Cwpan y Byd 2022: Dim angen profion PCR ar gefnogwyr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Bale yn DohaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cwpan y Byd yn rhoi llwyfan rhyngwladol i Gymru

Ni fydd angen dangos prawf Covid-19 negyddol cyn cael mynediad i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd fis nesaf.

Fis Medi cyhoeddwyd y byddai angen talu am brawf PCR neu lif unffordd - a chael prawf negyddol - er mwyn cael mynediad i'r wlad.

Ond ddydd Mercher daeth cyhoeddiad, dolen allanol gan Weinyddiaeth Iechyd Cyhoeddus Qatar na fydd hyn bellach yn orfodol o 1 Tachwedd.

Bydd hyn yn effeithio ar y rheiny fydd yn cyrraedd y wlad ar gyfer y gystadleuaeth sy'n cychwyn ar 20 Tachwedd.

Gwnaed y tro pedol gan fod achosion Covid-19 "yn parhau i ostwng", gyda'r sefydliad iechyd yn cyfeirio hefyd at raglen frechu'r wlad.

'Gwneud bywyd yn haws'

Gydag anghenraid i gymryd y prawf PCR ddim mwy na 48 awr cyn hedfan i Qatar, neu brawf llif unffordd o fewn 24 awr cyn cyrraedd y wlad, byddai'r mesurau wedi golygu mwy o gost i gefnogwyr Cymru.

Ond mae'r awdurdodau yn Qatar yn parhau i ofyn i gefnogwyr gadw at y rheolau lleol a chymryd camau i leihau'r posibilrwydd o'r haint ledaenu, gan gynnwys sicrhau eu bod wedi derbyn eu brechlynnau o flaen llaw.

Un sy'n bwriadu hedfan allan i ddilyn Cymru yn Qatar ydy Gerwyn Jones o Gaerwen, Ynys Môn.

Gerwyn JonesFfynhonnell y llun, Gerwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gerwyn Jones wedi dilyn Cymru ar draws Ewrop - a hyd yn oed i China

Ond gan ei fod yn aros yn Dubai a hedfan i Doha ar gyfer gemau Cymru, dywedodd ei fod eisoes wedi talu £75 am brofion sydd bellach ddim yn angenrheidiol.

Er hynny mae'n credu y bydd gollwng yr angen am brofion Covid-19 yn gwneud bywyd yn haws i'r cefnogwyr sy'n teithio allan.

"Yn amlwg dwi'm yn hapus o gwbl mod i wedi gorfod talu, rŵan fod hi'n amlwg fydd ddim eu hangen nhw wedi'r cwbl," meddai.

"Nes i benderfynu archebu'r profion rhag ofn bydda 'na fwy o streics post.

"Ond ar y llaw arall dwi'n hapus fod y rheolau wedi newid gan fod o'n gwneud bywyd gymaint haws a llai o stress i bawb yn y pen draw."

Bydd Cymru yn herio'r Unol Daleithiau, Iran a Lloegr yn ystod y gemau grŵp yn Stadiwm Ahmed bin Ali yn Doha rhwng 21-29 Tachwedd.

Cymru Fyw
Cymru Fyw