Matty Jones wedi ei benodi yn rheolwr tîm dan-21 Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Matty Jones, wedi cael ei enwi fel rheolwr y tîm cenedlaethol dan-21.
Mae Jones, 42, yn olynu Paul Bodin, wnaeth adael y rôl fis Gorffennaf wedi bron i dair blynedd wrth y llyw.
Roedd Jones, cyn-chwaraewr Leeds a Chaerlŷr, wedi bod yn rheolwr ar dîm dan-18 Cymru ers 2020.
Mae hefyd wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi Gemma Grainger gyda merched Cymru wrth iddyn nhw gyrraedd y gemau ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd 2023.
Fe wnaeth Jones, o Lanelli, ennill 13 cap i Gymru cyn iddo orfod ymddeol yn 2004 ag yntau ond yn 23 oed oherwydd anafiadau i'w ben-glin a'i gefn.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, fe ddychwelodd i chwarae'n lled-broffesiynol gyda'i glwb lleol, Llanelli yn Uwch Gynghrair Cymru.
Bu'n rhan o'r timau hyfforddi yn academi Abertawe am bum mlynedd cyn iddo ymuno â thimau hyfforddi Cymru.
Bydd yn parhau'n rhan o dîm hyfforddi'r merched am y tro, gyda'r gemau ail gyfle'n cael eu chwarae fis nesaf.
'Balchder ac angerdd'
"Mae'n anodd cuddio'r emosiwn sydd yn dod gyda'r newyddion oherwydd rwy'n teimlo'r balchder a'r angerdd," meddai Jones.
"Mae cynrychioli Cymru yn rhywbeth arbennig iawn ac rwyf wastad wedi bod yn falch o hynny."
Bydd y tîm dan-21 yn herio Awstria mewn gêm gyfeillgar ar 27 Medi yng ngêm gyntaf Jones wrth y llyw, gyda'r garfan hefyd wedi'i chyhoeddi fore Iau.
Y garfan dan-21
Cian Tyler, David Robson, Ed Beach, Evan Watts, Fin Stevens, Ollie Denham, Owen Bevan, Matt Baker, Owen Beck, Iestyn Hughes, Luca Hoole, Zac Ashworth, Oli Hammond, Tom Sparrow, Eli King, Oli Ewing, Charlie Savage, Ryan Howley, Jordan James, Jadan Raymond, James Lannin-Sweet, Ed Turns, Pat Jones, Josh Farrell, Josh Thomas, Joe Taylor.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2022