Gareth Thomas: 'Rhywun wedi poeri arnaf dros honiadau HIV'

  • Cyhoeddwyd
Gareth ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Datgelodd Gareth Thomas yn gyhoeddus ei fod yn byw gyda HIV yn 2019

Mae Gareth Thomas, cyn-gapten tîm rygbi Cymru, wedi dweud ei fod wedi wynebu camdriniaeth ar ôl honiadau iddo guddio ei statws HIV oddi wrth ei gyn-bartner.

Mae Ian Baum wedi mynd i'r Uchel Lys i geisio hawlio iawndal gwerth £150,000 ganddo.

Mae'n honni i Mr Thomas guddio'r ffaith fod ganddo HIV, a "methu â chymryd gofal rhesymol" i sicrhau nad oedd yn ei basio ymlaen.

Ar ei gyfrif Twitter, mae Mr Thomas yn tanlinellu eto y bydd yn brwydro'r honiadau gan ddweud fod yr achos sifil yn ei erbyn wedi effeithio ar ei fywyd o ddydd i ddydd.

'Poeri arnaf ar y stryd'

Ers i'r honiadau ddod i'r amlwg dywedodd y cyn-chwaraewr rygbi fod pobl wedi ei wawdio yn y stryd, ei gyhuddo o ledaenu AIDS a bod rhywun hyd yn oed wedi poeri arno.

Dywedodd bod pobl wedi "dweud wrthyf am farw" a bod rhai o'r sylwadau yn waeth na hynny.

Mae tîm cyfreithiol Mr Thomas wedi cyflwyno dogfen i'r Uchel Lys yn ymateb i honiadau Ian Baum.

Ynddi, mae Mr Thomas yn dweud na chafodd HIV ei drafod gan y ddau ac nad oedd ef wedi cuddio ei statws positif yn fwriadol.

Mae Gareth Thomas yn honni na wnaeth Mr Baum erioed ofyn iddo a oedd ganddo HIV a wnaeth e erioed wadu hynny.

Ond mae cyfreithwyr Gareth Thomas yn cydnabod na wnaeth Mr Baum roi caniatâd i dderbyn y risg o drosglwyddo HIV.

'Rwy'n falch o bwy ydw i'

Er bod Mr Thomas yn gwybod bod ganddo HIV ar y pryd doedd ef, yn ôl y papurau cyfreithiol, ddim yn credu bod modd iddo ei drosglwyddo i eraill.

Mae Mr Thomas yn cyfaddef ei fod wedi tynnu labeli oddi ar ei feddyginiaeth. Fe wnaeth hynny, meddai, er mwyn atal ei deulu rhag gwybod beth oedden nhw, nid twyllo Mr Baum.

Ar wefan Twitter diolchodd Gareth Thomas am y gefnogaeth y mae ef wedi ei chael ers i'r honiadau gael eu gwneud yn gyhoeddus.

"Rwy'n falch o bwy ydw i," meddai. "Rwy' ymhell iawn o fod yn berffaith, ond rwy'n bell iawn hefyd o'r person rwy'n cael fy nghyhuddo o fod.

"Rwy'n gyfforddus yn fy sefyllfa ac mae fy amddiffyniad yn siarad cyfrolau.

"Fe fyddai'n parhau i frwydro'r honiadau yma gyda'r un angerdd ac arfer."