Y myfyriwr oedd yn 'ddylanwad drwg' ar y Tywysog Charles
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gymydog i'r Brenin Charles pan oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi sôn am yr adeg pan welodd lythyr - gafodd ei ysgrifennu gan Brif Weinidog y cyfnod - yn dweud ei fod yn ddylanwad drwg ar y Tywysog ifanc.
Roedd Geraint Evans yn byw drws nesaf i'r brenin yn Neuadd Pantycelyn pan fu'n aros yno am 10 wythnos yn 1969.
"Fe wnaeth yr awdurdodau edrych i mewn i fy nghefndir, ond ges i ddim gwybod hynny tan nes ymlaen," meddai Mr Evans, sy'n disgrifio ei hun fel cenedlaetholwr.
"30 mlynedd yn ddiweddarach 'nes i ddarganfod bod Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, George Thomas, wedi ysgrifennu llythyr at y prif weinidog Harold Wilson.
"Fe wnaeth e awgrymu y dylai Harold Wilson siarad gyda'r Frenhines am y posibiliad fod y cymydog yn cael 'gormod o ddylanwad' ar y Tywysog Charles."
Dywedodd Mr Evans ei fod wedi cael sioc o wybod am fodolaeth y llythyr.
Daeth y llythyr i wybodaeth gyhoeddus yn 1999 o dan reol '30 mlynedd' - rheol sy'n caniatáu cyhoeddi dogfennau swyddogol y llywodraeth.
"Roedd e'n anodd credu'r peth," meddai Mr Evans wrth siarad â BBC Radio 5Live.
"Fe wnaeth e [George Thomas] ysgrifennu'r llythyr yn ei law ei hun, fel nad oedd ei weision sifil yn gallu ei weld."
Bu'r Brenin Charles yn astudio yn y coleg yn y misoedd cyn ei arwisgiad yng Nghaernarfon yn 1969 - gyda'r gobaith y byddai'n dod i wybod mwy am Gymru a'r iaith Gymraeg.
Roedd y penderfyniad yn un dadleuol, gyda rhai yn croesawu'r syniad o arwisgiad, tra bod eraill yn ei weld fel symbol o ormes a choncwest Cymru.
"Roedd e'n benderfyniad beiddgar," meddai Mr Evans.
'Dim cyfle gwych i gymdeithasu'
"Dwi'n meddwl fod myfyrwyr wedi anghofio ei fod o'n royal.
"Doedd myfyrwyr ddim yn talu cymaint â hynny o sylw, ond pan fyddai'n mynd o'r neuadd breswyl i'r dref i gael ei ddarlithoedd yna fe fyddech chi'n gweld pobl yn ymgynnull y tu allan i'r coleg er mwyn ei weld.
"Doedd 'na ddim llawer o gyfle i gymdeithasu, ac roedd 'na deimlad fod cymaint o'r peth yn staged."
Dywedodd fod y Tywysog wedi dod draw i dŷ ei rieni yn Nhalybont unwaith i gael te, a hynny gydag un o'r swyddogion heddlu oedd yn ei warchod.
"Fe ddaeth i gwrdd â fy nheulu, cwrdd â fy rhieni," meddai Mr Evans.
"Un o'r rhesymau iddo fod yno oedd i gwrdd â Chymry ac i ddeall sut beth oedd hi i fyw yma.
"Fe wnaeth o gyrraedd, a daeth nifer o fy nghyd-fyfyrwyr hefyd [i'r tŷ].
"Fe ddaeth y plismon hefyd, mae'n siŵr rhag ofn i ni roi rhywbeth yn y te!
"Yn y pendraw roedd e'n achlysur hapus. Rwy'n gobeithio ei fod o'n gofiadwy hefyd iddo fe.
"Roedd e'n achlysur cofiadwy i fy rheini ac i fy nghyd-fyfyrwyr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Medi 2022
- Cyhoeddwyd15 Medi 2022
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2019