Gaeaf ansicr i fusnesau wrth i gwsmeriaid wario llai
- Cyhoeddwyd
"Fyddech chi ddim mewn busnes os nad oeddech chi'n optimistig."
Yn y Sied Goffi yng Nghaerfyrddin mae'r perchennog, Lisa Fearn, yn wynebu gaeaf ansicr wrth i gwsmeriaid wario llai.
Gobaith Lisa yw y bydd y dref yn goroesi'r tywydd economaidd tymhestlog - ond dyw pawb ddim yn rhannu ei hyder.
Crebachodd economi'r DU ym mis Awst, gyda Banc Lloegr yn disgwyl dirwasgiad erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae gweinidog economi Cymru, Vaughan Gething, yn proffwydo "amseroedd anodd iawn" os daw dirwasgiad.
Dros y misoedd diwethaf mae'r straeon newyddion am yr economi yn niferus.
Daeth llawer o ansicrwydd wrth i brisiau am fwyd a thanwydd godi, effeithiau cyfraddau llog ar gostau benthyg, ac ymateb chwyrn y marchnadoedd rhyngwladol.
Mewn cyfnodau arferol mae'r economi yn tyfu, ac mae modd i fusnesau ehangu a'r wlad yn gyfoethocach o ganlyniad.
Ond mae hi'n gyfnod anarferol iawn ar hyn o bryd.
Mae arbenigwyr ar yr economi yn darogan bydd maint yr economi Prydeinig yn lleihau, gan godi pryderon y bydd cwmnïau yn torri nôl a bydd pobl yn gwario llai.
Penderfyniadau anodd
"Mae'n gyfnod diddorol. Ar yr un llaw rydyn ni'n hyderus, ond ar y llaw arall rydyn ni'n gorfod cadw llygaid ar y ffigyrau," meddai Lisa Fearn.
Mae ganddi gwsmeriaid ffyddlon sy'n dod i'w Sied Goffi, tra bod hi'n rhedeg siop goffi arall yn Yr Egin yn ogystal ag ysgol goginio.
"Ni'n gweld bod pobl yn pryderu mwy am ble maen nhw'n gwario arian, ac maen nhw'n fodlon gwario ar bethau sydd tipyn bach yn fwy rhad - fel coffi a chacen - ond falle ddim ar ddosbarth coginio, sydd yn costio tipyn bach yn fwy."
Mae'r sefyllfa yn creu penderfyniadau anodd tra bod costau rhedeg busnes yn codi hefyd.
"Ni'n clywed bod ein costau coffi ni, sef bag kilo o goffi, yn mynd lan punt wythnos yma. Mae wedi mynd lan tair punt yn ystod y tair blynedd diwethaf. Felly ry' ni'n gorfod rhoi costau lan. Ac mae'n anodd, weithiau, i esbonio i gwsmeriaid pam bod hyn yn gorfod digwydd."
Erbyn diwedd y flwyddyn fe fydd economi y DU yn wynebu dirwasgiad, yn ôl rhagolygon Banc Lloegr, er y bydd hi rhai misoedd ar ôl hynny cyn bod ffigyrau cadarn yn dangos faint mae'r economi wedi crebachu.
Diffiniad swyddogol unrhyw ddirwasgiad ydy dau chwarter olynol o dwf negatif.
Mae hynny'n golygu y byddai'r economi wedi crebachu dros gyfnod o chwe mis, yn hytrach na thyfu, pan fydd dirwasgiad swyddogol wedi'i ddatgan.
'Mor ansicr'
Ers misoedd mae busnes ym marchnad Caerfyrddin wedi arafu, ac mae stondinwyr yn dweud bod cwsmeriaid yn gwario llai.
"Ma' pethe wedi newid llawer ers y Covid, ond ma' pethau wedi newid mwy nawr ers costau byw," meddai Tracey Jones.
Bellach mae pobl yn amharod i wario llawer ar gardiau, ac mae Tracey yn credu bod straeon newyddion yn gwneud y sefyllfa'n waeth.
"Bendant mae'n gwneud ni gyd fod yn ansicr," meddai.
"Mae'r costau 'da fi fan hyn nawr yn y farced wedi codi gyda electric… Ond yn anffodus fi ffili codi cost y cardie achos dim ond ychydig arian ma' bobl yn fodlon hala, ma' limit i gael."
Negyddol ydy'r dyfodol, yn ôl Tracey.
"Fi'n ofni. Na, dwi ddim yn optimistig. Achos ma' be fi'n cymryd mewn nawr o gymharu gyda cyn Covid wedi cwympo tipyn.
"Beth yw'r dyfodol nawr, ar ôl y Nadolig? 'Wi ddim yn siŵr, achos bydd hi fwy tawel ar ôl Nadolig."
'Cyfnod anodd iawn'
Dywedodd gweinidog economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething y byddai dirwasgiad yn arwain at "gyfnod anodd iawn".
Dywedodd y byddan nhw'n "amseroedd anodd i unigolion a busnesau. A Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd gyda'r arfau mwyaf i helpu pobl."
Er gwaethaf hynny, dywedodd Mr Gething y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i "edrych ar feysydd ein heconomi sy'n dal i allu tyfu a datblygu."
Cyfeiriodd at benderfyniad y cwmni lled-ddargludyddion SPTS i fuddsoddi dros £90m mewn adeilad newydd yng Nghasnewydd, gan adleoli ei staff yng Nghasnewydd i'r safle newydd.
Mewn seremoni i nodi dechrau'r gwaith adeiladu, dywedodd Mr Gething fod y llywodraeth wedi chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y buddsoddiad yn mynd yn ei flaen.
Er gwaethaf y rhagolygon economaidd, dywedodd Mr Gething fod yna "lawer o bobl sydd â diddordeb mewn buddsoddi yng Nghymru o hyd."
Ychwanegodd Mr Gething mai "rhan o'n her yw'r adnoddau y gallwn eu defnyddio, sy'n ymwneud â'n cyllideb a'r her gyllidebol sylweddol sydd gennym.
"Mae hefyd yn ymwneud â'n gallu i barhau i fuddsoddi mewn pobl, ac mae hynny dal angen arian. Ond mae'r sgiliau sydd ar gael, a'r bobl, yn rhan fawr o'r buddsoddiadau hynny sy'n digwydd."
Hyder yng Nghaerdydd
Wrth i'r gwaith ddechrau ar safle'r ffatri lled-ddargludyddion yng Nghasnewydd, mae buddsoddiad gwerth biliwn o bunnoedd yng Nghaerdydd gan gronfa bensiwn Legal and General bron wedi'i gwblhau.
Mae gwaith wedi dechrau i ailddatblygu hen safle bragdy Brains, lle bydd fflatiau a siopau yn llenwi ardal y mae'r marchnatwyr wedi'i galw'n Central Quay.
Buddsoddodd L&G yn natblygiad y Sgwâr Canolog ym mhrifddinas Cymru, sydd wedi gweld cyfres o swyddfeydd enfawr yn llenwi'r ardal o flaen yr orsaf ganolog, gan gynnwys pencadlys newydd BBC Cymru.
"Wrth gwrs, rydyn ni'n hollol ymwybodol o'r rhagolygon economaidd, ariannol a geo-wleidyddol heriol sy'n ein hwynebu yn y misoedd nesaf," meddai Tom Roberts, y Cymro sy'n bennaeth ar gangen buddsoddiadau strategol L&G.
"Ond yn Legal and General, lle rydyn ni'n fuddsoddwyr hirdymor, mae gennym ni wir hyder yn y dyfodol, ac rydyn ni'n barod i fod yn amyneddgar.
"Ac mae ein hyder yn y dyfodol wedi caniatáu i ni fuddsoddi gyda'r fath argyhoeddiad mewn lleoliadau fel Caerdydd."
Yng Nghaerfyrddin, mae perchnogion busnesau yn canolbwyntio ar yr hinsawdd dymhestlog yn y tymor byr.
Yn ei siop goffi, mae Lisa Fearn yn dal i gredu bod angen un peth penodol: hyder.
"Does yna'r un ffordd arall i oroesi neu i lwyddo," meddai.
"Fydde chi ddim mewn busnes os nad oeddech chi'n optimistig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd30 Medi 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2022