Gyrrwr 'byth am faddau i'w hun' wedi i seiclwr farw
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr fan wnaeth achosi marwolaeth plismones oedd ar ei beic mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin wedi dweud wrth lys na fydd "fyth yn anghofio nac yn maddau" i'w hun.
Cafodd Sarjant Lynwen Thomas, 37, ei tharo gan Simon Draper, 42, yn Chwefror 2021 ar ffordd yr A40 ger Bancyfelin.
Mae Simon Draper wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ar ôl i ymchwiliad yr heddlu o'i ffôn symudol ddangos fod apiau fel Facebook, Whatsapp ac Instagram wedi cael eu defnyddio yn y munudau cyn i'r fan daro beic Ms Thomas.
Mae Simon Draper yn gwadu'r cyhuddiad am achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ond yn cyfaddef gyrru'n ddiofal.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Simon Draper wedi mynd â'i ddwy ferch i'w cartref cyn y ddamwain, ac roedd yn teithio i gyfeiriad Caerfyrddin gyda'i fab 13 mis oed yn sedd gefn y fan.
Mae Mr Draper yn dweud iddo geisio cadw ei fab yn hapus drwy roi ei ffôn symudol iddo, gan fod y bachgen yn "hoff o'r goleuadau" ac eu bod, fel rheol, yn ei dawelu.
Roedd y bachgen, meddai, yn ymddwyn yn "gwerylgar".
'Digwydd mewn fflach'
Mi weldodd y llys fideo o Simon Draper yn portreadu sut y pasiodd ei ffôn symudol i'r cefn at ei fab gyda'r weiren USB yn dal yn sownd.
Dywedodd Simon Draper fod ganddo un law ar yr olwyn yrru tra'n pasio'r ffôn i'w fab.
Ychwanegodd Mr Draper ei fod wedyn wedi pasio dymi i'w fab ar ôl sylwi nad oedd y ffôn wedi ei ddistewi.
Clywodd y Llys i Mr Draper droi rownd am "ennyd" a dyna pryd y digwyddodd y gwrthdrawiad.
Yn ôl Simon Draper, "fe ddigwyddodd y cyfan mewn fflach".
Dywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr erlyniad, Carina Hughes, fod Simon Draper wedi rhoi dau ddatganiad i'r heddlu ond nad oedd yr un ohonyn nhw yn cynnwys sôn am basio dymi i'r plentyn.
Mewn ymateb i gwestiwn am pam na soniodd am y dymi tan yr achos llys, dywedodd Simon Draper ei fod "mewn sioc".
"Y rheswm i chi beidio gwneud yw am ei fod yn gelwydd ac eich bod chi ar y ffôn," meddai Carina Hughes.
"Na," meddai Simon Draper.
Gan ddisgrifio'r gwrthdrawiad, fe ychwanegodd: "Welais i mohoni. Pe bawn i wedi ei gweld hi mi fyddwn i wedi symud o'r ffordd i'w hosgoi.
"Wna' i fyth anghofio na maddau i fi fy hun. Nid dim ond fi sydd wedi dioddef, mae fy mhlant wedi dioddef. Mae pawb wedi dioddef."
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2021