Porth Tywyn: Cyhuddo dyn, 39, o ddynladdiad cyn-athro

  • Cyhoeddwyd
Peter OrmerodFfynhonnell y llun, Llun teulu / Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Peter Ormerod o anafiadau difrifol yn dilyn ymosodiad honedig

Mae dyn 39 oed o Gaerdydd wedi ymddangos o flaen llys ar gyhuddiad o ddynladdiad cyn-athro ym Mhorth Tywyn, Sir Gâr ym mis Medi.

Bu farw Peter Ormerod, 75, cyn-athro Mathemateg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, ar ôl dioddef anafiadau difrifol ar ôl ymosodiad honedig.

Fe wnaeth Hywel David Williams o Gaerdydd ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl i'r achos llawn yn ei erbyn ddechrau ar 10 Gorffennaf 2023.

Bu farw Mr Ormerod yn yr ysbyty rai dyddiau ar ôl digwyddiad ar Heol yr Orsaf, Porth Tywyn ar nos Sadwrn 24 Medi.

Yn wreiddiol roedd Mr Williams wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol.