Beth all cefnogwyr Cymru ei ddisgwyl ar ôl cyrraedd Qatar?
- Cyhoeddwyd
Mae carfan Cymru bellach wedi bod yn Qatar ers oriau mân fore Mercher - ac mae disgwyl i'r rhan fwyaf o gefnogwyr y Wal Goch gyrraedd Doha ar hediadau nos Sul a fore Llun.
Bydd y tîm yn dechrau eu hymgyrch yng Nghwpan y Byd nos Lun yn erbyn yr UDA, cyn herio Iran a Lloegr hefyd yng Ngrŵp B.
Felly beth all y miloedd o gefnogwyr ei ddisgwyl pan maen nhw'n cyrraedd y ddinas? A beth yw'r arferion lleol sy'n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonyn nhw yn Qatar?
Dyma'r argraffiadau cyntaf o Doha gan dîm BBC Cymru Fyw.
Tywydd
Er ei bod hi'n aeaf yn Qatar, mae'r tymheredd yn parhau i fod dros 30C yn ystod y dydd - felly cofiwch eich eli haul a het fwced.
Ond dydy'r aer ddim yn llaith, ac mae 'na awel i'w gael bob hyn a hyn, felly dydy'r gwres ddim yn rhy anghyfforddus.
Mae hefyd yn machlud yma am tua 17:00. Yn ystod y dydd mae 'na ddigonedd o bobl allan mewn crysau-T a siorts, yn enwedig cefnogwyr pêl-droed eraill, felly does dim angen poeni am orfod gwisgo llewys hir i bobman.
Ond mae disgwyl i bobl orchuddio eu hysgwyddau a pheidio gwisgo dillad sy'n dangos gormod o groen. Mae hynny'n arbennig o wir os ydych chi'n ymweld â lleoliadau fel adeiladau crefyddol.
Effaith ar y garfan
Mae'r gwres canol dydd eisoes wedi effeithio ar baratoadau Cymru ar gyfer y gystadleuaeth.
Eu bwriad gwreiddiol oedd cynnal sesiynau ymarfer bob dydd am 14:00 yn Doha, ond maen nhw bellach wedi symud hynny ddwy awr yn hwyrach, pan mae ychydig yn llai tanbaid.
Awyrgylch
Does dim llawer o gefnogwyr wedi cyrraedd eto - y Mecsicaniaid sydd fwyaf niferus hyd yma, a thipyn o bobl mewn crysau Brasil ac Ariannin. Ond dydy'r awdurdodau ddim yn disgwyl i'r mwyafrif ddechrau cyrraedd nes y penwythnos.
Bryd hynny, bydd prysurdeb y Metro, sydd ar hyn o bryd yn wag iawn, a'r galw am dacsis a cherbydau Uber yn debygol o gynyddu'n sylweddol.
Byddwch yn barod i wneud tipyn o gerdded o gwmpas y lle hefyd.
Lleoliadau pwysig
Prif ganolbwynt Doha yw'r Corniche - promenâd tua 7km o hyd.
Tip i chi - os ydy rhywun yn awgrymu cwrdd â chi ar y Corniche, gwnewch yn sir eich bod chi'n gwybod yn union lle i fynd ar y Metro neu yn y tacsi, achos dydych chi ddim eisiau gorfod cerdded ei hyd hi!
Mae'r het fwced fawr wedi ei lleoli ym mharc MIA ar ochr ddwyreiniol y Corniche, rhyw 10 munud o gerdded o ardal farchnad draddodiadol y Souq Waqif.
Hanner ffordd ar hyd y Corniche mae Parc Al Bidda, sef lleoliad y parc cefnogwyr mwyaf yn y ddinas.
A tua'r gogledd, yn ardal West Bay, fe wnewch chi ddod o hyd i'r murlun anferth o Gareth Bale ar un o'r tyrrau, yn ogystal â gwesty'r Intercontinental - un o'r rheiny y bydd cefnogwyr Cymru'n ymgynnull ynddi ar ddiwrnod y gemau.
Arferion
Mae rhai o'r arferion i chi gadw mewn cof yn Qatar yn fwy amlwg na'i gilydd.
Mae parchu preifatrwydd yn egwyddor pwysig yma, felly gwell osgoi gwneud pethau fel gofyn gormod o gwestiynau personol i rywun, tynnu lluniau agos o bobl leol heb ganiatâd, a chadw pellter priodol wrth sefyll yn agos iddynt.
Mae defnyddio'ch llaw chwith, yn enwedig i dderbyn pethau, yn cael ei ystyried yn anghwrtais, yn ogystal â dangos gwaelodion eich traed i rywun, neu edrych ar eich oriawr wrth i chi siarad â nhw.
Cost
Mae bwyd a diod ar gael am brisiau rhesymol yma, gan gynnwys ym marchnad Souq Waqif, gyda bwytai lleol tua'r un pris ag adref, neu weithiau dipyn yn rhatach.
Mae'r prisiau'n ddrytach yn y gwestai crand, ond rheiny yw'r unig lefydd lle allwch chi hefyd gael alcohol, oni bai am y parth cefnogwyr.
Mae peint o gwrw o leia' £10 ym mhobman, oni bai am ambell far yn ystod happy hour pan allech chi gael rhai am tua £7.
A fydd dim alcohol ar gael bellach yn ardal y stadiymau, yn dilyn penderfyniad munud olaf gan awdurdodau Qatar.
Dilynwch pob un o gemau Cymru yng Nghwpan y Byd ar lifau byw arbennig BBC Cymru Fyw - gan ddechrau gyda Cymru V UDA nos Lun am 17:00.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2022