Stad dai yn cynhyrchu ei ynni ei hun i dorri ar filiau

  • Cyhoeddwyd
Stad PenderiFfynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae paneli solar yn cael eu gosod ar rai tai ar stad Penderi, ond mae modd i bawb ar y stad gael budd ohonynt

Mae tai ar stad yn Abertawe wedi'u cysylltu â chynllun rhannu ynni gwyrdd unigryw, sy'n gweld eu cartrefi'n rhedeg yn rhannol ar fatri.

Mae'r dechnoleg wedi cael ei osod mewn tua 200 o gartrefi hyd yma, ond bydd 644 o gartrefi yn rhan o'r cynllun yn y pendraw.

Mae pŵer o baneli solar ar gartrefi stad Penderi yn cael ei ddefnyddio i ailwefru batris yn y tai, gan arbed arian a lleihau allyriadau.

Mae'r Gweinidog Tai, Julie James, wedi disgrifio'r cynllun fel un "trawsffurfiol".

Haneru biliau

Dywedodd Nikita Harris, 26, fod y cynllun wedi arbed swm sylweddol o arian iddi, a "ble ro'n i'n arfer poeni am filiau, does dim angen i mi boeni nawr".

Yn ei thŷ teras hi ar y stad, mae'r batri wedi'i osod ar y wal wrth y drws ffrynt.

Wrth geisio defnyddio peiriannau mawr fel y peiriant golchi yn ystod golau dydd yn unig, dywed Nikita, sy'n fam i ddau o blant, fod y cynllun wedi eu helpu i haneru eu bil trydan.

Disgrifiad o’r llun,

"Ble ro'n i'n arfer poeni am filiau, does dim angen i mi boeni nawr," meddai Nikita Harris

"Ro'n i'n arfer gwario £20 yr wythnos ar drydan, ond nawr gyda'r paneli solar a'r batri rwy'n gwario £10," meddai.

"Trwy gael y batri yn fy nghartref... rwy'n gallu ymlacio ychydig.

"Mae'n anodd gweld pobl yn dweud eu bod yn gorfod penderfynu rhwng bwyd a thrydan. Mae'n amser pryderus i bawb ond mae hyn wedi helpu."

Gobaith ehangu ledled Cymru

Gyda 200 o gartrefi wedi'u cysylltu hyd yma, dywedodd y darparwr tai cymdeithasol, Pobl, fod y stad eisoes wedi torri ar faint o bŵer sy'n cael ei gymryd o'r grid cenedlaethol.

Mae disgwyl i'r tai gynhyrchu hyd at 60% o'r trydan maen nhw'n ei ddefnyddio, gan leihau eu biliau a thorri ar allyriadau carbon.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Solitaire Pritchard o'r darparwr tai cymdeithasol, Pobl, mai'r gobaith yw ehangu'r cynllun

Dywedodd Pobl mai dyma'r cynllun ôl-ffitio mwyaf o'i fath yn Ewrop, a gobaith y cwmni yw y bydd yn esiampl o'r hyn allai ddigwydd ledled Cymru.

"Ry'n ni'n gobeithio dysgu sut mae pobl yn byw gyda'r dechnoleg," meddai cyfarwyddwr adfywio Pobl, Solitaire Pritchard.

"Y gobaith yw y gall yr hyn ry'n ni'n ei ddysgu yma gael ei rannu ar draws y sector ac yna ei weithredu ar gyfer Cymru gyfan."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Anne-Marie Ratcliffe mai'r "rhan sydd wir yn arloesol ydy'r elfen o rannu ynni"

Cwmni ynni Sero sy'n gyfrifol am y gwaith o ôl-ffitio'r tai gyda'r dechnoleg newydd.

Dywedodd rheolwr prosiect y cwmni, Anne-Marie Ratcliffe mai'r "rhan sydd wir yn arloesol ydy'r elfen o rannu ynni".

"Os dydych chi methu cael paneli solar ar eich cartref chi, mae 'na dal fodd i chi gael budd o'r cynllun," meddai.

Ychwanegodd y bydd unrhyw bŵer dros ben sy'n cael ei gynhyrchu ym Mhenderi yn cael ei werthu 'nôl i'r grid cenedlaethol, a'r rheiny sy'n rhan o'r cynllun fydd yn rhannu'r elw.

Cafodd y cynllun ei ariannu trwy grant o £3.5m gan yr Undeb Ewropeaidd, £1.5m gan Pobl, a £900,000 gan gwmni Western Power.