Miloedd o bobl yn rhedeg hanner marathon Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Roedd miloedd o redwyr yn rhan o'r ras ddydd Sul
Fe ddaeth miloedd i Gaerdydd ddydd Sul i redeg hanner marathon y brifddinas.
Dywedodd y trefnwyr bod miloedd o bunnoedd wedi eu casglu i elusennau hefyd.
Yn ôl sylwebydd y ras, roedd awyrgylch arbennig wrth i'r brifddinas groesawu'r ras yn ôl i'w dyddiad gwreiddiol ym mis Hydref am y tro cyntaf ers cyn y pandemig.
Cafodd y ras ei chynnal ym mis Mawrth eleni ar ôl cael ei gohirio sawl gwaith oherwydd Covid.

Geoffrey Koech oedd enillydd ras elit y dynion gydag amser o 1:00:01, a Beatrice Cheserek oedd enillydd ras elit y menywod wedi 1:06:48

Casglwyd miloedd o bunnoedd i elusennau gan redwyr y ras
Geoffrey Koech o Kenya oedd enillydd ras elit y dynion, gyda Beatrice Cheserek sydd hefyd o Kenya yn ennill ras elit y menywod.
Mel Nicholls oedd enillydd ras gadair olwyn y menywod a Richie Powell oedd yn fuddugol yn un y dynion.
Dewi Griffiths o glwb Harriers Abertawe oedd y Cymro a'r Prydeinwr ddaeth agosaf at y brig - a hynny yn yr wythfed safle gydag amser o 1:04:15.
Daeth Natasha Cockram o Gwmbrân yn seithfed yn ras y menywod gydag amser o 1:13:12.

Cafodd y ras ei chynnal yr un pryd â marathon Llundain eleni

Dywedodd Matt Ward fod pawb yn falch o fod yn rhedeg ym mis Hydref eto ar ôl i'r ras gael ei gohirio sawl gwaith yn ystod y pandemig
Roedd Matt Ward yn sylwebu ar y ras a dywedodd fod awyrgylch arbennig yn y ddinas.
"Ma' 'na vibe 'ma yng Nghaerdydd, bob amser pan mae 'na ddigwyddiadau mawr, 'dan ni'n cael y teimlad bod Cymru i gyd tu ôl i ni," meddai.
"O'dd 'na deimlad ofnadwy o arbennig ar y llinell gychwyn ond hefyd o'dd pawb yn gwenu a dw i'n meddwl fod pawb yn hapus i fod yn ôl."
Ychwanegodd: "Hwn yw'r tro cyntaf iddo fod yma ym mis Hydref ers [y pandemig]. O'dd hi'n ffantastig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2021