Cyfraddau llog a busnesau bach: 'Bydd pethau'n anodd'
- Cyhoeddwyd
"Dwi'n meddwl yn y dyfodol y bydda ni'n saff, just bod ganddo ni adegau anodd o flaen ni, i ddeud y gwir."
Yn ei garej ym Mangor, mae Stuart Thomas yn ceisio bod yn bositif, ond mae'r rhagolygon y bydd cyfraddau llog yn cynyddu eto yn bryder.
Mae'n hyderus y bydd y busnes teuluol yn goroesi'r cyfnod yma, ond mae'n cyfaddef y bydd rhaid pasio costau ymlaen i gwsmeriaid, wrth i filiau, costau a chyfraddau llog godi.
Mae Banc Lloegr wedi cynyddu'r gyfradd llog swyddogol i 3% ddydd Iau - y lefel uchaf ers 2008, a'r cynnydd unigol uchaf ers 1989.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd hynny'n "gwneud sefyllfa anodd hyd yn oed yn waeth" i fusnesau a'r cyhoedd.
Sefydlwyd Gwasanaeth Teiars Bangor dros 20 mlynedd yn ôl ac fe brynodd Stuart Thomas y busnes gan ei dad yn ddiweddar.
Mae'n blaenoriaethu rhoi gwerth am arian i'w gwsmeriaid, ond mae hynny'n fwy heriol yn yr amgylchiadau presennol.
"Mae [y cynnydd mewn cyfraddau llog] yng nghefn meddwl ni fel busnas - trio rhoi value for money i'r cwsmer ydi'r priority i ni," meddai.
"Efo prisia' bob dim yn codi, ma' petha'n mynd i fynd yn anodd yn anffodus. Ma'r prisiau no doubt yn mynd i godi ar ddiwedd y dydd i'r cwsmar."
Mae unrhyw gynnydd mewn cyfraddau yn cael effaith ar allu'r cwmni i ehangu hefyd.
"Os 'dan ni angan rhywbeth newydd i'r busnas, fydd rhaid ni weld be 'di sefyllfa pres wedyn a reviewio fo bob mis," ychwanegodd.
"Os ydan ni'n ffendio bod petha'n mynd yn dynn, fydd raid i ni ddal yn ôl a peidio prynu equipment."
Mae Stuart yn dweud ei fod wedi cynyddu cyflogau ei weithwyr er mwyn ceisio sicrhau eu bod nhw'n gallu delio gyda'r cynnydd mewn costau byw.
Ond mae yntau hefyd yn wynebu biliau sylweddol gyda'r busnes.
"Dan ni'n dibynnu lot ar 'lectric yma. Ma'r garej yn eitha' prysur trwy'r dydd - rampia' yn mynd i fyny a lawr.
"Ma' bob dim yn revolvio rownd 'letric yn anffodus. So ma hynny wedi effeithio arnon ni.
"Ma 'lectric wedi mynd o tua £800 y mis i just o dan £3,000 y mis 'ŵan."
Bil sylweddol
Mae heriau Stuart yn rhai cyfarwydd i Myf Hywel, 21. Sefydlodd Myf's Kitchen yn ystod y cyfnod clo ac mae ganddi bellach uned yng nghanol Y Fenni.
Mae hi'n coginio a pharatoi prydau parod ac yn eu gwerthu i unigolion a busnesau.
"Y pryder mwyaf ydi biliau ynni," meddai. "Mae gen i'r oergelloedd ymlaen trwy'r dydd... Rhewgelloedd, dydyn nhw byth i ffwrdd felly mae bil sylweddol o hyd yn dod trwy'r drws."
Fe gafodd hi fenthyciad i brynu offer coginio gyda chyfradd llog wedi ei gosod.
Ond mae'n poeni wrth edrych ymlaen at flwyddyn nesaf, pan ddaw'r cytundeb i ben, gyda rhagolygon y bydd cyfraddau'n parhau i godi.
"Sut ydw i'n mynd i dalu'n ôl pan mae'r misoedd yn dawelach?"
Beth yw'r diweddaraf?
Fe wnaeth Banc Lloegr gynyddu'r gyfradd llog swyddogol 0.75% i 3% ddydd Iau - y cynnydd unigol mwyaf ers 1989. Dyw cyfraddau llog heb gyrraedd 3% ers yr argyfwng ariannol byd-eang yn 2008.
Yn ogystal â tharo busnesau gyda benthyciadau, mae'r cynnydd yn cael effaith ar forgeisi unigolion a maint ad-daliadau benthyciadau eraill.
Pryderon pobl Pontyberem
Pryder Sion-Dafydd Williams yw a fydd yna effaith ar y benthyciad y derbyniodd gan Lywodraeth y DU i gynnal ei fusnes therapi tylino chwaraeon, wedi misoedd o fethu gweithio yn ystod y pandemig.
"'Sa i'n siŵr beth yw'r diweddara' gyda hwnna, os mae hwnna'n mynd i gynyddu bob mis nawr… ma' popeth yn cynyddu so pam bydde hwnna ddim yn cynyddu?
"Mae bills gyda fi am y lle 'ma a bills gartre wedyn 'ny hefyd, so, ie, bach yn ofnus rili gwybod beth i 'neud am y dyfodol."
Mae hefyd yn ansicr a fydd y sawl sy'n rhentu lleoliad ei fusnes iddo yn cael eu gorfodi gan gyfraddau llog uwch i godi'r rhent iddo yntau.
Mewn sesiwn mam a babis yn Neuadd Pontyberem, roedd Jessica Lowri Howells yn ystyried ei hun yn "lwcus" gan bod ei thaliadau morgais ar raddfa osod am bum mlynedd.
Ond â hithau ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd mae llai o arian yn cyrraedd yr aelwyd am y tro.
"Mae'r busnesau yn pasio'r gost arno i'r cwsmer so mae popeth yn mynd lan i ni ac mae e'n meddwl bod rhaid i ni cuto 'nôl a pheidio mynd ar wyliau a phethe, ac mae e'n drist iddo fe [ei mab, Jack] a phlant y dyfodol."
Mae Elen-Jane Price yn defnyddio'r gwasanaeth Klarna sy'n rhoi tri mis, heb log, i bobl dalu am nwyddau maen nhw'n eu prynu ar-lein.
"Fi'n credu amser ma' popeth yn mynd lan, bydd pobol ffili affordo i dalu nhw ar ddiwedd y mis," meddai.
"Byddan nhw'n codi pethe 'to a bydd y bobl sydd rili angen defnyddio y sites 'ma ar eu colled."
'Gwneud sefyllfa anodd yn waeth'
Dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru Rebecca Evans y bydd y cynnydd yn "gwneud sefyllfa anodd hyd yn oed yn waeth i lawer o bobl a busnesau sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd".
"Mae Banc Lloegr wedi rhybuddio ein bod yn wynebu dirwasgiad hir a dwfn sy'n peryglu swyddi, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus," meddai.
"Rhaid i'r Canghellor ddefnyddio datganiad yr hydref i droi cefn ar fesurau cyni ac, yn hytrach, i fuddsoddi yn y Deyrnas Unedig a darparu pecyn cymorth costau byw ystyrlon sydd wedi'i dargedu."
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies wrth BBC Cymru brynhawn Iau fod chwyddiant wedi codi oherwydd "y sefyllfa yn Wcráin" a'r pandemig, ac felly bod yn rhaid i gyfraddau llog gynyddu er mwyn cadw chwyddiant dan reolaeth.
Ychwanegodd ei fod yn "derbyn fod gan filiynau o bobl broblemau ariannol ar hyn o bryd oherwydd y sefyllfa", ond "does dim cwpwrdd yn llawn arian yn San Steffan nac unrhyw le arall".
"Wedi dweud hynny, mae'r Canghellor yn mynd trwy'r ffigyrau ar hyn o bryd a bydd yn dod ymlaen gyda datganiad yr hydref ar 17 Tachwedd," meddai.
"Y peth pwysicaf ydy canolbwyntio ar y rheiny sy'n ennill y lleiaf o arian - rheiny sy'n vulnerable - a dyna mae'r Canghellor yn mynd i'w wneud."
Pam bod hyn yn digwydd?
Bwriad Banc Lloegr, wrth osod lefel cyfraddau llog, yw ceisio sefydlogi'r economi.
Wrth gynyddu'r gyfradd llog, mae'r banc yn gobeithio arafu chwyddiant, gyda phrisiau wedi bod yn codi ar y gyfradd gyflymaf ers bron i 40 mlynedd.
Mae'r Banc yn delio â sgil-effeithiau un o gyfnodau mwyaf cythryblus economi'r DU wedi cyllideb fechan llywodraeth Liz Truss fis Medi.
Arweiniodd y gyllideb at gwymp yng ngwerth y bunt, cynnydd cyfraddau llog morgeisi, rhai cwmnïau'n stopio cynnig morgeisi, ac fe gollogg y canghellor, Kwasi Kwarteng a'r prif weinidog eu swyddi.
Beth mae'n olygu?
Yn ôl Nerys Fuller-Love o Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth, bydd cynnydd mewn cyfraddau llog yn golygu y bydd costau popeth yn cynyddu.
"Mae popeth yn mynd i gostio mwy," meddai.
"Os ydi cyfraddau llog yn mynd i fyny, mae pobl yn mynd i boeni am forgeisi yn bennaf. Ond mae unrhyw un gyda benthyciad yn mynd i orfod talu mwy.
"Hefyd mae busnesau yn mynd i orfod talu mwy a mae hynny'n mynd i godi prisiau yn fwy eto mewn siopau, llefydd bwyta', gwestai a llefydd felly."
Mae'n dweud bod ansicrwydd yn golygu nad yw banciau'n gallu benthyg arian yn hawdd, sy'n lleihau eu gallu i ddatblygu neu ehangu.
"Be' sy' 'di digwydd hefyd, mae cyfraddau llog yn codi, mae [yna] chwyddiant, mae pobl yn gwario llai. Mae pawb yn poeni sut y maen nhw'n mynd i dalu eu biliau gaeaf yma. Felly maen nhw'n torri'n ôl ar y pethau di-angen.
"Mae hynny'n mynd i gael effaith mwy ar fusnesau. A hefyd mae nhw [busnesau] yn wynebu costau mwy a pobl yn gwario llai. Felly mae'r ddau beth gyda'i gilydd yn mynd i gael effaith negyddol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2022