Cyhuddo 13 yn dilyn ffrwgwd ym mynwent Treforys, Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae 13 o bobl - naw o ddynion a phedwar o fechgyn yn eu harddegau - wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â ffrwgwd "dychrynllyd" ym Mynwent Treforys, Abertawe dros ddeufis yn ôl.
Cafodd dau berson anafiadau difrifol yn y ffrwgwd a ddigwyddodd ddydd Gwener 5 Awst.
Dywed Heddlu De Cymru bod yr holl ddiffynyddion yn nabod ei gilydd, ac y byddai gweld grŵp o bobl yn defnyddio arfau yn erbyn ei gilydd yng ngolau dydd wedi codi ofn mawr ar bobl eraill.
Mae pedwar o'r diffynyddion wedi cael eu cadw yn y ddalfa hyd nes eu hymddangosiad llys nesaf:
James Coffey, 45, o Dredelerch;
Jeffrey Tawse, 24, o Dredelerch;
John Coffey yr ieuaf, 24, o Dredelerch; a
Patrick Joseph Murphy, 40, o Lanelli.
Mae'r gweddill wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth:
Bachgen 16 oed o Dredelerch;
Bachgen 17 oed o Dredelerch;
Bachgen 17 oed o Lanelli;
Andrew John Thomas, 40, o Llanelli;
John Joe O'Brien, 53, o Lanelli;
John Murphy yr ieuaf,18, o Lanelli;
Martin John O'Brien, 57, o Llanelli;
Paddy Murphy, 18, o Llanelli; a
Bachgen 16 oed o Lanelli.
Mae mwyafrif y diffynyddion yn wynebu dau gyhuddiad yr un, sef anhrefn dreisgar a bod ag arfau yn eu meddiant.
Mae dau, sef James Coffey ac Andrew John Thomas, hefyd wedi eu cyhuddo o yrru'n beryglus.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Mike Owens fod Heddlu'r De wedi cydweithio gyda lluoedd eraill wrth ymchwilio i'r achos ac arestio'r diffynyddion.
"Roedd hwn yn ddigwyddiad hollol ddychrynllyd a fyddai wedi brawychu pwy bynnag oedd yn y fynwent yng nghanol y dydd," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2022
- Cyhoeddwyd5 Awst 2022