Pryder am anghydraddoldeb mewn gofal iechyd merched

  • Cyhoeddwyd
Lowri Moffett sydd yn byw gydag endometriosis
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lowri Moffett nad oedd meddygon yn ei chymryd o ddifrif pan roedd hi'n ei harddegau

"Ffrwydrodd fy ofari a dyna pryd gymron nhw fi o ddifri'."

Mae gormod o fenywod yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnyn nhw pan fyddan nhw'n codi pryderon am eu hiechyd - dyna gasgliad clymblaid arbennig sy'n edrych ar iechyd menywod.

Yn ôl Clymblaid Iechyd Menywod Cymru, mae merched yn aml yn gorfod gwthio am flynyddoedd i gael diagnosis cywir. P'un a yw'n drawiad ar y galon, strôc, awtistiaeth neu gyflwr arall, mae llawer yn dweud bod eu symptomau'n cael ei diystyru.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd cynllun iechyd menywod yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach yn y flwyddyn - gyda'r bwriad o greu cronfa ymchwil arbennig i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau.

'Y syniad oedd bod e i gyd yn fy mhen'

Dechreuodd Lowri Moffett, o Hwlffordd, Sir Benfro ddioddef poen difrifol adeg ei misglwyf pan oedd hi yn ei harddegau cynnar. Mae'n byw gydag endometriosis, cyflwr gynecolegol sy'n achosi poen difrifol a gwaedu trwm.

"Erbyn tua 14 oed, oni'n bendant yn cael poenau, poenau yn fy nghefn, yn fy mol, oni'n gwaedu'n drwm, o'n i'n llewygu," meddai.

"O'n i'n mynd i'r meddyg ac oedden nhw'n gweud, 'ti'n ifanc, ti dan straen, ti'n becso am arholiadau,' o'dd e'n fychanol iawn. Y syniad oedd bod e i gyd yn fy mhen i. Dechreues i gael panic attacks, oedd e mor wael."

Roedd Lowri yn 22 oed pan fynnodd ei ffrind alw 999 wrth iddi ddioddef pwl difrifol arall o boen.

"Cwrddes i a'r gynocolegydd a tua dwy awr yn ddiweddarach, ffrwydrodd fy ofari. Dyna'r tro cyntaf i fi glywed y gair endometriosis... dyna'r tro cyntaf gymron nhw fi o ddifri."

Hyd heddiw, mae'n dal i fod mewn poen cyson bob dydd. Mae'r creithiau meddyliol, yn ogystal â chorfforol wedi gadael eu hôl.

"Bob tro fi'n mynd i'r meddyg, fi'n becso bod fi di 'neud e i gyd fyny, bod nhw'n mynd i ddweud bod dim byd o'i le 'da fi a twlu fi mas o'r ystafell.

"Dwi'n gwastraffu fy mywyd dwi'n credu. Fi 'di gwastraffu rhan helaeth ohono fe mewn poen gyda pethau galle' fod wedi cael ei sortio.

"O'n i'n teimlo fel bod fi wedi cael fy mradychu. Teimlo bod rhaid i fi frwydro mwy.... (pe bai) pobol wedi gwrando, bydden nhw wedi gallu delio ag e falle gyda meddyginiaeth.

"Ges i lawdriniaeth fawr achos o'dd e'n argyfwng ac mae'r graith 'byti troedfedd o hyd, mae e'n enfawr. Felly... oedd e mor anodd."

Camgymryd trawiad am bwl o banig

Nid dim ond afiechydon sydd ond yn effeithio ar fenywod sy'n achosi problemau.

Yn ôl clymblaid o elusennau a grwpiau sy'n edrych ar iechyd menywod, mae angen newid y ffordd mae menywod yn cael eu trin yn y gwasanaeth iechyd.

Maen nhw wedi clywed am enghreifftiau o fenywod sy'n cael trawiad ar y galon neu strôc yn cael eu hel nôl adre, gyda meddygon yn credu mai camdreuliad neu bwl o banig sydd arnyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae angen newid y ffordd mae menywod yn cael eu trin yn y gwasanaeth iechyd,' medd Julie Richards o grŵp Triniaeth Deg i Ferched Cymru

"Mae'n broblem enfawr yng Nghymru a dros Brydain i gyd," meddai Julie Richards o grŵp Triniaeth Deg i Ferched Cymru.

"Mae symptomau salwch mewn menywod yn wahanol i rai dynion, felly er enghraifft, os ydych chi'n cael trawiad ar y galon, mae'r symptomau yn hollol wahanol.

"Mae menywod yn cael eu hanfon nôl o'r meddyg neu o'r ysbyty, maen nhw'n meddwl bod e'n indigestion neu panic attack."

Disgrifiad o’r llun,

Galw am newid y ffordd mae menywod yn cael eu trin yn y gwasanaeth iechyd

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n gweithio ar gynllun ac yn buddsoddi mewn gwaith ymchwil i fynd i'r afael â'r broblem.

"Beth sy'n bwysig yw bod ni'n edrych ar yr hyn ni eisoes yn gwneud ond drwy lens gwahanol," meddai Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru.

"Bod ni'n ystyried safbwynt menywod, bod ni yn ystyried os bod menywod, er enghraifft, yn ymateb mewn ffordd wahanol, bod nhw'n dod â symptomau gwahanol i'r adwy, sy'n wahanol i ddynion.

"Mae'n bwysig bod ni'n edrych ar sut ry'n ni'n gwneud ymchwil a sut ry'n ni'n ariannu ymchwil. Mae hwnna'n rhywbeth mi fydda' i yn ffocysu arno yn y dyfodol."

Er iddi orfod aros saith mlynedd, mae Lowri yn cyfrif ei hun yn lwcus nad yw hi wedi gorfod aros mwy cyn cael ei deiagnosis. Mae'n cymryd naw mlynedd ar gyfartaledd i gael deiagnosis endometriosis yng Nghymru, ac wyth mlynedd ar gyfartaledd drwy'r DU.

Poeni am ddyfodol merched eraill

Ond mae'n poeni am y genhedlaeth nesaf o ferched ifanc: "Mae'n dorcalonnus. Petasen i'n gorfod mynd trwyddo fe eto fel bod neb arall yn gorfod mynd trwyddo fe, bydden i yn.

"Mae nith fach 'da fi nawr, a fi jyst yn meddwl, pan fydd hi'n cael ei misglwyf, pwy fydd yn gweud wrtho ti beth sy'n iach, shwt ddylet ti gael dy drin'... a fi yn cael hunllefau am hwnna weithiau."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi datganiad ansawdd newydd yn nodi'r hyn a ddisgwylir gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru mewn perthynas â phob agwedd ar iechyd menywod.

"Rydym hefyd wedi lansio arolwg yn gofyn i fenywod am eu barn am eu hiechyd, a fydd yn helpu i lywio cynllun iechyd menywod i'w gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Rydym wedi derbyn miloedd o ymatebion hyd yn hyn.

"Rydyn ni eisiau creu Cronfa Ymchwil Merched Cymru i fynd i'r afael â chydraddoldeb rhywiol mewn iechyd."