Cyhoeddi enillwyr seremoni BAFTA Cymru 2022

  • Cyhoeddwyd
BAFTA CymruFfynhonnell y llun, BAFTA

Roedd yna gryn gyffro yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd nos Sul a hynny wrth i seremoni Gwobrau BAFTA Cymru gael ei chynnal, wyneb yn wyneb, unwaith eto wedi'r pandemig.

Mae'r digwyddiad yn gwobrwyo goreuon y byd ffilm a theledu ac ymhlith y cynyrchiadau a gafodd y mwyaf o enwebiadau eleni roedd Dream Horse, In My Skin, CODA, Grav, Mincemeat (On the Edge) a The Pact.

Chris Roberts a enillodd y wobr am y cyflwynydd gorau a Bwyd Epic Chrisenillodd y wobr am y rhaglen adloniant orau.

Ysgol Ni: Y Moelwyna enillodd y wobr am y gyfres ffeithiol orau ac enillwyd y wobr am y rhaglen ddogfen orau gan Y Parchedig Emyr Ddrwg.

Grav a enillodd y wobr am y ffilm nodwedd orau a Hei Hanes! oedd enillydd y rhaglen blant orau.

Yn ystod y noson roedd yna egwyl i gofio am y rhai o fyd y ffilm a theledu sydd wedi ein gadael yn ystod y flwyddyn. Yn eu plith - Eddie Butler, Dyfrig Topper Evans, Dai Jones, Mei Jones a John Stuart Roberts.

Ffynhonnell y llun, BAFTA/Maxine Howells
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Alex Jones ei bod yn braf bod nôl mewn seremoni fyw yn Neuadd Dewi Sant eleni

Cyflwynydd y noson yw Alex Jones a meddai: 'Nid yn unig y mae'n fraint ac anrhydedd i fod yn cyflwyno Gwobrau BAFTA Cymru unwaith eto, ond mae'r ffaith ei bod yn ôl fel seremoni fyw eleni mor gyffrous.

"Does dim awyrgylch gwell i gydnabod a dathlu'r holl raglenni teledu a ffilmiau rhyfeddol sy'n cael eu cynhyrchu yng Nghymru."

Enillwyr ac enwebiadau 2022:

CYFLWYNYDD

Enillydd: CHRIS ROBERTS in Bwyd Byd Epic Chris - Cwmni Da / S4C

Disgrifiad,

Dwy wobr i Chris Roberts y 'cyflwynydd gorau' yn BAFTA Cymru

Hefyd wedi eu henwebu:

ELIN FFLUR in Sgwrs Dan y Lloer - Tinopolis / S4C

JASON MOHAMMAD in DRYCH: Trelai, y Terfysg a Jason Mohammad - Hall of Mirrors / S4C

SEAN FLETCHER in Wonders of the Border - ITV Cymru Wales

CYFRES FFEITHIOL

Enillydd: YSGOL NI: Y MOELWYN - Darlun / S4C

Hefyd wedi eu henwebu:

GWESTY ADUNIAD - Darlun / S4C

THE GREAT BIG TINY DESIGN CHALLENGE - Yeti Television / More4

MURDER IN THE VALLEYS - Five Mile Films / Sky Crime

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Ni: Y Moelwyn sydd wedi ennill y categori Cyfres Ffeithiol

GOLYGU FFEITHIOL

Enillydd: DAN YOUNG Slammed - BBC Wales / BBC One Wales

Hefyd wedi eu henwebu:

ALUN EDWARDS John Owen: Cadw Cyfrinach - Wildflame Productions / S4C

IAN DURHAM Snowdonia: A Year on the Farm - Frank Films / BBC One Wales

JOHN GILLANDERS Huw Edwards yn 60 - Rondo Media / S4C

GOLYGU FFUGLEN

Enillydd: ELEN PIERCE LEWIS Landscapers - SISTER in association with South of the River Pictures / Sky Atlantic

Hefyd wedi eu henwebu:

TIM HODGES Life and Death in the Warehouse - BBC Studios / BBC Three

URIEN DEINIOL Enid a Lucy - Boom Cymru / S4C

SAIN

Enillydd: SOUND TEAM Dream Horse - Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

Hefyd wedi ei henwebu:

JOHN MARKHAM Cyngerdd Tangnefedd Llangollen - Rondo Media / S4C

SOUND TEAM Wonders of the Celtic Deep - One Tribe TV / BBC One Wales

AWDUR

Enillydd: KAYLEIGH LLEWELLYN In My Skin - Expectation Entertainment / BBC One Wales

Hefyd wedi eu henwebu:

OWEN THOMAS Grav - Regan Development / Tarian Cyf / S4C

PETE MCTIGHE The Pact - Little Door Productions / BBC One

SIÂN HEDER CODA - Apple TV+ / Vendrome Pictures / Pathe Films

Ffynhonnell y llun, BAFTA Cymru

FFILM NODWEDD/DELEDU

Enillydd: GRAV - Regan Development / Tarian Cyf / S4C

Hefyd wedi eu henwebu:

DREAM HORSE - Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

THE TRICK - Vox Pictures / BBC / BBC One

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan BAFTA Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan BAFTA Cymru

GWOBR TORRI DRWODD

Enillydd: CHLOE FAIRWEATHER Dying to Divorce - Dying to Divorce Ltd / Aldeles AS / Dartmouth Films

Hefyd wedi eu henwebu:

BEN REED for Portrait Kaye - Plainsong / Agile Films

LEMARL FRECKLETON Curadur - Orchard / S4C

SAMANTHA O'ROURKE Mincemeat (On the Edge) - Blacklight Television / Channel 4

Ffynhonnell y llun, BAFTA Cymru

FFILM FER

Enillydd: AFFAIRS OF THE ART - Beryl Productions International / National Film Board of Canada / BBC Two Wales

Hefyd wedi eu henwebu:

FACE DOWN IN THE BACK OF A CAR - Scymru

JACKDAW - Broadside Films

LOUDER IS NOT ALWAYS CLEARER - On Par Productions

RHAGLEN ADLONIANT

Enillydd: BWYD BYD EPIC CHRIS - Cwmni Da / S4C

Hefyd wedi eu henwebu:

6 GWLAD SHANE AC IEUAN - Orchard / S4C

AM DRO! - Cardiff Productions / S4C

IAITH AR DAITH - Boom Cymru / S4C

FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN

Enillydd: WILL BALDY The Pact - Little Door Productions / BBC One

Hefyd wedi eu henwebu:

CHAS BAIN A Discovery of Witches - Bad Wolf / Sky Max

ERIK ALEXANDER WILSON Dream Horse - Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

RYAN EDDLESTON Grav - Regan Development / Tarian Cyf / S4C

FFOTOGRAFFIAETH FFEITHIOL

Enillydd: TIM DAVIES The Long Walk Home - Rediscover Media / Telesgop / BBC One

Hefyd wedi eu henwebu:

MEI WILLIAMS Peter Moore: Dyn Mewn Du - Kailash Films / S4C

TUDOR EVANS Dark Land - The Hunt for Wales' Worst Serial Killer - Monster Films / BBC One Wales

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Maxine Hughes o America yn un o gyflwynwyr y rhaglen Covid, y Jab a Ni

NEWYDDION A MATERION CYFOES

Enillydd: CORONAVIRUS: A CARE HOME'S STORY - ITV Cymru Wales

Hefyd wedi eu henwebu:

A KILLING IN TIGER BAY - BBC Wales / BBC Two

COVID, Y JAB A NI - Cloud Break Pictures / S4C

NO BODY RECOVERED - ITV Cymru Wales / ITV

Ffynhonnell y llun, BAFTA Cymru

RHAGLEN BLANT

Enillydd: HEI HANES! - Cwmni Da / S4C

Hefyd wedi eu henwebu:

BEX - Ceidiog / S4C

DEIAN A LOLI - Cwmni Da / S4C

EFACIWIS - Wildflame Productions / S4C

COLUR A GWALLT

Enillydd: CLAIRE WILLIAMS The Pursuit of Love - Open Book Productions / Moonage Pictures / BBC One

Hefyd wedi eu henwebu:

JACQUETTA LEVON - Save The Cinema - Future Artists Entertainment Ltd / Sky Cinema

ROSEANN SAMUEL Dream Horse - Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elin Fflur ymhlith y rhai oedd wedi cael eu henwebu yn y categori cyflwynydd

DRAMA DELEDU

Enillydd: IN MY SKIN - Expectation Entertainment / BBC One Wales

Hefyd wedi eu henwebu:

LIFE AND DEATH IN THE WAREHOUSE - BBC Studios / BBC Three

MINCEMEAT (ON THE EDGE) - Blacklight Television / Channel 4

YR AMGUEDDFA - Boom Cymru / S4C

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ddrama Yr Amgueddfa ymhlith y dramâu teledu a gafodd eu henwebu

RHAGLEN DDOGFEN SENGL

Enillydd: Y PARCHEDIG EMYR DDRWG - Docshed / S4C

Hefyd wedi eu henwebu:

JOHN OWEN: CADW CYFRINACH - Wildflame Productions / S4C

MOTHERS, MISSILES AND THE AMERICAN PRESIDENT - ie ie Productions / BBC One Wales

MYLEENE KLASS: MISCARRIAGE & ME - Hall of Mirrors

Ffynhonnell y llun, BAFTA Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Annabel Jones yw enillydd Gwobr Siân Phillips 2022

Gwobr Siân Phillips - Annabel Jones - mae wedi bod yn gysylltiedig â chynnwys Dead Set (2008), fersiynau amrywiol o Wipe a Cunk Charlie Brooker (2009-), A Touch of Cloth (2012-2014) a Death To 2020 (2020 a 2021) ac mae'n adnabyddus am greu teledu mentrus a difyr.

ACTORES

Enillydd: EMILIA JONES CODA - Apple TV+ / Vendrome Pictures / Pathe Films

Hefyd wedi eu henwebu:

AIMEE LOU WOOD Mincemeat (On the Edge) - Blacklight Television / Channel 4

GABRIELLE CREEVY In My Skin - Expectation Entertainment / BBC One Wales

JOANNA SCANLAN After Love - The Bureau / BFI

CYFARWYDDWR: FFUGLEN

Enillydd: MOLLY MANNERS In My Skin - Expectation Entertainment / BBC One Wales

Hefyd wedi eu henwebu:

GARETH BRYN Line of Duty - World Productions / BBC One

MARC EVANS Manhunt The Night Stalker - Buffalo Pictures / ITV

SIÂN HEDER CODA - Apple TV+ / Vendrome Pictures / Pathe Films

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL

Enillydd: DYLAN WILLIAMS Y Côr/Men Who Sing - Men Who Sing Ltd / Backflip Media / Cwmni Da / Dartmouth Films

Hefyd wedi eu henwebu:

CHLOE FAIRWEATHER Dying to Divorce - Dying to Divorce Ltd / Aldeles AS / Dartmouth Films

ERIC HAYNES A Killing In Tiger Bay - BBC Wales / BBC Two

TOM BARROW Murder in the Valleys - Five Mile Films / Sky Crime

ACTOR

Enillydd: OWEN TEALE Dream Horse - Film 4 Productions / Topic Studios / Ffilm Cymru Wales / Ingenious Media / Raw TV / Popara Films / Warner Bros.

Hefyd wedi eu henwebu:

ANEURIN BARNARD Time - BBC Studios / BBC One

EDDIE MARSAN The Pact - Little Door Productions / BBC OneSIÔN DANIEL YOUNG Deceit - Story Films / Channel 4

Pynciau cysylltiedig