Ail gartrefi: 'Ffenomenon y cynnydd mewn prisiau tai'
- Cyhoeddwyd
Mae ail gartrefi yn "fater sy'n cael ei ystyried hyd yn oed yn fwy craff yn sgil y cynnydd presennol mewn prisiau tai yng Nghymru," medd Llywodraeth Cymru.
"Ers dechrau pandemig Covid, mae Llywodraeth Cymru ac eraill wedi ystyried y ffenomenon hon gan graffu a gweithio arni o'r newydd" meddai Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd.
Dywedodd hefyd bod y llywodraeth yn cydnabod mai y "Gymraeg yw iaith y gymuned yn llawer o'r mannau problemus o ran ail gartrefi".
Mae mynd i'r afael â'r cynnydd mewn ail gartrefi yn rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
'Nifer uchaf yn ymateb'
Wrth ymddangos gerbron Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai Senedd Cymru ddydd Mercher, ychwanegodd Julie James bod y llywodraeth wedi cael "y nifer uchaf erioed o bobl yn ymateb i ymgynghoriadau cynllunio".
Dywedodd bod dros 1,650 o ymatebion i'r ymgynghoriad cynllunio yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd - ymgynghoriad cenedlaethol ar newidiadau a allai, pe byddent yn cael eu gweithredu'n lleol, roi mwy o reolaeth yn nwylo awdurdodau cynllunio lleol.
Gallai hyn arwain at awdurdodau lleol yn gofyn caniatâd cynllunio i newid defnydd i "Gartref Eilaidd neu Lety Gwyliau Tymor Byr pan fo'n cynnwys 'newid defnydd sylweddol' i'r defnydd presennol o dir".
'Trafferth yn y farchnad fyd-eang'
O ran yr ymrwymiad i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol dywedodd y gweinidog eu bod "ar y trywydd i gyrraedd y nod" ond "yn cael trafferth yn y farchnad fyd-eang" gyda phroblemau cyflenwad, gan nodi cyflenwad pren fel enghraifft, a chwyddiant prisiau cyffredinol.
Bydd y pwyllgor yn paratoi adroddiad yn dilyn ei ymchwiliad i ail gartrefi, gydag argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, "mae'r farchnad dai yn methu - dyna rydym wedi'i glywed".
Rhybuddiodd y gweinidog bod "heriau cymhleth", a bod angen "osgoi canlyniadau anfwriadol".
O ran cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni y gallai rhai perchnogion ail gartrefi yng Nghymru dalu pedair gwaith eu lefel bresennol o'r dreth gyngor o'r flwyddyn nesaf, dywedodd y gweinidog: "Nid wyf yn rhagweld y bydd hynny'n digwydd mewn llawer o leoedd yng Nghymru, ond rydym am roi'r ysgogiadau i awdurdodau lleol ddatrys y broblem yn eu hardal."
Ar hyn o bryd gall cynghorau godi premiwm ail gartref o hyd at 100% ond bydd hynny'n cynyddu i 300% o fis Ebrill 2023.
Mae cynghorau Gwynedd, Abertawe a Sir Benfro yn defnyddio'r ardoll uchaf ar hyn o bryd o 100% mewn perthynas ag ail gartrefi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd29 Mai 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021