod iddo farw o "orddos damweiniol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2022
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021