Cyffro ond pryder ymysg cefnogwyr cyn Cwpan y Byd Qatar
- Cyhoeddwyd
Union fis i ddydd Iau bydd seremoni agoriadol Cwpan y Byd yn cael ei chynnal, gyda Chymru yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf mewn 64 o flynyddoedd.
Ar ôl y seremoni ar ddydd Sul 20 Tachwedd, fe fydd Qatar yn herio Ecuador i agor y cystadlu ar y cae, cyn i Gymru wynebu'r Unol Daleithiau y diwrnod canlynol.
Bydd Cymru'n chwarae Iran ar ddydd Gwener 25 Tachwedd, gyda'u gêm olaf yng Ngrŵp B yn erbyn Lloegr ar 29 Tachwedd.
Dyma'r tro cyntaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd ers 1958, ac er bod y tîm wedi cystadlu ym Mhencampwriaethau Ewrop ddwywaith yn y chwe blynedd ddiwetha', mae cystadlu ar lwyfan y byd yn her ar lefel uwch.
Er gwaetha'r pellter, y gost fawr o deithio i Qatar a phryderon ynglŷn â hawliau dynol yn y wlad, mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr o Gymru fynd i Gwpan y Byd.
Mae Cymru Fyw wedi bod yn siarad gyda rhai fydd yno, ac un sydd wedi byw a gweithio yn Qatar.
Mae'r penderfyniad i gynnal Cwpan y Byd yn Qatar wedi cael ei feirniadu o sawl cyfeiriad - gan gefnogwyr, sylwebwyr a hyd yn oed gan rai o'r timau fydd yn cystadlu.
Mae 'na bryderon ynglŷn â sut mae gweithwyr o wledydd eraill wedi cael eu trin wrth adeiladu'r stadiymau, a beirniadaeth hefyd o record hawliau dynol Qatar ac agweddau yn y wlad tuag at fenywod a phobl hoyw.
"Mae'r ffaith ei fod yn Qatar braidd yn drist, ond y ffaith bod ni wedi cyrraedd o'r diwedd - yn ystod fy mywyd i - yn ffantastig. Alla i ddim aros i fynd," meddai Hywel Lovgreen, sydd wedi cefnogi Cymru ers degawdau.
Ond ychwanegodd ei fod yn adnabod cefnogwyr hoyw sydd wedi penderfynu peidio mynd i Qatar. Mae bod yn hoyw yn anghyfreithlon yno.
"Dwi'n 'nabod un neu ddau, a dwi'n parchu eu penderfyniad nhw a baswn i yn gwneud yr un peth â nhw taswn i yn yr un sefyllfa.
"Dwi'n teimlo drostyn nhw achos maen nhw'n gymaint o gefnogwyr â phawb arall, ac maen nhw eisiau bod yna ond dy'n nhw methu mynd achos beth fasan nhw'n wynebu.
"O'n i byth eisiau cael Cwpan y Byd yn Qatar - mae'n hurt - ond alla i ddim newid pethau sy'n mynd ymlaen yna.
"Ac os yw'r tîm yn mynd, ac mae'r holl dimau yn mynd, wel dwi'n mynd i gefnogi fy nhîm ac nid i gefnogi llywodraeth Qatar.
"Ond mi wnes i feddwl o ddifri' [am beidio mynd] ond canlyn y tîm ydw i. Rhaid i ni fynd i gefnogi ein gwlad!"
Bydd Cymru yn un o 10 tîm fydd yn cymryd rhan yn ymgyrch OneLove, sy'n anelu at ddefnyddio pêl-droed fel ffordd o ddod â phobl at ei gilydd, hyrwyddo cynhwysiant a gwrthwynebu gwahaniaethu o unrhyw fath.
Mae disgwyl i gapteiniaid y timau - gan gynnwys Gareth Bale - wisgo bandiau braich lliwgar yr ymgyrch yn ystod eu gemau.
Fe wnaeth y mudiad hawliau dynol Human Rights Watch (HRW) ymchwil y llynedd ar y system o warcheidiaeth gwrywaidd sy'n bodoli yn Qatar, sydd, yn ôl HRW, yn gadael merched heb ryddid sylfaenol.
Yn ôl HRW mae'n rhaid i fenywod yn Qatar gael caniatâd gan warcheidiwr gwrywaidd cyn priodi, astudio dramor, gweithio i'r llywodraeth a theithio o'r i'r wlad.
Aeth Lindsey Phillips - sydd nawr yn byw yn Y Trallwng - i weithio i Qatar am bum mlynedd rhwng 2005 a 2010.
Bu'n gyfrifol am y gwaith o adeiladu parc gwyddoniaeth a thechnoleg, ac mae'n cofio'r profiad o geisio cyflwyno ei hun i ddynion o Qatar yn ei chyfarfod cyntaf yn y wlad.
"Dwi'n cofio cerdded i mewn ac estyn llaw ac roedd pob un yn gwrthod ysgwyd llaw gyda fi," meddai.
"Roedd pob un yn rhoi ei law ar ei galon, ond yn gwrthod ysgwyd llaw gyda fi fel merch mewn busnes, ac roedd hynny'n anodd.
"Ond wnaeth o wneud i fi eisiau profi rhywbeth, profi fy mod i'n gallu gwneud y gwaith.
"Dwi'n cofio hefyd gwneud cyfweliadau ar gyfer swyddi ar y parc gwyddoniaeth a daeth dwy neu dair o fenywod ifanc i'r cyfweliad efo'u tadau.
"I ni o'r wlad yma roedd hynny'n rhyfedd, ond maen nhw'n gweld e fel rhywbeth hynod o bositif, eu bod nhw'n gwarchod eu merched nhw."
Mae Rhian Davies, sy'n byw ger Llansilin yng ngogledd Powys, yn aelod o'r Wal Goch - clwb cefnogwyr Cymru.
Mae'n mynd i Qatar gyda ffrindiau, tra bod ei gŵr Bryn yn aros adre' ar y fferm.
"Mae o yng nghefn meddwl rhywun beth ydy agwedd y wlad at hawliau dynol, at bobl hoyw, at ferched. Ydy, mae'n poeni rhywun yn egwyddorol," meddai.
"Ond gobeithio fod cael llygaid y byd ar Qatar yn mynd i newid a datblygu'r pethau yna.
"Dwi'n falch iawn bod dyn yn dod fel rhan o'n grŵp ni, achos o siarad gyda phobl eraill sydd wedi bod allan yna bydda i'n teimlo'n saffach."
Mae gwefan sy'n hyrwyddo twristiaeth yn Qatar yn cynghori ymwelwyr i beidio â bod yn or-gorfforol neu gofleidio pobl eraill mewn mannau cyhoeddus.
Dyw Rhian ddim yn siŵr beth fydd goblygiadau'r rheol yma i gefnogwyr pêl-droed.
"Dwi'n gwybod yn bersonol os ydy Cymru yn gwneud yn dda a falle os dwi wedi cael diod, yn naturiol bydda i eisiau rhoi cwtsh i bawb o Gymru dwi'n gweld.
"So bydd hynny'n rhywbeth rhyfedd oherwydd dy'n nhw ddim yn caniatáu public displays of affection fel maen nhw'n dweud, so bydd hynny'n brofiad rhyfedd i ni'r Cymry sydd wrth ein bodd efo cwtshys ac wrth ein bodd gyda chanu."
Mae gan Lindsey Phillips ychydig o gyngor i unrhyw gefnogwyr sy'n mynd draw i Qatar.
"O ran gwisg ac o ran parch, y disgwyliadau i ferched yw dim arddangos ysgwyddau a phengliniau," meddai.
"Mae dangos breichiau, wyneb a gwallt yn iawn, ac mae'n iawn i wisgo sandals - mae'n boeth yna!
"Ond tip bach arall, mae'r wlad wedi'i gosod fyny ar gyfer y gwres ac (oherwydd systemau awyru) mae'n gallu bod yn oer bob man tu fewn. O'n i'n arfer mynd â siwmper i'r sinema!
"O ran yfed, falle'r hyn fydd yn atal pobl rhag yfed gormod yw'r prisiau!
"Pan o'n i'n byw yna ro'n i'n cael yfed yn y gwestai mawr - mae'n rhaid i'r llefydd sy'n cynnig alcohol gael permit i wneud hynny.
"Y cyngor o'n i'n cael tra o'n i'n byw yna oedd fod bod yn feddw mewn lle cyhoeddus yn anghyfreithlon.
"Derbyniwch nad ydych chi'n mynd i Ffrainc neu Gaerdydd - 'dach chi'n mynd i wlad Fwslemaidd ac mae 'na bethau o fewn eu diwylliant dy'n nhw ddim yn gwneud ac mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol o hynny."
Hyrwyddo'r Gymraeg o fewn pêl-droed
A hithau'n fis union cyn dechrau Cwpan y Byd, bydd partneriaeth newydd yn cael ei lansio dydd Iau sy'n anelu at gryfhau sgiliau Cymraeg chwaraewyr Cymru a'r staff sy'n eu cefnogi.
Bydd y bartneriaeth rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn datblygu rhaglen addysgu arbennig ar gyfer carfan Cymru a'r staff cynorthwyol.
Fe fydd yr hyfforddiant Cymraeg ar gael ar wahanol lefelau, o ddechreuwyr i lefel sy'n addas ar gyfer unigolion sydd angen codi eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg.
Hefyd fe fydd y bartneriaeth yn darparu cwrs hunan-astudio ar-lein fydd wedi'i deilwra ar gyfer y byd pêl-droed a chwaraeon.
Bydd y cwrs 10 awr yn cyflwyno geiriau ac ymadroddion pob dydd a bydd ar gael i dimau lleol, hyfforddwyr a chefnogwyr Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2022
- Cyhoeddwyd13 Awst 2022
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2022