'Ofn mentro' a diffyg cefnogaeth i bobl fusnes ifanc

  • Cyhoeddwyd
Pan oedd Tomos Owen yn chwilio am fenthyciad gan y llywodraeth, roedd y llog yn hyd at 14%
Disgrifiad o’r llun,

Pan oedd Tomos Owen yn chwilio am fenthyciad gan y llywodraeth, roedd y llog yn hyd at 14%

Mae 'na "ofn mentro" a diffyg cefnogaeth i bobl ifanc gamu i fyd busnes, yn ôl entrepreneur ifanc sydd wedi defnyddio grant £1,000 i gychwyn cwmni.

Tra'n gweithio'n America daeth poblogrwydd diodydd smwddis a bariau smwddis yn amlwg i Tomos Owen, 25, o Gaernarfon.

Yn ystod y cyfnod clo yn 2020 dechreuodd edrych ar y farchnad a phenderfynodd sefydlu cwmni smwddis Swig.

Nawr mae arbenigwr yn dweud bod angen mwy o gefnogaeth a chymorth i bobl ifanc sefydlu busnesau newydd.

Fe gafodd Tomos gefnogaeth gan Fenter Môn drwy gynllun Llwyddo'n Lleol 2050. Derbyniodd £1,000 ac hyfforddiant am 10 wythnos i ddatblygu ei syniad.

Cychwynnodd drwy gludo'r diodydd i gwsmeriaid mewn car, yna yn 2021 fe brynodd fan er mwyn ehangu'r busnes.

"Ro'n ni'n gorfod prynu fan rhywsut," meddai.

"Ar ôl edrych ar bosibiliadau am grants - sbïo ar gael benthyciad drwy'r llywodraeth - roedd i fyny at 14% interest rate - o'dd hyn yn amhosib i fi," meddai.

Trodd Tomos at y banc er mwyn cael benthyciadau, ac ers Ebrill eleni mae'n canolbwyntio ar y gwaith o rhedeg Swig yn llawn amser - ac mae ganddo gynlluniau i ehangu.

"Yn Nghymru yn enwedig ma' rhyw ofn mentro, dydy o ddim yn cael ei annog yn aml," ychwanegodd.

Er mwyn gwneud y gorau o gyfleodd wedi'r pandemig mae angen mwy o gymorth ar fyfyrwyr a graddedigion sy'n dechrau busnesau, yn ôl academydd blaenllaw.

Mae'r Athro Dylan Jones-Evans yn dweud bod nifer cynyddol o bobl ifanc am weithio iddyn nhw eu hunain, ac mae angen cefnogaeth arnyn nhw i wneud hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae grantiau o symiau fel £15,000 yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr, meddai'r Athro Dylan Jones-Evans

Mae cynnig arweiniad, cymorth a mentora yn hanfodol, ac un o'r heriau mwyaf y mae entrepreneuriaid ifanc yn eu hwynebu yw sicrhau cyllid, meddai.

Ychwanegodd bod symiau bach o tua £15,000 yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol.

"Does dim track record gan bobl ifanc o godi arian, yn arbennig ar ôl bod mewn prifysgolion, ma' nhw mewn dyled yn barod," meddai.

"Wrth i ni ddod allan o Covid mae cymaint o gyfleoedd, y peth pwysig nawr yw i brifysgolion werthfawrogi hynny a darparu'r gefnogaeth angenrheidiol i wneud i hyn ddigwydd," ychwanegodd.

Dechrau cwmni gyda £100

Dechreuodd Elinor Davies-Farn o Aberystwyth ei busnes cynnyrch gwallt, Olew, ym mis Mai 2018.

Bellach yn byw yn Dubai ond yn gwerthu ei chynnyrch yn fyd eang, dechreuodd Olew gyda £100 o'i harian ei hun.

Disgrifiad o’r llun,

"Doedd dim lot o help o gwbl" wrth i Elinor Davies-Farn geisio dechrau busnes

Dywedodd na wnaeth gais am grant ar y pryd gan ei fod yn broses mor fiwrocrataidd.

Ychwanegodd y byddai wedi bod wrth ei bodd yn cael y gefnogaeth y mae Dylan Jones-Evans yn galw amdani.

"I ddechrau ro' ni ddim yn gwybod ble i ddechrau, achos rodd pawb yn dweud bod grant i hwn, neu ma help fan hyn…

"Ond ar ôl mynd ar wefan y llywodraeth o'n i ddim yn gwybod ble i ddechrau a phwy i gystylltu â… doedd dim lot o help o gwbl."

Astudiodd gysylltiadau cyhoeddus a marchnata yn y brifysgol ac roedd ganddi swydd gyda chwmni BMW cyn dilyn ei breuddwydion.

Roedd hi eisoes yn gwneud ei chynnyrch gwallt ei hun ac yn ei ddosbarthu am ddim i'w ffrindiau.

Ar ôl ennill gwobr fusnes y llynedd, mae'n gobeithio bydd trosiant ei chwmni gwerth tua £5m o fewn pum mlynedd.

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething yn dweud bod annog pobl ifanc i ddechrau busnesau yn "hanfodol wrth ail-gynllunio ein heconomi wedi Covid".

Fis Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn clustnodi £5m i "feithrin diwylliant newydd o fentergarwch ymhlith pobl ifanc yng Nghymru".

Bydd y cymorth yn cynnwys grant o £2,000 i bobl ifanc gychwyn busnes, cyngor un-i-un a chynllun mentora.

Dywedodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Hefcw) bod mentergarwch ymhlith bobl ifanc yn "gryfder mawr" i Gymru.

Mae Hefcw'n rhedeg Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru sy'n darparu £15m y flwyddyn i gefnogi prifysgolion yma.

Dywedodd Prifysgolion Cymru, sy'n cynrychioli'r naw prifysgol, "gallwn fod yn falch...o gael y gyfran uchaf o fusnesau newydd i raddedigion y pen yn y DU".

Pynciau cysylltiedig