Covid: Biliau treth 'annheg' i berchnogion llety gwyliau
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion busnesau gwyliau hunanarlwyo mewn "sioc" ar ôl cael eu taro gan filiau treth cyngor "annheg" er iddyn nhw ddilyn rheolau Covid.
Yn ôl y rheolau, mae'n rhaid i lety gwyliau fod ar osod am o leiaf 70 noson er mwyn cael ei ystyried yn gwmni, ac felly bod yn gymwys i dalu trethi busnes a derbyn gostyngiadau.
Ond cafodd sawl un drafferth wrth geisio cyrraedd y trothwy hwn yn 2020-21 oherwydd cyfyngiadau Covid, gan olygu eu bod wedi gorfod talu miloedd mewn treth cyngor yn lle.
Dywedodd perchennog llety ar Ynys Môn ei bod wedi derbyn bil o £3,600 er ei bod "wedi dilyn y rheolau".
Mynnodd Llywodraeth Cymru fod "mwyafrif y busnesau" wedi cael eu gosod "am o leiaf 70 diwrnod", a bod gan gynghorau'r hawl i leihau biliau os ydyn nhw eisiau gwneud hynny.
Er hynny, mae cynrychiolwyr y diwydiant yn dweud y dylai'r llywodraeth ryddhau arian fel bod cynghorau'n gallu eithrio'r rheiny sydd wedi cael bil.
Mae Heather Trappe yn rhedeg tŷ gwyliau mawr ym Miwmares, Sir Fôn. Eleni, fe dderbyniodd fil treth cyngor o £3,600 am 2020-21.
Dim ond ar 52 noson y cafodd y llety ei ddefnyddio y flwyddyn honno, er bod 112 noson wedi eu harchebu yn wreiddiol.
'Anghywir ac annheg'
Yn ôl Ms Trappe, roedd hi'n anodd llenwi'r plasty oherwydd y cyfnodau clo a'r mesurau oedd yn atal grwpiau mawr a phobl o wahanol aelwydydd rhag dod at ei gilydd.
Cafodd ei "siomi" gan y llythyr ddaeth drwy'r drws gan Gyngor Sir Ynys Môn.
"Roedd hyn yn dipyn o sioc achos roedd y cyngor a'r Senedd wedi rhoi cefnogaeth dda yn ystod cyfnod Covid, wedyn ddwy flynedd wedyn, [dyma nhw'n] gofyn i mi dalu bil mawr, oherwydd fy mod wedi dilyn y rheolau," meddai.
"Mae hyn yn ymddangos mor anghywir ac annheg."
Dywedodd bod Llywodraeth Cymru yn "anghyson yn ei chefnogaeth i ddarparwyr llety fel ni".
"Mae hyn yn achosi cynnydd mawr mewn costau ar adeg pan rydym yn wynebu prinder staff, codiadau enfawr mewn biliau ynni a chostau cyffredinol," meddai.
Un arall sydd wedi cael bil annisgwyl yw Gerard Murphy o Landeilo, Sir Gaerfyrddin, a drodd ei garej yn llety gwyliau bum mlynedd yn ôl.
Ar ôl gorfod talu treth cyngor o £1,600 ar yr adeilad, mae'n ystyried chwalu'r ystafell ymolchi a'r gegin a'i droi'n ôl yn garej.
"Os ydych chi'n rhedeg y lle fel busnes, sut all rhywun yrru bil i chi ddwy flynedd wedyn?" gofynnodd.
"Bydd pobl yn cau [eu busnesau] ac eraill yn codi prisiau. Does dim llawer o elw yn hyn, felly ydw i wir angen y stress a'r pryder?"
Mae tua 10,500 llety hunan arlwyo yng Nghymru yn gymwys i dalu cyfraddau annomestig, sef trethi busnes.
I fod yn gymwys, mae'n rhaid i lety fod ar gael i'w osod am 140 diwrnod y flwyddyn, a bod ar osod am 70 o'r rheiny.
Penderfynodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) - y corff sy'n pennu pa fath o drethi mae pobl a busnesau'n gorfod eu talu - beidio a datgelu faint ohonyn nhw sydd nawr yn gorfod talu treth cyngor am 2020-21.
Yn ôl cymdeithas PASC UK - sefydliad busnesau hunan-arlwyo - mae'n "anhygoel" fod Llywodraeth Cymru ddim yn gweithredu, o ystyried bod y wlad dan gyfyngiadau am wyth mis o'r flwyddyn ariannol 2020-21.
"Mewn rhai siroedd doedd busnesau prin yn cael agor am 70 diwrnod," meddai eu cadeirydd, Alistair Handyside.
Pryd gafodd busnesau eu heffeithio?
23 Mawrth 2020 - Cyfnod clo cyntaf
11 Gorffennaf 2020 - Ailagor llety hunan-arlwyo, ond cyfyngiadau ar gyfarfod ag aelwydydd eraill yn parhau
Medi-Hydref 2020 - Cyfnodau clo lleol mewn sawl sir
23 Hydref-9 Tachwedd 2020 - Clo byr yng Nghymru
19 Rhagfyr 2020 - Cyfnod clo arall
27 Mawrth 2021 - Ailagor llety hunan-arlwyo
Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru yn galw ar y llywodraeth i roi cyllid i gynghorau fel eu bod yn gallu ysgwyddo'r baich ariannol o eithrio'r rheiny sydd wedi cael biliau treth cyngor.
"Beth hoffwn i weld yw'r gweinidog [Rebecca Evans AS] yn bod yn fodlon i roi arian," meddai eu cadeirydd, y cyn-AS Ceidwadol Suzy Davies.
"Dydy hynny ddim yn lot o arian - jyst help i gynghorau i ddweud 'eleni, does dim angen i chi dalu treth cyngor'.
"Maen nhw'n gwybod roedden nhw'n talu trethi busnes y flwyddyn cynt, a'r flwyddyn nesaf mi fyddan nhw'n talu trethi busnes."
Y risg, meddai, yw bydd pobl yn cefnu ar y diwydiant, o ystyried yr argyfwng costau byw a'r newidiadau sydd ar y gweill i reolau llety hunan-arlwyo.
O Ebrill 2023 bydd yn rhaid i lety gael ei osod am 182 diwrnod a bod ar gael am 252 diwrnod i gael talu trethi busnes.
"Mae'n gallu bod yn last straw iddyn nhw, ac rydym wedi clywed gan rai ohonyn nhw [sy'n dweud] 'rydym wedi cael digon nawr', yn enwedig gyda'r polisïau eraill sy'n dod lawr y ffordd gan y llywodraeth," meddai Ms Davies.
Wrth ymateb i sefyllfa Heather Trappe, dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn bod eu polisi'n "caniatáu eithriad pe bai'r trethdalwr yn wynebu caledi ariannol" a bod "cost unrhyw eithriad… yn disgyn ar drethdalwyr".
Ychwanegodd llefarydd bod 'na gwestiynau ehangach ynghylch y penderfyniad i symud y busnesau hyn i'r gofrestr treth cyngor o ystyried y cyfyngiadau Covid, ond mai mater i'r VOA ydy hynny.
Pwysleisiodd Cyngor Sir Gaerfyrddin hefyd, mewn ymateb i sylwadau Gerard Murphy, mai'r "Swyddfa Brisio sy'n rhoi'r cyfarwyddyd i'r awdurdod lleol ynghylch a yw eiddo yn cael ei ystyried yn eiddo domestig, ar gofrestr y dreth gyngor, neu'n eiddo annomestig ar y rhestr ardrethi".
Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, bod yna "ddisgresiwn i ddyfarnu disgownt neu ostyngiad yn y dreth cyngor, er dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir hyn ac mae'n rhaid bod yna gyfiawnhad cryf dros gyflwyno'r cais".
"Edrychir ar bob achos yn ôl ei rinweddau ei hun a dim ond yn achos o galedi difrifol, ystyriaeth o sut y mae'r eiddo yn cael ei ddefnyddio ac os yw'r ymgeisydd wedi medru hawlio cymorth / grantiau Covid y gellir defnyddio'r disgresiwn i ostwng y tâl."
'Rhoi arian a diogelu swyddi yn ystod Covid'
Mewn datganiad dywedodd y VOA mai mater i Lywodraeth Cymru oedd unrhyw newid polisi o ran y trothwy trethi busnes.
Pwysleisiodd y llywodraeth, ar y llaw arall, fod gan "awdurdodau lleol bwerau disgresiwn i leihau biliau treth cyngor".
"Mae'r meini prawf gosod yn rhan hanfodol o ddatblygu marchnad dai decach a sicrhau bod perchnogion ail gartrefi a busnesau hunanarlwyo yn gwneud cyfraniad teg i'w cymunedau lleol," meddai llefarydd.
"Er gwaetha'r sefyllfa ar y pryd, cafodd mwyafrif y busnesau eu gosod am o leiaf 70 diwrnod.
"Roedd busnesau hefyd yn gallu gweithredu pan oedd y cyfyngiadau yn caniatáu ac roedd yn hysbys bod y galw'n uchel."
Ychwanegodd eu bod wedi darparu "mwy na £2.6bn mewn cyllid gan amddiffyn dros 160,000 o swyddi" yn ystod y pandemig.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2022
- Cyhoeddwyd31 Mai 2021
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2020